Rheolaethau cychwynnol yn dilyn hysbysiad
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan reoliad 5(1) a bod arolygydd milfeddygol yn barnu bod angen ymchwilio rhagor am y posibilrwydd fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol.
(2) Rhaid i arolygydd milfeddygol roi gwybod (ar lafar neu fel arall) i’r person a roddodd yr hysbysiad fod angen ymchwilio rhagor.
(3) Pan fo’r person hwnnw wedi cael gwybod hynny, mae’r rheolaethau sydd ym mharagraff (7) yn gymwys mewn perthynas â’r fangre lle y mae’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig (yn ôl y digwydd) wedi ei leoli.
(4) Pan nad y fangre honno yw’r fangre lle y cedwir y ceffyl hysbysedig fel arfer neu, yn achos carcas hysbysedig, lle y cedwid y ceffyl fel arfer cyn iddo farw, caiff arolygydd milfeddygol roi gwybod hefyd (ar lafar neu fel arall) i brif feddiannydd y mangreoedd eraill hynny bod angen ymchwilio rhagor.
(5) Pan fo’r prif feddiannydd wedi cael gwybod hynny, mae’r rheolaethau sydd ym mharagraff (7), ac eithrio yn is-baragraff (a)(i), yn gymwys mewn perthynas â’r mangreoedd eraill hynny.
(6) O ran arolygydd milfeddygol—
(a)rhaid iddo fynd i’r fangre lle y mae’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig wedi ei leoli ac archwilio’r ceffyl neu’r carcas hwnnw, a chaiff archwilio unrhyw geffyl neu garcas arall yno;
(b)pan fo paragraff (4) yn gymwys, caiff fynd i’r mangreoedd eraill hynny ac archwilio unrhyw geffyl neu garcas yno.
(7) Dyma’r rheolaethau—
(a)rhaid i unrhyw berson sydd â cheffyl neu garcas hysbysedig yn ei feddiant neu o dan ei gyfrifoldeb sicrhau—
(i)nad yw’r ceffyl neu’r carcas hysbysedig yn cael ei symud o’r fangre lle y mae wedi ei leoli,
(ii)nad oes dim cyfarpar na deunydd genetig yn cael ei symud o’r fangre,
(iii)nad oes unrhyw geffyl neu garcas arall yn cael ei symud o’r fangre nac iddi, ac eithrio y caiff unrhyw geffyl sydd fel arfer yn cael ei gadw yn y fangre ddychwelyd yno; a
(b)os yw hynny’n ofynnol gan arolygydd milfeddygol ac i’r graddau y mae’n ymarferol gwneud hynny, rhaid i’r prif feddiannydd sicrhau—
(i)bod pob ceffyl yn cael ei symud ymaith o unrhyw ran o’r fangre lle y mae’r rhan fwyaf o fectorau yn debygol o fod yn bresennol;
(ii)bod ardaloedd a allai fod yn fagwrfeydd fectorau yn cael eu hadnabod, ac y rhoddir ar waith unrhyw fesurau sydd ar gael i reoli fectorau dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
(8) Mae’r rheolaethau a osodir o dan y rheoliad hwn yn parhau i fod yn gymwys—
(a)hyd oni fydd arolygydd milfeddygol yn cadarnhau (ar lafar neu fel arall) i unrhyw feddiannydd y fangre nad oes amheuaeth fod feirws clefyd Affricanaidd y ceffylau yn bresennol yn y fangre, neu
(b)hyd oni fydd y fangre’n dod yn fangre dan amheuaeth().