Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Parth cyfyngu dros dro ar symud
17.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo mangre yn fangre dan amheuaeth neu pan fo arolygydd milfeddygol wedi cymryd samplau o dan reoliad 15(3) o geffyl neu garcas mewn lladd-dy.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn barnu bod angen lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu, caniateir i barth cyfyngu dros dro ar symud gael ei ddatgan gan Weinidogion Cymru o amgylch y fangre dan amheuaeth neu’r lladd-dy (yn ôl y digwydd).
(3) Rhaid i’r parth cyfyngu dros dro ar symud fod o’r maint hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod ei angen gan roi sylw i’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu.
(4) O fewn y parth cyfyngu dros dro ar symud ni chaiff neb symud unrhyw geffyl na charcas i’r fangre nac ohoni, nac unrhyw gyfarpar na deunydd genetig o’r fangre, ac eithrio dan awdurdod trwydded a roddir gan arolygydd milfeddygol.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru yn barnu bod angen lleihau’r risg y gallai feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau ymledu, caiff Gweinidogion Cymru osod unrhyw fesurau eraill wrth ddatgan y parth cyfyngu dros dro ar symud.
Back to top