- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
115.—(1) Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo—
(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny; a
(b)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.
(2) Os yw’r myfyriwr cymwys, cyn cwblhau’r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc sy’n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai’n bodloni rheoliad 95(1)(b) ac (c)—
(a)os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr hwnnw yn parhau am flwyddyn academaidd o leiaf; a
(b)os yw’n bosibl, mewn perthynas â throsglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae’r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs dynodedig hwnnw; neu
(c)os yw’n bosibl, mewn perthynas â throsglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae’r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho mewn dim mwy na phedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs dynodedig hwnnw.
(3) Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—
(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 29 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;
(b)uchafswm y grant y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i’w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 100 mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter diweddarach yn y flwyddyn honno;
(c)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr o dan reoliad 29 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy’n daladwy i’r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 100 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd i’r myfyriwr hwnnw at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 29, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim;
(d)os oedd y myfyriwr hwnnw yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â’r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu’r uchafswm wedi ei gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i’w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi ei gynyddu y benthyciad hwnnw am y flwyddyn academaidd yn cael ei ostwng yn unol â’r paragraff hwnnw;
(e)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant neu lwfans i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 31 i 34 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;
(f)mae uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hwnnw, heblaw am y rheoliad hwn, hawlogaeth i’w gael yn unol â rheoliadau 101 i 110 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno; ac
(g)os oes swm o grant neu lwfans wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 31 i 34 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant neu’r lwfans sy’n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 101 i 110 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (f) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant neu’r lwfans cyfatebol a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 31 i 34, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.
(4) Os yw’r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi ei gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw’r cais yn cael ei wneud yn ail chwarter y flwyddyn honno mae’r swm hwnnw’n cael ei ostwng o un traean.
(5) Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo—
(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys am wneud hynny; a
(b)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.
(6) Os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc sy’n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai’n bodloni rheoliad 95(1)(b) ac (c)—
(a)os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr hwnnw yn parhau am flwyddyn academaidd o leiaf; a
(b)os yw’n bosibl, mewn perthynas â throsglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig hwnnw; neu
(c)os yw’n bosibl, mewn perthynas â throsglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo oddi wrtho mewn dim mwy na phedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig hwnnw.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae hawl gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (5) mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’n trosglwyddo iddo weddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i’w gael o dan Ran 11 mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’n trosglwyddo oddi wrtho.
(8) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy’n daladwy ar ôl y trosglwyddiad yn unol â’r Rhan hon.
(9) O ran myfyriwr sy’n trosglwyddo o dan baragraff (5) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cymorth i’r myfyriwr hwnnw o dan Ran 11 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell y mae’n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno—
(a)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 97(1)(b) neu reoliad 99 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 80(1)(b);
(b)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 100 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 83.
(10) Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5) i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i’r myfyriwr o dan reoliad 80(1)(a) a 97(1)(a) o ran—
(a)y flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo oddi wrthi; a
(b)y flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo iddi;
beidio â bod yn uwch na swm y cymorth a benderfynir sy’n daladwy i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 80(1)(a).
(11) Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5) i gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014, nid ystyrir y cymorth a benderfynir sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 80(1)(a), wrth benderfynu ar swm y cymorth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 98.
(12) Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i’w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliadau 101 i 110 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter diweddarach yn y flwyddyn honno.
(13) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’n trosglwyddo iddo—
(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a
(b)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.
(14) Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy’n trosglwyddo o dan baragraff (13)—
(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i’r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 100 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr cymwys;
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (c) ac (f), anwybyddir unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i’w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo ynddi wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;
(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o unrhyw grant neu lwfans i’r myfyriwr yn unol â rheoliadau 101 i 110 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o ran cyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr cymwys;
(d)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Rannau 5 neu 6 y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i’w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;
(e)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliad 100 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy’n daladwy iddo o dan reoliad 29 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (d) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 100 ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac
(f)os oes swm o grant neu lwfans wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw yn unol â rheoliadau 101 i 110 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant neu’r lwfans cyfatebol sy’n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 31 i 34 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (d) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant neu’r lwfans a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 101 i 110, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.
(15) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’n trosglwyddo iddo—
(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a
(b)os nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.
(16) Yn ddarostyngedig i baragraff (17), mae gan fyfyriwr sy’n trosglwyddo o dan baragraff (15) hawl i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo gweddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i’w gael o dan y Rhan hon o ran blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae’n trosglwyddo oddi wrtho.
(17) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy’n daladwy ar ôl y trosglwyddiad yn unol â Rhan 11.
(18) O ran myfyriwr rhan-amser cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (15) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cymorth i’r myfyriwr hwnnw mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser y mae’n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno—
(a)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 80(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 97(1)(b) neu reoliad 99;
(b)ni chaiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am grant o dan reoliad 83 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 100.
(19) Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (15) o gwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014, rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliadau 80(1)(a) a 97(1)(a) o ran—
(a)y flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo oddi wrthi; a
(b)y flwyddyn academaidd y mae’n trosglwyddo iddi;
beidio â bod yn uwch na swm uchaf y cymorth a benderfynir sy’n daladwy i’r myfyriwr hwnnw o dan reoliad 97(1)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 115 mewn grym ar 10.1.2014, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: