Offerynnau Statudol Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Pysgod Cregyn
Gwnaed
11 Awst 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Awst 2013
Yn dod i rym
10 Medi 2013
Gwnaed cais i Weinidogion Cymru gan Mumbles Oyster Company Limited (Rhif y Cwmni: 08181012) (“y Grantî”) am orchymyn sy’n rhoi’r hawl i bysgodfa unigol o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (1) (“y Ddeddf”).
Paratowyd Gorchymyn drafft gan Weinidogion Cymru a chyflwynwyd copi ohono i’r Grantî yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
Parodd y Grantî fod copïau printiedig o’r Gorchymyn drafft yn cael eu cyhoeddi a’u cylchredeg, a rhoddodd hysbysiad o’r cais yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r Gorchymyn gael ei wneud.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn y dylid gwneud y Gorchymyn canlynol yn awr.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1 o’r Ddeddf ac sydd bellach wedi eu breinio(2) ynddynt hwy.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Wystrys y Mwmbwls 2013 a daw i rym ar 10 Medi 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “yr Ardal” (“the Area”) yw’r ardal ym Mae Abertawe sydd yng nghyffiniau’r Mwmbwls ac a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;
ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw’r hawl i bysgodfa unigol a grëir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn;
ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(3);
ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Mumbles Oyster Company Limited (Rhif y Cwmni: 08181012) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn 17 Trem y Mynydd, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, SA16 OFZ neu ba berson arall bynnag sydd â hawl i’r bysgodfa am y tro;
ystyr “wystrysen frodorol” (“native oyster”) yw unrhyw bysgod cregyn o’r math Ostrea edulis; ac
ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4).
3. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, mae gan y Grantî yr hawl i bysgodfa unigol am wystrys brodorol o fewn yr Ardal am gyfnod o 15 mlynedd sy’n dechrau ar 10 Medi 2013.
4. Rhaid i’r Grantî farcio terfynau’r Ardal ym mha fodd bynnag a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd, a rhaid iddo gynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.
5.—(1) Rhaid i’r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion y daliadau—
(a)am y cyfnod o 10 Medi 2013 i 31 Mawrth 2014 ar 31 Gorffennaf 2014 neu cyn hynny; ac wedi hynny
(b)am y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth ar 31 Gorffennaf neu cyn hynny yn y flwyddyn y mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben.
(2) Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—
(a)cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn wystrys brodorol a heuwyd yn y bysgodfa;
(b)lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn wystrys brodorol ohoni;
(c)cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl wystrys brodorol a gymerwyd o’r bysgodfa;
(d)lleoliad y man y cymerwyd y wystrys brodorol ohono; a
(e)pa wybodaeth bellach bynnag a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.
6.—(1) Rhaid i’r Grantî roi i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o incwm a gwariant y Grantî o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Heb leihau dim ar effaith paragraff (1), rhaid i’r Grantî gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir gan Weinidogion Cymru am wybodaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn.
(3) Rhaid i’r Grantî ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru arolygu’r Ardal a’r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn, a rhaid iddo roi i’r person hwnnw unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r materion hyn, y gofynnir amdani gan y person hwnnw.
7. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n lleihau effaith unrhyw ystâd, hawl, pŵer, braint neu esemptiad y Goron, ac yn benodol, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi’r Grantî i gymryd, i ddefnyddio neu i ymyrryd mewn unrhyw fodd ag unrhyw ran o lan neu wely’r môr neu lan neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu foryd neu unrhyw dir, hereditamentau, gwrthrychau neu hawliau o unrhyw ddisgrifiad sy’n eiddo i’w Mawrhydi drwy hawl ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron.
8. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n lleihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.
9. Ni chaiff y Grantî, heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, aseinio’r hawl hon i bysgodfa, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ffordd arall, i unrhyw berson arall.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
11 Awst 2013
Erthygl 2
Y rhan honno o wely’r môr ym Mae Abertawe, sydd yng nghyffiniau’r Mwmbwls, sy’n ymestyn i tua 35 hectar, ac sydd oddi mewn i linell sy’n cysylltu’r cyfesurynnau a rifwyd 1 i 4 yn y tabl isod.
Pwynt | Lledred | Hydred |
---|---|---|
1 | 51.57604837 | -3.96530328 |
2 | 51.57260254 | -3.96075898 |
3 | 51.56864837 | -3.96893939 |
4 | 51.57214733 | -3.97334138 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi i Mumbles Oyster Company Limited (Rhif y Cwmni: 08181012) (“y Grantî”) yr hawl i bysgodfa unigol am wystrys brodorol (Ostrea edulis) dros arwynebedd o tua 35 hectar ym Mae Abertawe sydd yng nghyffiniau’r Mwmbwls, am gyfnod o 15 mlynedd yn dechrau ar 10 Medi 2013.
Diffinnir hyd a lled y bysgodfa drwy ddefnyddio’r cyfesurynnau a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn ac a ddangosir, at ddibenion eglurhaol yn unig, ar fap sydd ar gael i edrych arno (os gwneir apwyntiad ymlaen llaw) yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae erthygl 3 yn rhoi’r hawl i bysgodfa unigol.
Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn marcio terfynau’r bysgodfa ym mha fodd bynnag y bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo o bryd i’w gilydd, ac yn cynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.
Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn cyflwyno manylion daliadau yn flynyddol.
Mae erthygl 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Grantî yn darparu cyfrifon blynyddol ac yn cydymffurfio â phob cais am wybodaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd fod y Grantî yn caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru arolygu ardal y bysgodfa a’r holl gyfrifon a dogfennau eraill sydd ym meddiant y Grantî ac sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn a’r ardal honno.
Mae erthygl 7 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith hawliau’r Goron ac mae erthygl 8 yn darparu na chaiff dim sydd yn y Gorchymyn hwn leihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.
Mae erthygl 9 yn gwahardd aseinio, neu drosglwyddo rywfodd arall, yr hawl i bysgodfa unigol a grëir gan y Gorchymyn hwn heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru.
Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y Grantî yn ffermio’r bysgodfa, neu’n gweithredu’r cyfyngiadau a’r rheoliadau a gynhwysir yn y Gorchymyn yn briodol, mae adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud tystysgrif i’r perwyl hwnnw, a fydd yn terfynu’r bysgodfa yn llwyr, o ran yr ardal y gwneir y dystysgrif mewn cysylltiad â hi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1967 p. 83. Diwygiwyd adran 1 o’r Ddeddf gan adran 15(1) a (2) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77); adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) (Diwygio) 1997 (p. 3); adran 9(1) o Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976, a pharagraff 15 o Atodlen 2 iddi (p. 86); adrannau 202(1), (2) a (3), 203 a 321 o Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a Rhan 5(A) o Atodlen 22 iddi (p.23). Mae’r Ddeddf i’w darllen gydag adran 15(3) i (5) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77). Diwygiwyd Atodlen 1 i’r Ddeddf gan adran 15(7) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77), adran 31(6) o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (p.45), adrannau 37 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) ac adran 202(4), 214(1) i (4) a 321 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 a Rhan 5(A) o Atodlen 22 iddi (p.23).
Mae swyddogaethau’r Gweinidog priodol (fel y’i diffinnir yn adran 22(1) o’r Ddeddf) yn adran 1 o’r Ddeddf yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).
2006 p.32. Mae diwygiadau i adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.