RHAN 8Arolygu, gorfodi a darpariaethau amrywiol
Hysbysiadau
27.—(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir neu a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig a chaniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu unrhyw bryd.
(2) Caniateir cyflwyno neu roi hysbysiad i berson drwy—
(a)ei draddodi yn bersonol;
(b)ei adael yng nghyfeiriad cywir y person; neu
(c)ei anfon drwy’r post neu drwy ddull electronig i gyfeiriad cywir y person.
(3) Yn achos corff corfforaethol, caniateir cyflwyno neu roi hysbysiad i un o swyddogion y corff hwnnw.
(4) Yn achos partneriaeth, caniateir cyflwyno neu roi hysbysiad i bartner neu berson sydd â rheolaeth ar fusnes y bartneriaeth, neu sy’n ei reoli.
(5) Yn achos cymdeithas anghorfforedig, caniateir cyflwyno neu roi hysbysiad i un o swyddogion y gymdeithas.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978() (cyflwyno dogfennau drwy’r post), o ran y modd y mae’n gymwys i’r rheoliad hwn, ystyr “cyfeiriad cywir” (“proper address”) yw—
(a)yn achos corff corfforaethol neu un o swyddogion y corff hwnnw—
(i)swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw, neu
(ii)cyfeiriad e-bost y swyddog;
(b)yn achos partneriaeth neu bartner neu berson sydd â rheolaeth ar fusnes y bartneriaeth, neu sy’n ei reoli—
(i)prif swyddfa’r bartneriaeth, neu
(ii)cyfeiriad e-bost partner neu berson sydd â’r rheolaeth honno neu sy’n rheoli felly;
(c)yn achos cymdeithas anghorfforedig neu un o swyddogion y gymdeithas—
(i)swyddfa’r gymdeithas, neu
(ii)cyfeiriad e-bost y swyddog;
(d)ymhob achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person, sy’n cynnwys cyfeiriad e-bost.
(7) At ddibenion paragraff (6), prif swyddfa corff corfforaethol a gofrestrwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth a sefydlwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.
(8) Os na ellir, ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, ganfod enw neu gyfeiriad unrhyw feddiannydd mangre y cyflwynir neu y rhoddir hysbysiad iddo o dan y Rheoliadau hyn, caniateir cyflwyno’r hysbysiad drwy ei osod yn amlwg ar adeilad neu wrthrych yn y fangre.
(9) Rhaid i berson gydymffurfio â thelerau unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn.
(10) Yn y rheoliad hwn—
mae “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol;
nid yw “partneriaeth” (“partnership”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu un o swyddogion tebyg eraill y corff corfforaethol.
Trwyddedau
28.—(1) Rhaid i drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddi—
(a)bod yn gyffredinol neu benodol;
(b)bod yn ddarostyngedig i amodau; ac
(c)cael ei diwygio, ei hatal neu ei dirymu, yn ysgrifenedig, unrhyw bryd.
(2) Rhaid i berson sy’n symud unrhyw geffyl, cyfarpar neu ddeunydd genetig o dan awdurdod trwydded benodol—
(a)bod â’r drwydded neu gopi ohoni arno drwy’r amser wrth symud, a
(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru, dangos y drwydded neu gopi ohoni a chaniatáu i gopi neu ddetholiad ohoni gael ei wneud.
(3) Pan fo trwydded yn ofynnol neu wedi ei hawdurdodi o dan y Rheoliadau hyn i’w rhoi gan arolygydd milfeddygol, mae modd iddi hefyd gael ei rhoi gan arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
(4) Rhaid i berson sy’n symud unrhyw geffyl, cyfarpar neu ddeunydd genetig o dan awdurdod trwydded gyffredinol—
(a)drwy’r amser wrth symud, fod â dogfen sy’n cynnwys manylion ynghylch—
(i)yr hyn sy’n cael ei gludo, gan gynnwys faint ohono sydd,
(ii)dyddiad y symud,
(iii)enw’r person sy’n gyfrifol am y ceffyl neu’r cyfarpar yn y man gadael a’r gyrchfan;
(iv)cyfeiriad y man gadael a’r gyrchfan;
(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru, dangos y ddogfen a chaniatáu i gopi neu ddetholiad ohoni gael ei wneud; ac
(c)cadw’r ddogfen am chwe mis o leiaf.
(5) Os yw unrhyw geffyl, cyfarpar neu ddeunydd genetig wedi ei symud i fangre o dan drwydded, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i unrhyw feddiannydd y fangre sy’n gyrchfan gan osod y cyfyngiadau angenrheidiol ar symud ar y fangre honno er mwyn atal y risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.
(6) Ac eithrio pan fo cyfarwyddyd fel arall gan Weinidogion Cymru, mae trwyddedau a roddir yn Lloegr neu’r Alban ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn cael effaith yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn, ac mae darpariaethau’r rheoliad hwn yn gymwys yn unol â hynny.
Pwerau arolygwyr
29.—(1) Caiff arolygydd, drwy ddangos awdurdodiad wedi ei ddilysu’n briodol os gofynnir amdano, fynd i mewn i unrhyw fangre, cerbyd, llestr neu ôl-gerbyd (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu yn bennaf fel annedd breifat) ar unrhyw adeg resymol o’r dydd at ddiben gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd milfeddygol fynd i mewn i unrhyw fangre, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
(a)bod sail resymol i fynd i mewn i’r fangre honno at ddiben gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau hyn; a
(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni.
(3) Dyma’r amodau—
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod y meddiannydd wedi cael hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant;
(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;
(c)bod angen mynediad ar fyrder; neu
(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(4) Mae gwarant yn ddilys am dri mis.
(5) Rhaid i arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu lle y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn iddi.
(6) Caiff arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre, cerbyd, llestr neu ôl-gerbyd—
(a)arolygu unrhyw geffyl neu beth yno;
(b)cymryd samplau;
(c)ymafael yn unrhyw gyfarpar neu ddeunydd genetig a’i ddifa;
(d)cadw neu ynysu unrhyw anifail neu beth;
(e)gosod marc neu ficrosglodyn at ddibenion adnabod unrhyw anifail neu beth;
(f)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;
(g)cadw gwyliadwriaeth am fectorau a gweithredu mesurau rheoli fectorau (gan gynnwys cyflwyno unrhyw geffyl dangos clwy);
(h)cyrchu, arolygu a chopïo unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ym mha bynnag ffurf y maent) sy’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn, a’u symud er mwyn gallu eu copïo;
(i)arolygu a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion;
(j)ei gwneud yn ofynnol drwy gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre—
(i)bod unrhyw anifail yn cael ei farcio neu’n cael microsglodyn at ddibenion ei adnabod;
(ii)bod unrhyw anifail neu beth (gan gynnwys cerbyd neu ôl-gerbyd) yn cael ei symud i le penodedig neu ei symud i ran arbennig o’r fangre neu ei gadw mewn rhan arbennig o’r fangre;
(iii)bod gwyliadwriaeth yn cael ei chadw am bresenoldeb pryfed;
(iv)bod mesurau rheoli fectorau y mae’r arolygydd yn barnu eu bod yn ymarferol ac yn angenrheidiol yn cael eu gweithredu;
(v)bod ceffylau yn cael eu cadw i’w defnyddio fel ceffylau dangos clwy neu fod ceffylau dangos clwy yn cael eu cyflwyno i’r fangre.
(7) Pan fo arolygydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre, cerbyd, llestr neu ôl-gerbyd ac nad yw’n rhesymol ymarferol penderfynu a yw dogfennau yn y fangre honno yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn ai peidio, caiff yr arolygydd ymafael ynddynt er mwyn canfod a ydynt yn berthnasol ai peidio.
(8) Caiff yr arolygydd—
(a)mynd ag unrhyw gyfarpar, ceffyl dangos clwy, neu gerbyd sy’n angenrheidiol i’r fangre;
(b)mynd â’r canlynol gydag ef—
(i)y personau eraill hynny y mae’r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol, a
(ii)unrhyw un sy’n cynrychioli’r Comisiwn Ewropeaidd.
(9) Mae unrhyw bŵer neu rwymedigaeth i gymryd sampl a’i brofi yn cynnwys pŵer i—
(a)ailbrofi’r sampl, a
(b)cymryd samplau pellach (o’r anifeiliaid neu garcasau sy’n ddarostyngedig i’r pŵer hwnnw neu, yn achos samplau amgylcheddol, gymryd samplau amgylcheddol pellach) a phrofi ac ailbrofi’r samplau hynny.
(10) Yn y rheoliad hwn, ceffyl dangos clwy yw ceffyl a ddefnyddir ar gyfer cadw gwyliadwriaeth am feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau nad oes ganddo wrthgyrff i’r feirws hwnnw pan gyflwynwyd ef i’r fangre neu pan gadwyd ef yn y fangre at y diben hwnnw.
Hysbysiad yn dilyn torri’r cyfyngiad ar symud
30.—(1) Os yw ceffyl wedi ei symud i unrhyw fangre drwy dorri unrhyw un o ddarpariaethau’r Rheoliadau hyn, neu unrhyw drwydded neu hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i brif feddiannydd y fangre honno i’w gwneud yn ofynnol—
(a)i’r ceffyl hwnnw, neu unrhyw geffyl arall yn y fangre, gael ei gadw yn y fangre, neu
(b)i unrhyw geffyl yn y fangre gael ei symud i fangre arall a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Os yw ceffyl wedi ei symud i fangre arall o dan hysbysiad o’r fath, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw feddiannydd y fangre arall honno i osod y cyfyngiadau ar symud mewn perthynas â cheffylau yn y fangre honno y mae’r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.
Newid prif feddiannydd mangre sydd o dan gyfyngiad – mynediad at ddibenion lles
31. Os yw prif feddiannydd mangre sydd o dan gyfyngiad o dan y Rheoliadau hyn yn newid, rhaid i’r prif feddiannydd newydd ganiatáu i berchennog unrhyw geffyl yn y fangre, neu unrhyw berson yn gweithredu ar ran y perchennog, fynd i mewn i’r fangre i fwydo’r ceffyl neu ymorol fel arall am ei les yn ystod cyfnod y cyfyngiad ac am saith niwrnod wedi iddo ddod i ben.
Pwerau arolygwyr mewn achos o fethu â chydymffurfio
32. Os yw unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae’r arolygydd hwnnw yn barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y bydd y gofyniad yn cael ei fodloni ar draul y person hwnnw.
Digolledu am geffylau a laddwyd a phethau yr ymafaeliwyd ynddynt
33.—(1) O ran Gweinidogion Cymru, yn unol â’r rheoliad hwn—
(a)cânt ddigolledu am ladd unrhyw geffyl o dan reoliad 12 neu 16(6)(e);
(b)rhaid iddynt ddigolledu am ymafael yn unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn, oni ddychwelir ef.
(2) Ni ddigolledir am geffyl a oedd, pan gafodd ei ladd, wedi ei effeithio gan glefyd Affricanaidd y ceffylau.
(3) O ran swm y digollediad sy’n daladwy o dan baragraff(1)(a)—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b) gwerth y ceffyl yn union cyn iddo gael ei ladd yw hwnnw;
(b)ni chaiff, mewn unrhyw achos, fod yn fwy na £2500 am unrhyw geffyl.
(4) O ran swm y digollediad sy’n daladwy o dan baragraff (1)(b)—
(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), gwerth y peth yr ymafaeliwyd ynddo ar yr adeg pryd yr ymafaeliwyd ynddo yw hwnnw;
(b)yn achos unrhyw ddeunydd genetig sy’n dod o’r un ceffyl, ni chaiff, mewn unrhyw achos, fod yn fwy na £2500 (ni waeth beth fo natur na nifer yr eitemau o ddeunydd genetig yr ymafaeliwyd ynddynt).
(5) Gwerth y ceffyl neu’r peth yr ymafaelir ynddo (yn ôl y digwydd) yw—
(a)y swm a benderfynir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru (“prisiad Gweinidogion Cymru”), neu
(b)y swm a benderfynir yn ysgrifenedig gan y prisiwr hwnnw yn lle hynny, pan fo’r penderfyniad ynghylch y gwerth wedi ei gyfeirio o dan baragraff (6) at brisiwr penodedig.
(6) Os yw—
(a)prisiad Gweinidogion Cymru yn llai na £2500, a
(b)perchennog y ceffyl a laddwyd neu (yn ôl y digwydd) y peth yr ymafaeliwyd ynddo yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn dadlau yn erbyn y prisiad hwnnw, gyda rhesymau, a hynny o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl derbyn prisiad Gweinidogion Cymru,
rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r penderfyniad ynghylch y gwerth at brisiwr penodedig.
(7) Rhaid i’r prisiwr penodedig fod yn berson—
(a)sydd wedi ei benodi ar y cyd gan y perchennog a Gweinidogion Cymru at ddiben cynnal prisiad o dan y rheoliad hwn, neu
(b)sydd, o fethu cytuno ar benodiad o’r fath o fewn 10 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (6), wedi ei benodi gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
(8) Mae penderfyniad y prisiwr penodedig ynghylch y gwerth yn derfynol ac yn rhwymo Gweinidogion Cymru a’r perchennog (ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau (3)(b) a (4)(b))
(9) Rhaid i ffioedd a godir neu dreuliau a dynnir gan brisiwr penodedig am waith a wneir o dan y rheoliad hwn gael eu talu—
(a)gan y perchennog, pan fo penderfyniad y prisiwr yn gyfwerth â phrisiad Gweinidogion Cymru neu’n is,
(b)gan Weinidogion Cymru, fel arall.
(10) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw oedi o ran lladd ceffyl at ddibenion rheoli clefyd Affricanaidd y ceffylau.
Rhwystro
34. Ni chaiff neb—
(a)mynd ati’n fwriadol i rwystro neu atal unrhyw un sydd, wrth ei waith, yn gweithredu neu’n gorfodi’r Rheoliadau hyn;
(b)heb achos rhesymol, y mae ei brofi yn fater i’r person a gyhuddir, fethu â rhoi unrhyw gymorth na gwybodaeth sy’n rhesymol angenrheidiol i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu neu’n gorfodi’r Rheoliadau hyn;
(c)darparu unrhyw wybodaeth y gŵyr ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol neu heb gredu ei bod yn wir i unrhyw un sydd, wrth ei waith, yn gweithredu neu’n gorfodi’r Rheoliadau hyn; neu
(d)methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny gan unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu neu’n gorfodi’r Rheoliadau hyn.
Troseddau a chosbau
35.—(1) Mae person yn euog o drosedd os yw’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau canlynol—
(a)rheoliad 3(4) (meddiannydd i roi cymorth rhesymol i alluogi’r prif feddiannydd i gydymffurfio â rhwymedigaethau);
(b)rheoliad 3(5) (y prif feddiannydd i gymryd camau rhesymol i hysbysu meddianwyr eraill am y cyfyngiadau ar symud sy’n deillio o hysbysiad);
(c)rheoliad 5(1) neu (2) (gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru am geffyl neu garcas etc dan amheuaeth);
(d)rheoliad 7(7)(a)(i), (ii) neu (iii) (gwaharddiad ar symud ceffyl neu garcas hysbysedig; cyfarpar neu ddeunydd genetig; neu geffylau eraill);
(e)rheoliad 7(7)(b)(i) neu (ii) (rhwymedigaeth i symud ceffylau ac adnabod fectorau etc);
(f)rheoliad 11(3) (gwaharddiad ar bersonau sy’n symud ceffylau i fangre);
(g)rheoliad 14(5)(a), (b) neu (c) (rheolaethau sy’n ymwneud â lladd-dai);
(h)rheoliad 17(4) (gwaharddiad ar symud didrwydded o fewn parth cyfyngu dros dro ar symud);
(i)rheoliad 18(7) (gwaharddiad ar symud didrwydded allan o barth gwarchod neu allan o barth gwyliadwriaeth i ardal sy’n rhydd o gyfyngiadau);
(j)rheoliad 18(8)(a) neu (b) (gwaharddiad ar symud asynnod etc yn ddidrwydded neu symud ceffylau sy’n dangos arwyddion clinigol o glefyd Affricanaidd y ceffylau);
(k)rheoliad 21(3) (rhwymedigaeth i gydymffurfio â chyfyngiadau a mesurau a osodir drwy ddatganiad o dan reoliad 17(5), 18(9), neu 19(3));
(l)rheoliad 24 (gwaharddiad ar frechu);
(m)rheoliad 25(2) (gofyniad i frechu yn unol â datganiad ynghylch parth brechu);
(n)rheoliad 26(1) neu (2) (gofyniad i adnabod ceffylau sydd wedi eu brechu ac i gadw cofnodion; gwaharddiad ar symud yn ddidrwydded geffyl sydd wedi ei frechu);
(o)rheoliad 27(9) (gofyniad i gydymffurfio â hysbysiad);
(p)rheoliad 28(2)(a) neu (b) (gofyniad i fod â thrwydded neu gopi ohoni; gofyniad i ddangos etc trwydded);
(q)rheoliad 28(4)(a), (b) neu (c) (gofyniad i fod â dogfen arnoch; gofyniad i ddangos etc dogfen; gofyniad i gadw dogfen);
(r)rheoliad 31 (rhwymedigaeth ar brif feddiannydd newydd i ganiatáu mynediad at ddibenion bwydo neu ymorol am les);
(s)rheoliad 34 (rhwystro);
(t)paragraff 1, 2 neu 4 o’r Atodlen (gofyniad i gadw cofnodion etc; gofyniad ynghylch lletya ceffylau; gofyniad ynghylch gweithredu rheolaeth ar fectorau);
(u)paragraff 3 o’r Atodlen (gwaharddiad ar symud yn ddidrwydded).
(2) Mae person sy’n euog o drosedd yn agored—
(a)o’i gollfarnu’n ddiannod—
(i)yn achos collfarn am drosedd o dan baragraff (1)(b), (c), (d), (e), (f), (g), (h), (i), (j), (k), (m), (o), (s) neu (u), i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, neu’r ddau,
(ii)yn achos collfarn am unrhyw drosedd arall o dan baragraff (1) i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol, neu
(b)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na chwe mis neu’r ddau.
Troseddau gan gyrff corfforaethol
36.—(1) Os profir bod trosedd a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol o dan y Rheoliadau hyn—
(a)wedi cael ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,
mae’r swyddog, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw—
(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu un o swyddogion tebyg eraill y corff, neu
(b)person a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o’r fath.
(3) Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli’r aelod hwnnw fel y mae’n gymwys i un o swyddogion corff corfforaethol.
Troseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig
37.—(1) Caniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2) At ddibenion achos o’r fath—
(a)mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel petai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas yn gorff corfforaethol; a
(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925() ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980() yn gymwys mewn perthynas â phartneriaeth neu gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas pan gawsant eu collfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(4) Pan brofir bod trosedd a gyflawnwyd gan bartneriaeth o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner, neu ei bod i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5) At y dibenion hyn, mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.
(6) Os profir bod trosedd a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig o dan y Rheoliadau hyn—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, un o swyddogion y gymdeithas,
mae’r swyddog, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, yw—
(a)un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i gorff llywodraethu, neu
(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o’r fath.
Gorfodi
38.—(1) Yr awdurdod lleol sy’n gorfodi’r Rheoliadau hyn.
(2) Ond caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad arbennig neu mewn perthynas ag achosion arbennig, mai Gweinidogion Cymru fydd yn gorfodi’r Rheoliadau hyn yn lle’r awdurdod lleol.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
Amgylchiadau eithriadol
39. Caiff arolygydd milfeddygol, at ddibenion sicrhau iechyd neu les unrhyw geffyl—
(a)trwyddedu person i gyflawni unrhyw weithred sydd, fel arall, wedi ei gwahardd o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b)esemptio person, drwy hysbysiad, rhag unrhyw ofyniad o dan y Rheoliadau hyn.
Diwygiadau
40.—(1) Yn y Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992(), yn erthygl 2 hepgorer y cyfeiriad at glefyd Affricanaidd y ceffylau.
(2) Yn y Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996(), yn Rhan 1 o Atodlen 1 hepgorer y cyfeiriad at glefyd Affricanaidd y ceffylau.