Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un teitl ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y mae’n hysbys ei fod wedi cael yr Offeryn Statudol hwnnw gan fod y fersiwn wreiddiol wedi ei hargraffu â’r rhif anghywir.
2013 Rhif 2723 (Cy. 261)
Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 6(2) a 8(1) o Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 20111 (“y Mesur”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013.
2
Daw i rym ar 30 Ebrill 2014.
Dosbarthiadau o fangreoedd preswyl2
1
Mae adran 6(1) o’r Mesur wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn y mannau priodol mewnosoder—
mae i “fflat” (“flat”) yr ystyr a roddir i “flat” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 20102
mae i “tŷ annedd” (“dwelling-house”) yr ystyr a roddir i “dwelling-house” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010
3
Yn y diffiniad o “preswylfa”—
a
yn lle paragraffau (d) ac (e) rhodder—
d
neuadd breswyl;
e
ystafell neu gyfres o ystafelloedd, nad yw’n dŷ annedd nac yn fflat ac sy’n cael ei defnyddio gan un neu fwy o bersonau i fyw a chysgu ynddi ac sy’n cynnwys ystafell mewn hostel neu dŷ preswyl, ond nid yw’n cynnwys—
i
ystafell mewn gwesty;
ii
ystafell mewn hostel sy’n cael ei darparu fel llety dros dro i’r rhai hynny sy’n preswylio fel arfer yn rhywle arall;
iii
ystafell mewn ysbyty neu sefydliad tebyg arall sy’n cael ei defnyddio fel llety i gleifion;
iv
ystafelloedd mewn carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc;
v
mangre ar gyfer lletya personau sydd wedi eu remandio ar fechnïaeth;
vi
mangre ar gyfer lletya personau y gall fod yn ofynnol iddynt, drwy orchymyn prawf breswylio yno, neu
b
mewnosoder ar ôl paragraff (e)—
f
cartref plant, pan fo gan “cartref plant” yr ystyr a roddir i “children’s home” yn adran 1 o Ddeddf Safonau Gofal 20003 ond nid yw’n cynnwys—
i
sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y’i diffiniwyd gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19924;
ii
sefydliad a ddefnyddir i letya plant at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn unig—
aa
gwyliau;
bb
gweithgaredd hamdden, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;
ar yr amod nad oes dim un plentyn yn cael ei letya yno am fwy na 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis;
iii
sefydliad troseddwyr ifanc, a
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)