Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Brechu gorfodol
25.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth brechu, ac eithrio mewn parth gwyliadwriaeth.
(2) Pan fo parth brechu wedi ei ddatgan, rhaid i feddiannydd unrhyw fangre o fewn y parth hwnnw sicrhau bod y ceffylau yn ei fangre yn cael eu brechu yn unol â’r datganiad hwnnw, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (4).
(3) Caiff mangre sydd yn rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ei thrin fel petai y tu mewn i’r parth hwnnw.
(4) Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson â cheffyl yn ei feddiant neu o dan ei gyfrifoldeb, ac eithrio un a gedwir mewn parth gwyliadwriaeth, i’w gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw frechu’r ceffyl yn unol â’r hysbysiad (p’un a ddatganwyd parth brechu o dan baragraff (1) ai peidio).
Back to top