Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
12 Mehefin 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 322(2) a 325(3) a (4) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) (Cymru) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cytundeb awdurdod lleol” (“local authority agreement”) yw cytundeb y mae gan berson hawl oddi tano i osod cartref symudol ar safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol yng Nghymru;
ystyr “cytundeb presennol” (“existing agreement”) yw cytundeb awdurdod lleol a wnaed cyn y diwrnod penodedig;
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symuol1983(2);
ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Tai ac Adfywio 2008;
ystyr “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yw’r diwrnod a bennir gan erthygl 2;
ystyr “llain” (“pitch”) yw tir, sy’n ffurfio rhan o safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol yng Nghymru, ac sy’n cynnwys unrhyw ran ar gyfer gardd, y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arno;
ystyr “llain barhaol” (“permanent pitch”) yw llain y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo ac nad yw’n llain bontio;
ystyr “llain bontio” (“transit pitch”) yw llain y mae hawl gan berson i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo, am gyfnod penodedig o hyd at 3 mis:
ystyr “safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol” (“local authority gypsy and traveller site”) yw unrhyw dir a feddiennir gan awdurdod lleol fel safle carafannau sy’n darparu llety i sipsiwn a theithwyr; ac
ystyr “sipsiwn a theithwyr” (“gypsies and travellers”) yw personau sydd ag arferion byw nomadig, beth bynnag fo’u hil neu’u tarddiad, ond nid yw’n cynnwys aelodau o grŵp trefnedig o bobl sioe neu bobl sy’n ymwneud â syrcasau teithiol ac yn cyd-deithio fel y cyfryw(3).
(3) Mae i ymadroddion eraill, a ddefnyddir ond nas diffinnir yn y Gorchymyn hwn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Neddf 1983 yn ogystal, yr un ystyron yn y Gorchymyn hwn â’r ymadroddion Saesneg hynny yn Neddf 1983.
2.—(1) 10 Gorffennaf 2013 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol, i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a)adran 318 (safleoedd cartrefi symudol gwarchodedig i gynnwys safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr) of the 2008 Act;
(b)adran 321(1) (diddymiadau) o Ddeddf 2008 ac Atodlen16 iddi, i’r graddau y mae a wnelont â’r diddymiadau canlynol—
Enw | Diddymiad |
---|---|
Deddf Cartrefi Symudol 1983 (p.34) | Yn adran 5(1), yn y diffiniad o “protected site”, y geiriau o “does not include” i “that,”; |
Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33) | Yn adran 80(4), y geiriau o “in the definition” i “1983 or”. |
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthyglau 3 i 7.
3. Nid yw’r diddymiadau a wneir gan y darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 yn gymwys at ddibenion adrannau 1(3), (4) a (6) a 2(2) i (4) o Ddeddf 1983(4), i’r graddau y maent yn ymwneud â llain bontio.
4. Mae Deddf 1983 yn gymwys i gytundeb presennol fel y byddai’n gymwys i gytundeb awdurdod lleol a wnaed wedi i’r darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 Ddiwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013(5) ddod i rym, ond mae hyn yn ddarostyngedig i erthygl 5.
5.—(1) Nid yw adrannau 1(2) i (9) a 2(2) i (4) o Ddeddf 1983 yn gymwys i gytundeb presennol.
(2) Mewn perthynas â chytundeb presennol—
(i)os cychwynnir achos cyfreithiol y mae terfynu’r cytundeb yn fater sy’n codi ynddo cyn y diwrnod penodedig, nid yw paragraffau 3 a 4 (terfynu) o Bennod 3, na pharagraffau 3 i 6 o Bennod 4, o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (pa bynnag Bennod sy’n gymwys yn yr achos penodol dan sylw) yn gymwys;
(ii)nid yw paragraff 8 (ailosod cartref symudol) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys i ofyniad bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy, am unrhyw gyfnod, mewn perthynas â llain arall os gwneir y gofyniad cyn y diwrnod penodedig;
(iii)nid yw paragraff 15(2) a (6) i (11) (ffi llain) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas â’r adolygiad cyntaf o’r ffi llain o dan y cytundeb hwnnw os yw dyddiad adolygu’r ffi llain, ar gyfer yr adolygiad hwnnw, o fewn 28 diwrnod i’r diwrnod penodedig;
(iv)nid yw paragraff 16 (ffi llain) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys os cyflawnwyd gwaith mewn perthynas â gwelliant cyn y diwrnod penodedig;
(v)ni cheir gorfodi paragraff 19(c) a (d) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno mewn perthynas ag unrhyw doriad o’r cytundeb sy’n digwydd o fewn 3 mis i’r diwrnod penodedig;
(vi)nid yw paragraff 19(e) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas â chostau a threuliau a dynnwyd cyn y diwrnod penodedig;
(vii)nid yw paragraff 20(f) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys pan fo gwaith mewn perthynas â’r gwelliannau yn cychwyn cyn y diwrnod penodedig, neu o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig; a
(viii)nid yw paragraff 20(g) (ymrwymiadau’r meddiannydd) o Bennod 4 o Ran 1 o’r Atodlen honno yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n codi cyn y diwrnod penodedig, neu o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig.
6.—(1) Mewn perthynas â chytundeb presennol ynghylch llain sydd, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, yn dod yn llain barhaol, rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod penodedig, roi i’r parti arall i’r cytundeb ddatganiad ysgrifenedig sy’n cydymffurfio â’r paragraffau canlynol.
(2) Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig—
(a)nodi enwau a chyfeiriadau’r partïon;
(b)cynnwys manylion am y llain sy’n ddigonol ar gyfer ei hadnabod;
(c)nodi’r telerau a gynhwysir yn benodol yn y cytundeb;
(d)nodi’r telerau a fydd yn oblygedig yn rhinwedd cymhwyso Deddf 1983 i’r cytundeb; ac
(e)bod yn y ffurf a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn neu ffurf sydd â’r un effaith o ran ei sylwedd.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd unrhyw deler penodol a gynhwysir yn y cytundeb yn anorfodadwy gan awdurdod lleol neu gan unrhyw berson o fewn adran 3(1) o Ddeddf 1983, oni fydd y teler hwnnw wedi ei nodi mewn datganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r parti arall yn unol â pharagraff (1).
(4) Os yw’r awdurdod lleol yn methu â rhoi i’r parti arall i’r cytundeb ddatganiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff (1), caiff y parti arall, ar unrhyw adeg wedi i’r cyfnod o 28 diwrnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ddod i ben, wneud cais i dribiwnlys am orchymyn sy’n gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol—
(a)yn rhoi i’r parti hwnnw ddatganiad ysgrifenedig sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)(a) i (e), a
(b)yn gwneud hynny ddim hwyrach na’r cyfryw ddyddiad a bennir yn y gorchymyn.
(5) Ym mharagraff (4), mae i “tribiwnlys” yr ystyr a roddir i “tribunal” yn Neddf 1983 ac y mae awdurdodaeth tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw i’w thrin fel awdurdodaeth o dan Ddeddf 1983.
(6) Ceir cyflwyno datganiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr erthygl hon naill ai i’r person hwnnw’n bersonol neu ei anfon drwy’r post.
(7) Rhaid peidio â thrin datganiad ysgrifenedig o dan yr erthygl hon fel pe bai’n ddatganiad ysgrifenedig at ddibenion adran 1 neu 2 o Ddeddf 1983.
(8) Rhaid peidio â thrin datganiad ysgrifenedig o dan yr erthygl hon fel pe bai’n ddatganiad ysgrifenedig at ddibenion Pennod 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.
7. Nid yw’r diddymiadau a wneir gan y darpariaethau a ddygir i rym gan erthygl 2 yn effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedigaeth sydd wedi cronni mewn perthynas â chytundeb presennol, nac unrhyw rwymedi mewn perthynas ag unrhyw hawl neu rwymedigaeth o’r fath.
Huw Lewis
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
12 Mehefin 2013
Erthygl 6(2)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn )
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu mai 10 Gorffennaf 2013 yw’r diwrnod y bydd adran 318 (safleoedd cartrefi symudol gwarchodedig i gynnwys safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”) a diddymiadau perthynol yn Atodlen 16 i’r Ddeddf honno yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru.
Canlyniad cychwyn adran 318, fydd gwneud cytundebau mewn perthynas â lleiniau ar gyfer sipsiwn a theithwyr ar safleoedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (“Deddf 1983”). Mae hyn yn efelychu’r hyn a wnaed yn Lloegr gan Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol, Darfodol ac Arbed) 2011(6), a gychwynnodd adran 318 o Ddeddf 2008 mewn perthynas â Lloegr ar 30 Ebrill 2011.
Mae erthyglau 3 i 7 yn gwneud darpariaethau trosiannol, darfodol ac arbed mewn perthynas â chytundebau ynghylch lleiniau ar gyfer sipsiwn a theithwyr ar safleoedd awdurdodau lleol. Mae erthygl 3 yn arbed datgymwysiadau o ddarpariaethau penodol ynglŷn â chytundebau ynghylch lleiniau pontio. Yn fras, mae’r datgymwysiadau hyn yn peri nad yw’r terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer darparu datganiad ysgrifenedig, yr hawl i geisio gorchymyn tribiwnlys mewn perthynas â rhoi datganiad ysgrifenedig a’r hawl i wneud cais i’r tribiwnlys am ddiwygio telerau cytundeb o’r fath, yn gymwys i’r cytundebau hynny.
Mae erthygl 4 yn darparu y bydd Deddf 1983 yn gymwys i bob cytundeb ar gyfer gosod cartref symudol ar safle sipsiwn a theithwyr awdurdod lleol sy’n bodoli yng Nghymru pan gychwynnir adran 318 o Ddeddf 2008, fel y byddai’n gymwys i unrhyw gytundeb o’r fath a wneid ar ôl y cychwyn. O ganlyniad, bydd y telerau a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf 1983, fel y’u mewnosodwyd gan Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2013, yn oblygedig mewn cytundebau o’r fath.
Mae erthygl 5 yn datgymhwyso, mewn perthynas â chytundeb presennol, ddarpariaethau penodol yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf 1983 ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (a fewnosodwyd yn Neddf 1983 gan Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2013).
Mae erthygl 6 yn ddarpariaeth ddarfodol sy’n gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn rhoi datganiad ysgrifenedig i feddianwyr lleiniau parhaol o fewn 28 diwrnod i’r diwrnod penodedig; ac y mae’r erthygl (a’r Atodlen i’r Gorchymyn) yn pennu’r hyn y mae’n rhaid i’r datganiad ei gynnwys.
Mae erthygl 7 yn ddarpariaeth arbed gyffredinol, sy’n sicrhau nad effeithir ar hawliau a rhwymedigaethau o dan y cytundebau presennol, o ganlyniad i gymhwyso Deddf 1983 i’r trefniadau presennol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn))
Mae’r darpariaethau o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”) yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2008 hefyd wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan yr Offerynnau Statudol canlynol:
O.S. 2008/3068, O.S. 2009/803, O.S. 2009/2096 ac O.S. 2011/1002.
Gweler hefyd adran 325(6) o Ddeddf 2008 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 22 Gorffennaf 2008 (y diwrnod y pasiwyd Deddf 2008).
Gweler hefyd adran 325(2) o Ddeddf 2008 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 22 Medi 2008 (sef ar ddiwedd cyfnod o 2 fis ar ôl pasio Deddf 2008).
Mae’r darpariaethau yn Neddf 2008 sydd yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif yr O.S. |
---|---|---|
adrannau 1 i 3 ac Atodlen 1 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adran 4 | 8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 5 i 18 ac Atodlenni 2 i 4 | 1 Rhagfyr 2008 | O.S. 2008/3068 |
adran 19 | 1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/3068 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 20 i 30 | 1 Rhagfyr 2008 | O.S. 2008/3068 |
adran 31 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adrannau 32 a 33 | 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862 |
adran 34 | 1 Ebrill 2009 | O.S. 2009/803 |
adran 35 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 36 | 1 Ebrill 2009 | O.S. 2009/803 |
adran 37 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adrannau 38 i 43 | 1 Rhagfyr 2008 | |
adran 44 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adran 45 | 1 Rhagfyr 2008 | |
adrannau 46 a 47 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adran 48 | 1 Rhagfyr 2008 | O.S. 2008/3068 |
adran 49 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adran 50 ac Atodlen 5 | 8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2009 | O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068 ac O.S. 2009/803 |
adran 51 ac Atodlenni 6 a 7 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adrannau 52 i 55 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adran 56 ac Atodlen 8 | 8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862 |
adran 57 | 8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068 ac O.S. 2010/862 |
adran 58 | 8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358, O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862 |
adran 59 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adrannau 60 i 63 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 64 | 16 Chwefror 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/363 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 65 i 71 ac Atodlenni 6 a 7 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adran 72 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adrannau 73 i 80 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 81 i 85 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adran 86 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 87 i 92 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adran 93 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2009/803 |
adran 94 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adrannau 95 i 98 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 99 i 104 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adran 105 | 8 Medi 2008 | O.S 2008/2358 |
adrannau 106 i 111 | 1 Ebrill 2010 | O.S 2010/862 |
adrannau 112 a 113 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adran 114 | 8 Medi 2008 ac 7 Medi 2009 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2009/2096 |
adran 115 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 116 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adran 117 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S 2008/2358 ac O.S 2010/862 |
adran 118 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 119 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 120 i 126 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 127 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 128 i 130 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 131 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 132 i 143 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adrannau 144 a 145 | 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 146 i 173 | 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862 |
adran 174 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 175 i 191 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adrannau 192 i 197 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adran 198 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 199 i 201 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 202 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S 2010/862 |
adrannau 203 i 211 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 212 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S 2010/862 |
adran 213 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 214 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adran 215 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358 ac O.S. 2010/862 |
adran 216 | 8 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adrannau 217 i 227 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 228 | 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 229 i 233 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 234 | 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 235 i 239 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 240 | 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 241 i 243 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 244 | 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862 |
adrannau 245 i 274 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adrannau 275 a 276 | 8 Medi 2008 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358, O.S. 2010/862 |
adran 277 ac Atodlen 9 | 8 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 1 Ebrill 2009 ac 1 Ebrill 2010 | O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/803 ac O.S. 2010/862 |
adran 278 | 1 Ebrill 2010 | O.S. 2010/862 |
adran 299 ac Atodlen 11 | 1 Rhagfyr 2008 ac 20 Mai 2009 | O.S. 2008/3068, O.S. 2009/1261 |
adran 311 ac Atodlen 14 | 1 Rhagfyr 2008 | O.S. 2008/3068 |
adran 314 ac Atodlen 15 (yn rhannol) | 2 Mawrth 2009 | O.S. 2009/415 |
adran 316 | 7 Medi 2009 | O.S. 2009/2096 |
adran 317 | 22 Medi 2008 | O.S. 2008/2358 |
adran 321 ac Atodlen 16 (yn rhannol) | 22 Medi 2008, 1 Rhagfyr 2008, 2 Mawrth 2009, 1 Ebrill 2009, 20 Mai 2009 ac 7 Medi 2009 | O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/415, O.S. 2009/803, O.S. 2009/1261 ac O.S 2009/2096 |
Mae adran 5 o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983, cyn ei diwygio gan adran 318 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p.17), yn darparu nad yw Deddf 1983 yn gymwys i dir a feddiennir gan awdurdod lleol fel safle carafannau sy’n darparu llety i ‘gipsies’. Diddymwyd y diffiniad o ‘gipsies’ y dibynnai’r eithriad hwnnw arno gan adran 80 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33), er diffiniad gael ei arbed at y diben o ddehongli adran 5. Mae’r diffiniad hwn o ‘sipsiwn a theithwyr’ yn deillio o’r diffiniad hwnnw a arbedwyd.
1983 p.34. Yng Nghymru a Lloegr, amnewidiwyd adran 1 a diwygiwyd adran 2 gan adrannau 206 a 265 o Ddeddf Tai 2004 (p.34) a pharagraff 9 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno.