Rhagolygol
Enwi cymhwyso a chychwynLL+C
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2013.
DehongliLL+C
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cymwysedig” (“qualified”) yw cymwysedig at ddibenion y Ddeddf;
ystyr “Y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Bwyd 1990;
ystyr “perchennog” (“owner”) yw—
(a)
yn achos nwyddau sydd ar daith, y traddodwr (neu, os nad oes gan y traddodwr gyfeiriad yng Nghymru, y traddodai);
(b)
yn achos nwyddau o beiriant gwerthu—
(i)
os yw'r peiriant wedi ei farcio ag enw a chyfeiriad ei berchennog, ac os yw'r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru, y person hwnnw; a
(ii)
mewn unrhyw achos arall, meddiannydd y fangre y saif y peiriant ynddi, neu y gosodwyd y peiriant ynghlwm wrthi;
(c)
mewn unrhyw achos arall, y person a oedd yn ymddangos i'r swyddog awdurdodedig yn berchennog y sampl, pan gaffaelwyd y sampl gan y swyddog.
Darpariaethau samplu a dadansoddi nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddyntLL+C
3. Nid yw'r darpariaethau o'r Rheoliadau hyn a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 1 yn gymwys i unrhyw sampl a gymerwyd o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen honno.
Cymwysterau dadansoddwyrLL+C
4. Mae person yn gymwysedig i fod yn ddadansoddwr bwyd neu'n ddadansoddwr cyhoeddus, os oes gan y person hwnnw gymhwyster Meistr mewn Dadansoddi Cemegol, a ddyfarnwyd iddo gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Cymwysterau archwilwyr bwydLL+C
5.—(1) Mae person yn gymwysedig i fod yn archwilydd bwyd—
(a)os oedd y person hwnnw, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn gymwysedig ar gyfer bod yn archwilydd bwyd o dan reoliad 4 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(); neu
(b)os oedd y person hwnnw, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw,
(i)yn meddu ar gymhwyster a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 2; a
(ii)wedi bod yn cynnal archwiliadau bwyd dros gyfnod neu gyfnodau cyfanredol o dair blynedd o leiaf, yn un neu ragor o'r labordai a restrir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno.
(2) Wrth gyfrifo'r cyfnod cymhwyso ym mharagraff (1)(b)(ii), rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnod a dreuliwyd fel person israddedig mewn labordy a bennir ym mharagraffau 4 i 6 o Ran 2 o Atodlen 2.
Cyfyngiadau sy'n gymwys i ddadansoddwyr ac archwilwyrLL+C
6.—(1) Ni chaiff cyfarwyddwr, perchennog na chyflogai unrhyw fusnes bwyd, na phartner mewn busnes bwyd, weithredu fel dadansoddwr cyhoeddus neu archwilydd bwyd ar gyfer yr ardal y lleolir y cyfryw fusnes ynddi.
(2) Ni chaiff person a grybwyllir ym mharagraff (1) ddadansoddi nac archwilio unrhyw sampl y gŵyr y person hwnnw ei bod wedi ei chymryd o'r busnes hwnnw.
Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei dadansoddiLL+C
7.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig, sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi, beri bod y sampl, yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn cael ei rhannu'n dair rhan.
(2) Os cynwysyddion seliedig sydd yn y sampl ac os byddai agor y cynwysyddion, ym marn y swyddog awdurdodedig, yn llesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl drwy osod y cynwysyddion mewn tair lot, a rhaid trin pob lot unigol fel rhan o'r sampl.
(3) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig—
(a)os oes angen, rhoi pob rhan mewn cynhwysydd addas a selio pob cynhwysydd;
(b)marcio neu labelu pob rhan neu gynhwysydd;
(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhoi un rhan i'r perchennog a rhoi hysbysiad i'r perchennog i'r perwyl y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;
(d)cyflwyno un rhan i'w dadansoddi; ac
(e)cadw un rhan ar gyfer ei chyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 8.
(4) Os yw'r swyddog awdurdodedig o'r farn nad yw rhannu'r sampl yn rhesymol ymarferol, neu fod hynny'n debygol o lesteirio dadansoddiad priodol, rhaid i'r swyddog, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r perchennog y bydd y sampl cyfan yn cael ei dadansoddi heb ei rhannu, a chyflwyno'r sampl i'w dadansoddi.
Cyflwyno'r rhan o'r sampl a gadwyd yn ôlLL+C
8.—(1) Os oes rhan o sampl wedi ei chadw'n ôl o dan reoliad 7(3)(e) ac
(a)achos cyfreithiol yn yr arfaeth neu eisoes wedi ei gychwyn yn erbyn person am drosedd mewn cysylltiad â'r sampl honno; a
(b)yr erlyniad yn bwriadu rhoi canlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod gerbron fel tystiolaeth yn yr achos,
mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys.
(2) Yn achos swyddog awdurdodedig—
(a)caiff, o'i wirfodd ei hunan, anfon y rhan o'r sampl a gadwyd yn ôl at Gemegydd y Llywodraeth ar gyfer ei dadansoddi;
(b)rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan yr erlynydd (os yw'r erlynydd yn rhywun ac eithrio'r swyddog ei hunan);
(c)rhaid iddo wneud hynny os yw'r llys yn gorchymyn felly; neu
(d)yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y person cyhuddedig.
(3) Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, neu gyfarwyddo dadansoddwr bwyd i ddadansoddi, y rhan a anfonwyd o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif o ddadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth at y swyddog awdurdodedig.
(4) Rhaid i unrhyw dystysgrif a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth gael ei llofnodi gan, neu ar ran, Cemegydd y Llywodraeth, ond caniateir i'r dadansoddiad gael ei wneud gan berson sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd llofnodwr y dystysgrif.
(5) Ar ôl cael y dystysgrif, rhaid i'r swyddog awdurdodedig, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gyflenwi copi o'r dystysgrif i'r erlynydd (os yw'r erlynydd yn rhywun ac eithrio'r swyddog awdurdodedig ei hunan) ac i'r person cyhuddedig.
(6) Pan wneir cais o dan baragraff (2)(d), caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person cyhuddedig, yn gofyn iddo dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, i ddiwallu rhan neu'r cyfan o'r gostau a dynnir gan Gemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os nad yw'r person cyhuddedig yn cydsynio i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.
Y weithdrefn pan fo sampl i gael ei harchwilioLL+C
9. Rhaid i swyddog awdurdodedig, sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf ac sydd o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio—
(a)os oes angen, rhoi'r sampl mewn cynhwysydd addas a selio'r cynhwysydd;
(b)marcio neu labelu'r sampl neu'r cynhwysydd; ac
(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol,
(i)cyflwyno'r sampl i'w harchwilio, a
(ii)rhoi hysbysiad i'r perchennog i'r perwyl bod y sampl i gael ei harchwilio.
TystysgrifauLL+C
10.—(1) Pan fo sampl a gaffaelwyd o dan adran 29 o'r Ddeddf wedi ei dadansoddi neu ei harchwilio, mae hawl gan berchennog y sampl, drwy wneud cais, i gael copi o'r dystysgrif dadansoddi neu archwilio, gan yr awdurdod sy'n gorfodi.
(2) Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddwr bwyd neu archwilydd bwyd o dan adran 30(6) o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i ba bynnag addasiadau a fydd yn ofynnol yn rhesymol oherwydd amgylchiadau, fod yn yr un ffurf â'r enghraifft a ddangosir yn Atodlen 3.
Diwygiadau canlyniadolLL+C
11. Yn y darpariaethau canlynol, yn lle'r geiriau “Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990” rhodder “Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013”—
(a)paragraffau (10) ac (11) o reoliad 13 (dadansoddi etc. samplau) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006();
(b)paragraffau (10) ac (11) o reoliad 38 (dadansoddi etc. samplau) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009();
DirymuLL+C
12. Dirymir Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990() o ran Cymru.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2013