57.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)unrhyw ddogfen sy'n nodi'r rheswm dros ei gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i leoli'r cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod mewn perthynas â llain arall, ac yn darparu disgrifiad, amwynder a maint y llain bresennol yn ogystal â'r llain amgen arfaethedig;
(b)copi o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain bresennol a drafft o'r cytundeb arfaethedig mewn perthynas â'r llain amgen; ac
(c)yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, ac sy'n nodi bwriad perchennog y safle i wneud cais i'r tribiwnlys o dan baragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol nas cyflwynwyd eisoes i'r tribiwnlys ac sy'n berthnasol i'r cais.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.