xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
18.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan baragraffau 7(1)(b) neu (2) neu o dan baragraffau 15(1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan baragraff 7(1)(a) neu o dan baragraff 15(1)(a), caiff y person a ymgeisiodd am y grant wneud cais i Weinidogion Cymru, yn unol â darpariaethau'r paragraff hwn, am adolygiad o'r dyfarniad hwnnw.
(2) Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn gyrraedd Gweinidogion Cymru ar ddyddiad nad yw'n ddiweddarach na 6 mis ar ôl dyddiad y dyfarniad perthnasol o dan baragraffau 7(1) neu 15(1).
(3) Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo nodi—
(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad ac ar ba sail y mae'r person yn ceisio adolygiad;
(b)pa ddyfarniad gan Weinidogion Cymru sydd i'w adolygu a dyddiad y dyfarniad hwnnw;
(c)manylion o'r seiliau y ceisir yr adolygiad arnynt; a
(d)yn newid a geisir yn y dyfarniad.
(4) Caniateir gwneud cais o dan y paragraff hwn drwy'r post neu drwy ffacs neu ddull cyfathrebu electronig arall sy'n caniatáu atgynhyrchu.
(5) Pan wneir cais o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dyfarniad a nodir ynddo, dod i benderfyniad terfynol arno a hysbysu'r person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto, mewn ysgrifen.
(6) Wrth adolygu dyfarniad, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a gyflwynwyd gan y ceisydd (pa un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael ai peidio ar yr adeg y gwnaed y dyfarniad);
(b)gwahodd y ceisydd i ddarparu pa bynnag wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad ac a ystyrir yn briodol ganddynt ; ac
(c)rhoi cyfle i'r ceisydd roi tystiolaeth a gwneud sylwadau yn bersonol neu drwy gynrychiolydd.
19.—(1) Os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 7(1) neu o dan baragraff 15(1)—
(a)bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi ei dorri neu nad oes cydymffurfiad ag ef; neu
(b)bod y ceisydd wedi cyflawni trosedd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny(1),
cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant neu unrhyw ran ohono yn ôl mewn perthynas â'r cais, ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd drwy hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, pa un a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd, ynteu i'r cyflenwr cymeradwy ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraffau 8(2)(a) neu 16(2)(a).
(2) Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)rhoi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;
(b)rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; ac
(c)ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.
20.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu adennill swm ar gais yn unol â pharagraff 19(1)(b), cânt, yn ychwanegol, adennill llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o 1% uwchben LIBOR wedi'i gyfrifo yn ddyddiol am y cyfnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd y swm arno ac sy'n gorffen ar y diwrnod yr adenillir y swm arno.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “LIBOR” (“LIBOR”), mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau ac sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw wedi ei thalgrynnu, os oes angen, i ddau bwynt degol.
(3) Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ac yn datgan y LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddiwrthbrawf o'r LIBOR o dan sylw, os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r LIBOR o dan sylw.