xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1793 (Cy. 180)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013

Gwnaed

16 Gorffennaf 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Gorffennaf 2013

Yn dod i rym

1 Medi 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 46 a 48(2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 1 Medi 2013.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i’r ymadrodd “cwricwlwm lleol”, o ran disgyblion yn y pedwerydd cyfnod allweddol, yr ystyr a roddir i “local curriculum” gan adran 97 o Ddeddf 2002 ac, o ran myfyrwyr sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed, mae iddo’r ystyr a roddir i “local curriculum” gan adran 33N o Ddeddf 2000;

ystyr “cwrs astudio” (“course of study”) yw cwrs addysg neu hyfforddiant sy’n arwain at gymhwyster neu set o gymwysterau a gymeradwywyd o dan adran 99 o Ddeddf 2000 at ddibenion adran 96 o’r Ddeddf honno;

ystyr “Deddf 1992” (“1992 Act”) yw Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2);

ystyr “Deddf 1996” (“1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(3);

ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(4);

ystyr “Deddf 2000” (“2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(5);

ystyr “Deddf 2002” (“2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(6);

mae i’r ymadrodd “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf 1996;

ystyr “myfyriwr cwricwlwm lleol” (“local curriculum student”) yw person sydd, er mwyn dilyn cwrs astudio sydd wedi ei gynnwys mewn cwricwlwm lleol, yn mynychu ysgol lle nad yw’n ddisgybl cofrestredig neu sefydliad lle nad yw wedi ymrestru fel myfyriwr llawnamser;

mae i’r ymadrodd “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf 1996; ac

mae “y pedwerydd cyfnod allweddol” i’w ddehongli’n unol â “fourth key stage” yn adran 103 o Ddeddf 2002.

Cymhwyso deddfwriaeth sy’n ymwneud ag addysg i ddisgyblion a myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau astudio yn y cwricwlwm lleol

3.  At ddibenion y darpariaethau canlynol mae myfyriwr cwricwlwm lleol i’w ystyried yn fyfyriwr sefydliad o fewn y sector addysg bellach neu’n fyfyriwr mewn sefydliad o’r fath, yn berson sy’n cael addysg mewn sefydliad o’r fath neu’n berson sy’n mynychu sefydliad o’r fath—

(a)adran 43 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986(7);

(b)adrannau 18(3)(c), 44(2A), 85B a 85C o Ddeddf 1992;

(c)adrannau 20 a 22 o Ddeddf Addysg 1994(8); a

(d)adran 45 o Ddeddf Addysg 1997(9).

4.  Ac eithrio pan fo’r Rheoliadau hyn yn darparu fel arall, mae myfyriwr cwricwlwm lleol y mae addysg ran-amser yn cael ei darparu iddo mewn ysgol i’w ystyried yn ddisgybl yn yr ysgol at ddibenion Deddf 1996 (er gwaethaf adran 3(1)(b) o’r Ddeddf honno).

5.  At ddiben adran 316 o Ddeddf 1996 mae plentyn i’w ystyried yn un sy’n cael ei addysgu mewn ysgol os yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol sy’n dilyn cwrs astudio sydd wedi ei gynnwys o fewn y cwricwlwm lleol ar gyfer yr ysgol a bod y cwrs hwnnw’n cael ei ddarparu mewn man nad yw’n ysgol.

6.—(1At ddibenion y darpariaethau canlynol mae myfyriwr cwricwlwm lleol i’w ystyried yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol—

(a)adrannau 317(1)(c), 451(1), 452(6), 453, 454(1), (3), (4), 455(1), 457(3), a 460 o Ddeddf 1996;

(b)adran 462(2) o Ddeddf 1996 i’r graddau y mae’r diffiniad o “residential trip” yn gymwys i adrannau 452 a 455(1)(d) o Ddeddf 1996;

(c)adran 62 o Ddeddf 1998; a

(d)adran 29(3) o Ddeddf 2002.

(2Mae’r diffiniad o “residential trip” yn adran 462(2) o Ddeddf 1996 yn cynnwys, at ddiben adran 457(4) o Ddeddf 1996, daith a drefnwyd gan neu ar ran corff llywodraethu ysgol arall a gynhelir y mae disgyblion yn ei mynychu at ddibenion dilyn cwrs astudio o fewn y cwricwlwm lleol.

(3At ddibenion Pennod 3 o Ddeddf 1996, yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 462(3) o’r Ddeddf honno, mae disgybl i’w ystyried yn un sydd wedi ei baratoi mewn ysgol lle y mae’n ddisgybl cofrestredig am faes llafur ar gyfer arholiad cyhoeddus a ragnodwyd os yw unrhyw ran o’r addysg a ddarperir gyda golwg ar gyfer paratoi’r disgybl ar gyfer yr arholiad hwnnw yn y maes llafur hwnnw wedi ei darparu i’r disgybl mewn ysgol neu fan arall a fynychwyd gan y disgybl at ddiben dilyn cwrs astudio o fewn y cwricwlwm lleol.

7.  At ddibenion y darpariaethau canlynol mae myfyriwr cwricwlwm lleol i’w ystyried yn berson sy’n mynychu ysgol neu’n berson sy’n cael ei addysgu mewn ysgol—

(a)adran 317(4) o Ddeddf 1996; a

(b)adran 45 o Ddeddf Addysg 1997.

8.  At ddibenion y darpariaethau canlynol nid yw myfyriwr cwricwlwm lleol i’w ystyried yn ddisgybl mewn ysgol neu’n berson sy’n mynychu ysgol—

(a)adran 434 o Ddeddf 1996; a

(b)adran 52 o Ddeddf 2002.

9.  At ddibenion adran 450 o Ddeddf 1996 ni chaniateir codi ffi mewn cysylltiad â derbyn person i ysgol a gynhelir er mwyn iddo ddilyn cwrs astudio sydd wedi ei gynnwys o fewn cwricwlwm lleol (hyd yn oed os yw’r person hwnnw’n cael addysg ran-amser sy’n addas at anghenion personau o unrhyw oed dros oedran addysg gorfodol).

10.  Nid yw adran 80 o Ddeddf 1998 yn gymwys mewn perthynas ag addysg ran-amser a ddarperir i fyfyriwr cwricwlwm lleol.

11.—(1Nid yw unrhyw drefniadau a wneir i berson ddilyn cwrs astudio sydd wedi ei gynnwys o fewn cwricwlwm lleol mewn ysgol lle nad yw’r person hwnnw’n ddisgybl cofrestredig, neu lle nad yw’n bwriadu dod yn ddisgybl cofrestredig, i’w hystyried yn drefniadau derbyn at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf 1998.

(2Nid yw’r gofyniad i wneud trefniadau o dan adrannau 86 ac 86A o Ddeddf 1998 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddewis o ran yr ysgol lle y bydd cwrs astudio penodol o fewn cwricwlwm lleol yn cael ei ddilyn pan fo’r ysgol honno’n wahanol i’r ysgol lle y mae plentyn neu rieni plentyn yn dymuno iddo fod yn ddisgybl cofrestredig.

(3Nid yw’r gwaith o benderfynu nifer y disgyblion a wneir o dan adran 89A o Ddeddf 1998 y bwriedir eu derbyn i ysgol mewn blwyddyn ysgol benodol i gynnwys nifer y myfyrwyr cwricwlwm lleol sy’n debygol o fynychu’r ysgol yn y flwyddyn honno.

(4Nid yw’r ddyletswydd yn adran 94 o Ddeddf 1998 i wneud trefniadau ar gyfer galluogi personau i apelio yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad o ran yr ysgol lle y caiff person ddilyn cwrs astudio sydd wedi ei gynnwys o fewn cwricwlwm lleol lle y mae’r ysgol honno’n wahanol i’r ysgol lle y mae plentyn neu rieni plentyn yn dymuno iddo fod yn ddisgybl cofrestredig.

12.  Pan fo’r mesurau a benderfynir gan bennaeth o dan adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(10) y caniateir eu cymryd gyda golwg ar reoleiddio ymddygiad disgyblion yn cynnwys cadw disgyblion i mewn y tu allan i sesiynau ysgol, mae rhieni myfyrwyr cwricwlwm lleol i’w hystyried yn rhieni disgyblion cofrestredig at ddibenion adran 92(3)(b) a (d) o’r Ddeddf honno os bydd y mesurau hynny’n gymwys mewn perthynas â myfyrwyr cwricwlwm lleol.

13.—(1Pan fo’r canlynol yn digwydd, sef––

(a)bod person wedi dewis dilyn cwrs astudio o dan adran 116D(1) o Ddeddf 2002 neu adran 33E(1) o Ddeddf 2000, a

(b)nad yw’r cwrs astudio hwnnw’n cael ei ddarparu yn yr ysgol lle y mae’r person yn ddisgybl cofrestredig neu yn y sefydliad lle y mae’r person wedi ymrestru fel myfyriwr llawnamser,

mae’r corff sy’n gyfrifol am yr ysgol neu’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs astudio i’w ystyried, mewn perthynas â’r person hwnnw, yn gorff sy’n gwneud trefniadau ar gyfer penderfynu pwy sy’n cael ei gynnig derbyniad, ac yn gorff sy’n cynnig derbyn neu sy’n peidio â derbyn at ddiben adrannau 85(1) a (4) a 91(1) a (6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(11).

(2Pan fo’r canlynol yn digwydd, sef—

(a)bod person wedi dewis dilyn cwrs astudio o dan adran 116D(1) o Ddeddf 2002 neu adran 33E(1) o Ddeddf 2000, a

(b)nad yw’r cwrs astudio hwnnw’n cael ei ddarparu yn yr ysgol lle y mae’r person yn ddisgybl cofrestredig neu’r sefydliad lle y mae’r person wedi ymrestru fel myfyriwr llawnamser,

mae’r person hwnnw i’w ystyried yn berson sydd wedi gwneud cais am gael ei dderbyn at ddiben adrannau 85(3)(b) a 91(5)(b) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

16 Gorffennaf 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran gweithredu’r cwricwlwm lleol, a gyflwynwyd gan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Maent yn nodi sut y bydd amrywiol ddarpariaethau mewn deddfwriaeth sy’n ymwneud ag addysg yn cael eu cymhwyso o ran disgyblion a myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau astudio at ddiben y cwricwlwm lleol sy’n cael ei ddarparu mewn ysgol neu sefydliad ac eithrio eu hysgol neu eu sefydliad hwy. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn eglur pryd y maent i’w hystyried yn ddisgyblion neu’n fyfyrwyr yr ysgol arall honno neu’r sefydliad arall hwnnw.