RHAN 1CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012. Deuant i rym ar 21 Mawrth 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion gerbron tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ceisiadau mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “annedd” yr un ystyr a roddir i “dwelling” yn adran 322 o Ddeddf 1985;
ystyr “ATLl” (“LHA”) yw awdurdod tai lleol();
ystyr “cais” (“application”) yw cais neu apêl i dribiwnlys o dan—
(b)
Rhan 9 o Ddeddf 1985; neu
(c)
Deddf 1983 (gan gynnwys unrhyw gais a wneir yn dilyn trosglwyddo unrhyw fater yn codi o gais a wnaed i'r llys o dan y Ddeddf honno),
ac y mae i “ceisydd” (“applicant”) ystyr cyfatebol;
ystyr “cais awdurdodi GRhI” (“IMO authorisation application”) yw cais am awdurdodiad i wneud gorchymyn rheoli interim o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004();
mae i “cartref symudol” yr un ystyr a roddir i “mobile home” yn adran 5(1) o Ddeddf 1983;
ystyr “cymdeithas preswylwyr gymwys” (“qualifying residents' association”) yw cymdeithas sy'n bodloni'r gofynion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983;
ystyr “cynhadledd rheoli achos” (“case management conference”) yw adolygiad cyn treial neu unrhyw gyfarfod arall a gynhelir gan dribiwnlys i'r diben o reoli'r achos mewn perthynas â chais;
ystyr “datganiad o resymau” (“statement of reasons”) yw datganiad o resymau a baratowyd gan yr ATLl o dan adran 8 o Ddeddf 2004 (rhesymau dros benderfyniad i gymryd camau gorfodi);
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 1983();
ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Tai 1985();
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Tai 2004;
ystyr “GRhAG” yw gorchymyn rheoli annedd gwag ac mae iddo yr un ystyr a roddir i “EDMO” yn adran 132 o Ddeddf 2004;
mae i “llain” yr un ystyr a roddir i “pitch” ym Mhennod 1 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983;
ystyr “mangre” (“premises”) yw—
(a)
mewn unrhyw gais ac eithrio cais a wneir o dan Ddeddf 1983, yr annedd y mae'r cais yn ymwneud â hi neu'r adeilad y mae'n ymwneud ag ef; a
(b)
mewn unrhyw gais a wneir o dan Ddeddf 1983, y llain, y safle a ddiogelir neu'r cartref symudol y mae'r cais yn ymwneud ag ef;
ystyr “meddiannydd” (“occupier”), mewn perthynas â chais a wneir o dan Ddeddf 1983, yw'r person sydd â hawl i leoli'r cartref symudol ar dir sy'n ffurfio rhan o'r safle a ddiogelir, ac i feddiannu'r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa'r person hwnnw, o dan gytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo;
mae i “perchennog safle” mewn perthynas â safle a ddiogelir, yr un ystyr a roddir i “owner” yn adran 5(1) o Ddeddf 1983;
ystyr “person â buddiant” (“interested person”) mewn perthynas â chais penodol yw—
(a)
person, ac eithrio'r ceisydd, a fyddai wedi bod â hawl o dan Ddeddf 2004 neu Ddeddf 1985 (yn ôl fel y digwydd) i wneud y cais;
(b)
person y mae'n rhaid i'r ceisydd roi hysbysiad o'r cais iddo yn unol â darpariaethau canlynol Deddf 2004—
(i)
paragraff 11(2) o Atodlen 1; neu
(ii)
paragraff 14(2) o Atodlen 3;
(c)
person y mae'n rhaid i'r tribiwnlys roi cyfle iddo gael ei glywed yn unol â'r darpariaethau canlynol—
(i)
adran 34(4) o Ddeddf 2004; neu
(ii)
adran 317(2) o Ddeddf 1985;
(ch)
ac eithrio mewn perthynas â chais a wneir o dan Ddeddf 1983, yr Awdurdod Tai Lleol pan nad yw'n barti i'r cais;
(d)
y person y mae'r meddiannydd yn dymuno gwerthu neu roi cartref symudol iddo o dan baragraffau 8 neu 9 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983; ac
(dd)
cymdeithas preswylwyr gymwys;
mae i “safle a ddiogelir” yr un ystyr a roddir i “protected site” yn adran 5(1) o Ddeddf 1983;
ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl(), ac ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) mewn perthynas â chais yw'r tribiwnlys sydd i benderfynu'r cais;
mae i “tŷ annedd” yr un ystyr a roddir i “dwelling-house” yn adran 183 o Ddeddf 1985; ac
ystyr “yr ymatebydd” (“the respondent”), mewn perthynas â phob cais y mae paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo, yw'r person neu'r personau, neu un o'r personau, a bennir yn is-baragraff (3) o'r paragraff hwnnw.