Search Legislation

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Adolygu dyfarniad

18.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan baragraffau 7(1)(b) neu (2) neu o dan baragraffau 15(1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan baragraff 7(1)(a) neu o dan baragraff 15(1)(a), caiff y person a ymgeisiodd am y grant wneud cais i Weinidogion Cymru, yn unol â darpariaethau'r paragraff hwn, am adolygiad o'r dyfarniad hwnnw.

(2Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn gyrraedd Gweinidogion Cymru ar ddyddiad nad yw'n ddiweddarach na 6 mis ar ôl dyddiad y dyfarniad perthnasol o dan baragraffau 7(1) neu 15(1).

(3Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo nodi—

(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad ac ar ba sail y mae'r person yn ceisio adolygiad;

(b)pa ddyfarniad gan Weinidogion Cymru sydd i'w adolygu a dyddiad y dyfarniad hwnnw;

(c)manylion o'r seiliau y ceisir yr adolygiad arnynt; a

(d)yn newid a geisir yn y dyfarniad.

(4Caniateir gwneud cais o dan y paragraff hwn drwy'r post neu drwy ffacs neu ddull cyfathrebu electronig arall sy'n caniatáu atgynhyrchu.

(5Pan wneir cais o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dyfarniad a nodir ynddo, dod i benderfyniad terfynol arno a hysbysu'r person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto, mewn ysgrifen.

(6Wrth adolygu dyfarniad, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a gyflwynwyd gan y ceisydd (pa un a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael ai peidio ar yr adeg y gwnaed y dyfarniad);

(b)gwahodd y ceisydd i ddarparu pa bynnag wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad ac a ystyrir yn briodol ganddynt ; ac

(c)rhoi cyfle i'r ceisydd roi tystiolaeth a gwneud sylwadau yn bersonol neu drwy gynrychiolydd.

Back to top

Options/Help