Search Legislation

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Esemptiadau ar gyfer daliadau organig

28.  Caiff meddiannydd daliad sydd wedi’i gofrestru’n gynhyrchydd organig gyda chorff a gofrestrwyd gyda’r Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig(1) daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg—

(a)ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 4 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu

(b)ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau(2),

ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau’r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.

(1)

Corff cyhoeddus anadrannol anweithredol yw’r Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig, sy’n cymeradwyo cyrff arolygu organig.

(2)

Gweinyddir y cynllun gan Basis Registration Ltd, a gellir cael rhestr o bersonau cymwysedig drwy wneud cais i’r cwmni, neu ar ei wefan, www.basis-reg.com.

Back to top

Options/Help