xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013.
(3) Mae i ddiwygiad, diddymiad neu ddirymiad a wneir gan y Gorchymyn hwn yr un rhychwant â'r ddarpariaeth y mae'n ymwneud â hi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Corff” (“the Body”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1);
ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995(2);
ystyr “deddfiad lleol” (“local enactment”) yw unrhyw Ddeddf leol neu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf leol neu yn rhinwedd Deddf leol;
ystyr “y Gorchymyn Sefydlu” (“the Establishment Order”) yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
3. Mae Atodlen 1 yn cynnwys diwygiadau i'r Gorchymyn Sefydlu.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 3 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
4.—(1) Mae Atodlenni 2 a 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sydd—
(a)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;
(c)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;
(d)yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;
(e)yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.
(2) Mae Atodlenni 4, 5 a 6 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sydd—
(a)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;
(c)yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;
(d)yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;
(e)yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 4 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
5. Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at CCGC (sut bynnag y'i mynegir), ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at CCGC, i'w drin fel cyfeiriad at y Corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Ergl. 5 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
6. Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at y Comisiynwyr Coedwigaeth (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at y Comisiynwyr Coedwigaeth, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Ergl. 6 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
7. Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, heblaw deddfiad sy'n ymwneud â mordwyo, mae unrhyw gyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Ergl. 7 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
8.—(1) Mae CCGC wedi ei ddileu.
(2) Gan hynny, mae'r canlynol wedi eu diddymu—
(a)adrannau 128 i 134 o Ddeddf 1990(4);
(b)Atodlenni 6, 8 a 9 i Ddeddf 1990(5);
(c)Rhan 1 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(6).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Ergl. 8 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
9.—(1) Mae'r canlynol wedi eu dileu—
(a)Pwyllgor Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd a sefydlwyd yn unol ag adran 12(6) o Ddeddf 1995;
(b)y pwyllgor ymgynghorol pysgodfeydd rhanbarthol a lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 13(5) o Ddeddf 1995.
(2) Gan hynny, mae'r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 1995 wedi eu diddymu—
(a)adran 12(7);
(b)adran 13(8);
(c)Atodlen 3;
(d)paragraff 3 o Atodlen 23.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Ergl. 9 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
10. Mae Atodlen 7 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Ergl. 10 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)
Alun Davies
Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
25 Mawrth 2013