Search Legislation

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Erthygl 3

ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU CORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU

1.  Mae'r Gorchymyn Sefydlu wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2.  Yn lle erthygl 2 rhodder—

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cadwraeth natur” (“nature conservation”) yw cadwraeth fflora, ffawna neu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol;

mae i “y Corff” (“the Body”) yr ystyr a roddir gan erthygl 3(1);

mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “the Welsh zone” gan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).

mae i “swyddogaethau rheoli llygredd” yr un ystyr ag sydd i “pollution control functions” yn adran 5 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(2).

3.  Yn erthygl 4(3), hepgorer “(fel y diffinnir “Welsh zone” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006)”.

4.  Ar ôl erthygl 5 mewnosoder—

Dyletswyddau cadwraeth natur

5A.(1) Rhaid i'r Corff arfer ei swyddogaethau mewn modd sy'n hybu cadwraeth natur a chadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder.

(2) Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddogaethau rheoli llygredd y Corff nac i'w swyddogaethau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967.

(3) Wrth arfer ei swyddogaethau rheoli llygredd, rhaid i'r Corff roi sylw i ba mor ddymunol yw cadwraeth natur a chadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder.

(4) Mae adran 1(3A) o Ddeddf Coedwigaeth 1967(3) yn gwneud darpariaeth ynghylch y cydbwysedd rhwng cadwraeth natur a materion eraill y mae'n rhaid i'r Corff ymdrechu i'w cyflawni wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf honno.

5B  Wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur, rhaid i'r Corff roi sylw i newidiadau ecolegol gwirioneddol neu bosibl.

Dyletswyddau mynediad a hamdden

5C.(1) Rhaid i'r Corff arfer ei swyddogaethau mewn modd sy'n hyrwyddo darpariaeth a gwelliant cyfleoedd—

(a)i fynd i gefn gwlad a mannau agored a'u mwynhau;

(b)at hamdden awyr agored; ac

(c)i astudio, deall a mwynhau'r amgylchedd naturiol.

(2) Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddogaethau rheoli llygredd y Corff.

(3) Wrth arfer ei swyddogaethau rheoli llygredd, rhaid i'r Corff roi sylw i ba mor ddymunol yw parhau i sicrhau bod cyfleoedd presennol o'r mathau a grybwyllir ym mharagraff (1) ar gael i'r cyhoedd.

(4) Mae adran 2 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968(4) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch dyletswyddau'r Corff sy'n ymwneud â chyfleusterau ar gyfer mwynhau cefn gwlad, cadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder cefn gwlad, a mynediad y cyhoedd i gefn gwlad at hamdden.

Dyletswyddau o ran safleoedd hanesyddol

5D  Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canlynol—

(a)pa mor ddymunol yw gwarchod a chadw adeiladau, adeileddau, safleoedd a gwrthrychau o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol, peirianegol neu hanesyddol;

(b)pa mor ddymunol yw sicrhau bod unrhyw gyfleuster at ymweld ag unrhyw adeilad, adeiledd, safle neu wrthrych o'r fath neu eu harolygu yn parhau ar gael i'r cyhoedd, i'r graddau y mae'n gyson ag is-baragraff (a) ac erthygl 5A.

Dyletswyddau o ran llesiant

5E  Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canlynol—

(a)iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion a chymunedau;

(b)llesiant economaidd unigolion, busnesau a chymunedau.

Dyletswyddau Gweinidogion Cymru o ran cynigion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff

5F.(1) Mae'r dyletswyddau yn erthyglau 5A i 5E yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt lunio neu ystyried unrhyw gynigion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff, fel y maent yn gymwys i'r Corff wrth iddo arfer y swyddogaethau hynny.

(2) Ond nid yw'r ddyletswydd yn erthygl 5A(1) yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt lunio neu ystyried cynigion o'r fath ond i'r graddau y mae'r ddyletswydd yn gyson â'r canlynol—

(a)yr amcan o sicrhau datblygu cynaliadwy; a

(b)dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(5).

Hamdden o ran dŵr a thir cysylltiedig

5G.(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo gan y Corff hawliau i ddefnyddio dŵr neu dir sy'n gysylltiedig â dŵr.

(2) Rhaid i'r Corff gymryd camau priodol i sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu harfer mewn modd sy'n sicrhau bod y dŵr neu'r tir—

(a)ar gael at ddibenion hamdden; a

(b)ar gael yn y modd gorau.

(3) Ym mharagraff (2), ystyr “camau priodol” (“appropriate steps”) yw camau—

(a)sy'n rhesymol ymarferol; a

(b)sy'n gyson â darpariaethau unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff.

(4) Rhaid i'r Corff sicrhau cydsyniad unrhyw awdurdod mordwyo, awdurdod harbwr neu awdurdod cadwraeth cyn gwneud dim o dan baragraff (1) sy'n peri rhwystr i'r mordwyo sydd o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw, neu ymyrraeth arall â'r mordwyo hwnnw.

(5) Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(6) yn gwneud darpariaeth gyffredinol bellach ynghylch swyddogaethau'r Corff o ran dŵr.

Darparu cyfleusterau at hamdden a dibenion eraill

5H.(1) Caiff y Corff ddarparu, neu wneud trefniadau i ddarparu, cyfleusterau at y dibenion a bennir ym mharagraff (2) ar unrhyw dir sy'n perthyn iddo, y mae'n ei ddefnyddio neu'n ei reoli, neu a drefnir at ei ddefnydd gan Weinidogion Cymru.

(2) Dyma'r dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)twristiaeth a mwynhau cefn gwlad a mannau agored;

(b)hamdden a chwaraeon;

(c)astudio, deall a mwynhau'r amgylchedd naturiol.

(3) Ym mharagraff (1), mae “cyfleusterau” (“facilities”) yn cynnwys, heb gyfyngiad—

(a)llety i ymwelwyr, safleoedd gwersylla a safleoedd carafannau;

(b)safleoedd picnic a mannau ar gyfer prydau a lluniaeth;

(c)mannau i fwynhau golygfeydd a mannau parcio;

(d)llwybrau ar gyfer cerdded, beicio neu astudio'r amgylchedd naturiol;

(e)canolfannau addysg, canolfannau arddangos a gwybodaeth;

(f)siopau mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r cyfleusterau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (e);

(g)cyfleusterau cyhoeddus.

5I  Mae pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 39 o Ddeddf Coedwigaeth 1967(7) i gaffael tir yn cynnwys pŵer i gaffael tir yn agos at dir sydd wedi ei drefnu ganddynt at ddefnydd y Corff yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf honno pan fo'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y tir y bwriedir ei gaffael yn ofynnol yn rhesymol er mwyn darparu'r cyfleusterau a grybwyllwyd yn erthygl 5H.

5J  Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfau o dan adran 46 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 yn cynnwys pŵer i wneud is-ddeddfau—

(a)i reoleiddio defnyddio rhesymol ar gyfleusterau a ddarperir o dan erthygl 5H, a

(b)o ran unrhyw fater a ddisgrifir yn adran 41(3) o Ddeddf Cefn Gwlad 1968(8).

5.  Hepgorer erthyglau 6 a 7.

6.—(1Mae erthygl 8 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (3), yn lle “Mae'r dyletswyddau ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys oni bai, neu i'r graddau, ei bod yn afresymol” rhodder “Nid yw'r dyletswyddau ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys os yw'n afresymol, neu i'r graddau y mae'n afresymol”.

(3Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) At ddibenion yr erthygl hon, mae costau yn cynnwys costau—

(a)i unrhyw berson; a

(b)i'r amgylchedd.

7.  Ar ôl erthygl 8 mewnosoder—

Cydweithredu ag Asiantaeth yr Amgylchedd

8A  Rhaid i'r Corff gydweithredu ag Asiantaeth yr Amgylchedd, a chydlynu ei weithgareddau yntau â gweithgareddau Asiantaeth yr Amgylchedd, fel y bo'n briodol o dan yr amgylchiadau.

8.—(1Mae erthygl 9(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (c), ar ôl “ffurfio” mewnosoder “neu gymryd rhan wrth ffurfio”.

(3Ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(da)gweithredu, neu benodi person i weithredu, fel swyddog i gorff corfforaethol neu fel ymddiriedolwr i ymddiriedolaeth elusennol;.

(4Yn is-baragraff (e), ar ôl “rhoddion” mewnosoder “neu gyfraniadau”.

9.  Ar ôl erthygl 9 mewnosoder—

Pŵer i ymrwymo i gytundebau ag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus

9A.(1) Heb ragfarnu cyffredinolrwydd y pwerau a roddir gan erthygl 9, mae'r Corff i'w drin fel awdurdod lleol ac fel corff cyhoeddus at ddibenion darpariaethau Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970(9), ac eithrio adran 2(2).

(2) Ond ni chaiff y Corff, o dan adran 1 o'r Ddeddf honno, wneud trefniadau a allai gael eu gwneud o dan adran 28(1) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011(10).

10.—(1Mae erthygl 10 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Daw'r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1).

(3Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(2) Caiff y Corff gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch datblygu a gweithredu polisïau ar gyfer unrhyw fater neu mewn perthynas ag unrhyw fater y mae'r Corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ef, p'un a ofynnwyd iddo wneud hynny neu beidio.

11.  Ar ôl erthygl 10 mewnosoder—

Cyngor a chymorth i eraill

10A.(1) Caiff y Corff roi cyngor neu gymorth, gan gynnwys cyfleusterau hyfforddi, i unrhyw berson ar unrhyw fater y mae gan y Corff wybodaeth, sgiliau neu brofiad ynddo.

(2) Rhaid i'r pŵer a roddir gan baragraff (1) beidio â chael ei arfer pan fo'r person y rhoddir y cyngor neu'r cymorth iddo y tu allan i Gymru, ac eithrio—

(a)yn unol â phŵer neu ddyletswydd a roddir neu a osodir gan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall;

(b)â chydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru; neu

(c)yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru osod amodau wrth roi cydsyniad neu wrth gymeradwyo trefniadau o dan baragraff (2).

Cymorth ariannol

10B.(1) Caiff y Corff roi cymorth ariannol i unrhyw berson mewn perthynas ag unrhyw wariant a ysgwyddwyd neu a ysgwyddir gan y person hwnnw wrth wneud unrhyw beth y mae'r Corff o'r farn ei fod yn gydnaws â chyrraedd unrhyw amcan y mae'r Corff yn ceisio ei gyrraedd wrth arfer ei swyddogaethau.

(2) Caiff y Corff roi cymorth ariannol o dan yr erthygl hon ar ffurf grant neu fenthyciad (neu yn rhannol yn y naill ffordd ac yn rhannol yn y llall).

(3) Caiff y Corff osod amodau ar gymorth ariannol o dan yr erthygl hon, a all gynnwys (heb gyfyngiad) amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyfan neu ran o unrhyw grant gael ei ad-dalu neu ei had-dalu o dan amgylchiadau penodedig.

(4) Rhaid i'r Corff arfer y pŵer ym mharagraff (3) mewn modd sy'n sicrhau bod unrhyw berson sy'n cael cymorth ariannol mewn perthynas â mangre y mae'r cyhoedd i'w dderbyn iddi (am dâl neu fel arall) yn gwneud darpariaeth briodol at anghenion aelodau o'r cyhoedd sydd ag anableddau.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr “darpariaeth briodol” (“appropriate provision”) yw unrhyw ddarpariaeth ar gyfer—

(a)mynedfeydd i'r fangre neu ynddi; a

(b)y cyfleusterau parcio a'r cyfleusterau glanweithiol sydd i fod ar gael (os oes rhai i fod ar gael),

sy'n ymarferol ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(6) Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru (sef cydsyniad a all fod yn benodol neu'n gyffredinol) neu yn unol â threfniadau a gymeradwyir ganddynt y caiff y Corff roi cymorth ariannol o dan yr erthygl hon.

Ymchwil

10C.(1) Rhaid i'r Corff wneud trefniadau i gyflawni gweithgareddau ymchwil mewn perthynas â materion sy'n berthnasol i unrhyw rai o'i swyddogaethau.

(2) Caiff y Corff—

(a)cyflawni gweithgareddau ymchwil ei hun neu ar y cyd â phersonau eraill;

(b)comisiynu neu gefnogi gweithgareddau ymchwil (boed drwy gyfrwng arian neu fel arall).

(3) Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr erthygl hon mewn perthynas ag ymchwil ar gadwraeth natur, rhaid i'r Corff roi sylw i unrhyw safonau cyffredin a sefydlwyd o dan adran 34(2)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006(11).

(4) Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “gweithgareddau ymchwil” (“research activities”) yw gweithgareddau ymchwil a gweithgareddau perthynol;

(b)mae “gweithgareddau cysylltiedig” (“related activities”) yn cynnwys, heb gyfyngiad, gwneud arbrofion ac ymholiadau a chasglu ystadegau a gwybodaeth.

Darpariaeth bellach ynghylch cyngor, cymorth ac ymchwil

10D  Mae'r swyddogaethau a roddir gan erthyglau 10 i 10C yn arferadwy o ran Cymru a pharth Cymru.

Achosion troseddol

10E.(1) Caiff y Corff ddwyn achosion troseddol yng Nghymru a Lloegr.

(2) Caiff y Corff awdurdodi personau i erlyn ar ei ran mewn achosion gerbron llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr.

(3) Mae gan berson a awdurdodwyd felly hawl i erlyn mewn achosion o'r fath er nad yw'r person hwnnw'n fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr.

12.  Yn erthygl 11, yn lle paragraffau (2) i (4) rhodder—

(2) Caniateir i'r pŵer ym mharagraff (1) gael ei arfer hefyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn cyfarwyddo'r Corff o ran arfer ei swyddogaethau trosglwyddedig perthnasol—

(a)os byddai'r cyfarwyddyd yn cael unrhyw effaith yn Lloegr; neu

(b)os yw'r cyfarwyddyd yn ymwneud â rheoli adnoddau dŵr, cyflenwi dŵr, afonydd neu gyrsiau dŵr eraill, rheoli llygredd mewn adnoddau dŵr, carthffosiaeth neu ddraenio tir, ac y byddai iddo unrhyw effaith yn nalgylchoedd afonydd Dyfrdwy, Gwy a Hafren.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i'r Corff i weithredu unrhyw rwymedigaeth UE neu rwymedigaeth ryngwladol sydd gan y Deyrnas Unedig.

(4) Ac eithrio mewn argyfwng, dim ond ar ôl ymgynghori â'r Corff y caniateir arfer y pŵer i roi cyfarwyddyd o dan yr erthygl hon.

(5) Dim ond ar ôl ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy'n dod o fewn paragraff (2).

(6) Dim ond ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddyd o dan yr erthygl hon.

(7) Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol i roi cyfarwyddiadau i'r Corff o dan unrhyw ddeddfiad arall heb ragfarn i'w pwerau i roi cyfarwyddiadau o dan yr erthygl hon.

(8) Yn yr erthygl hon, ystyr “swyddogaethau trosglwyddedig perthnasol” (“relevant transferred functions”) yw unrhyw swyddogaethau—

(a)a oedd yn arferadwy gan Asiantaeth yr Amgylchedd cyn 1 Ebrill 2013; a

(b)sy'n swyddogaethau i'r Corff yn rhinwedd Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013,

ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (9).

(9) At ddibenion y diffiniad o “swyddogaethau trosglwyddedig perthnasol” (“relevant transferred functions”)—

(a)yr oedd swyddogaeth i Asiantaeth yr Amgylchedd yn arferadwy cyn 1 Ebrill 2013 p'un a oedd y deddfiad sy'n ei rhoi wedi dod i rym cyn y dyddiad hwnnw neu beidio; ond

(b)dim ond pan fydd y deddfiad sy'n rhoi'r swyddogaeth wedi dod i rym y bydd swyddogaeth yn swyddogaeth drosglwyddedig berthnasol.

13.  Ar ôl erthygl 11 mewnosoder—

Darpariaethau pellach ynghylch cyfarwyddiadau

11A.(1) Rhaid i gyfarwyddyd o dan erthygl 11 fod yn ysgrifenedig.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd) gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a roddir i'r Corff—

(a)o dan erthygl 11;

(b)o dan unrhyw ddeddfiad arall er mwyn gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE neu rwymedigaeth ryngwladol sydd gan y Deyrnas Unedig,

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r cyfarwyddyd, a rhaid iddynt drefnu bod copïau ar gael os gwneir cais amdanynt.

(3) Mae'r pŵer i roi cyfarwyddiadau o dan erthygl 11 yn cynnwys pŵer i amrywio'r cyfarwyddiadau neu eu dirymu.

(4) Os bydd Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn amrywio neu'n dirymu unrhyw gyfarwyddyd a roddir i'r Corff er mwyn gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE sydd gan y Deyrnas Unedig (boed o dan erthygl 11 ynteu o dan unrhyw ddeddfiad arall), rhaid iddynt—

(a)cyhoeddi'r amrywiad neu'r dirymiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(b)trefnu bod copïau o'r amrywiad neu'r dirymiad ar gael os gwneir cais amdanynt.

(5) Rhaid i'r Corff ac unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau'r Corff gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir i'r Corff o dan erthygl 11 neu unrhyw ddeddfiad arall.

(6) Wrth benderfynu—

(a)ar unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad gan y Corff, neu atgyfeiriad neu adolygiad ar benderfyniad gan y Corff, neu

(b)ar unrhyw gais a drosglwyddir o'r Corff,

mae'r person sy'n gwneud y penderfyniad wedi ei rwymo gan unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11 neu unrhyw ddeddfiad arall i'r un graddau â'r Corff.

14.  Ar ddiwedd erthygl 12 mewnosoder—

(3) Mae'r amodau y caniateir eu gosod yn cynnwys, heb gyfyngiad, amodau o ran defnyddio'r arian at ddibenion y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.

15.  Ar ôl erthygl 12 mewnosoder—

Pŵer i godi tâl

12A.(1) Caiff y Corff—

(a)codi tâl am y gwaith y mae'n ei wneud ac am nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau y mae'n eu darparu;

(b)caniatáu i berson arall godi taliadau, ar unrhyw delerau sy'n addas ym marn y Corff, am gyfleusterau y mae'r person hwnnw yn eu darparu o dan drefniadau a wnaed o dan erthygl 5H.

(2) Caiff unrhyw drefniant rhwng y Corff a pherson arall a wneir yn unol â pharagraff (1), â chydsyniad Gweinidogion Cymru, gynnwys darpariaeth ynglŷn â rhannu elw.

(3) Mae'r pwerau a roddir gan yr erthygl hon yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad penodol ar godi tâl gan y Corff mewn achosion penodol neu gategorïau o achos a gynhwysir yn y deddfiad hwn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

16.  Ar ddiwedd erthygl 13 mewnosoder—

(8) Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i adran 118 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(12).

17.  Ar ôl erthygl 13 mewnosoder—

Incwm o goedwigaeth

13A.(1) Rhaid i'r Corff wario pob swm y mae'n ei gael am werthu neu am waredu mewn modd arall goed neu gynhyrchion coedwigaeth eraill ar arfer ei swyddogaethau sy'n ymwneud â choedwigaeth, fforestydd, coedwigoedd a diwydiannau coetir.

(2) Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad neu gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.

18.  Ar ôl erthygl 15 mewnosoder—

RHAN 4 —GWYBODAETH AM BENDERFYNIADAU YNGHYLCH HAWLENNI

Dehongli

16.  Yn y Rhan hon—

ystyr “hawlen” (“permit”) yw unrhyw gofrestriad, esemptiad, cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded, cydsyniad, cydnabyddiaeth neu awdurdodiad arall, sut bynnag y'i disgrifir;

ystyr “penderfyniad ynghylch hawlenni” (“permitting decision”) yw unrhyw benderfyniad—

(a)

i roi neu i wrthod cais am hawlen;

(b)

i atal, amrywio neu ddirymu hawlen.

Cynlluniau cyhoeddi gwybodaeth

17.(1) Rhaid i'r Corff—

(a)datblygu, mabwysiadu a chynnal cynllun (y cyfeirir ato yn yr erthygl hon fel “cynllun cyhoeddi”) ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth am y canlynol—

(i)ceisiadau am hawlenni a wneir i'r Corff; a

(ii)penderfyniadau ynghylch hawlenni a wneir gan y Corff;

(b)cyhoeddi gwybodaeth yn unol â'i gynllun cyhoeddi;

(c)adolygu ei gynllun cyhoeddi o dro i dro.

(2) Rhaid i gynllun cyhoeddi—

(a)pennu dosbarthiadau o wybodaeth y mae'r Corff yn eu cyhoeddi neu'n bwriadu eu cyhoeddi, y mae'n rhaid iddynt gynnwys gwybodaeth am bob cais am hawlen a wneir gan y Corff mewn achosion lle mae'r Corff yn gyfrifol am benderfynu ar y cais;

(b)pennu ym mha fodd y cyhoeddir, neu y bwriedir cyhoeddi, yr wybodaeth ym mhob dosbarth, ac o fewn pa gyfnod amser;

(c)pennu a yw'r deunyddiau ar gael, neu a fwriedir iddynt fod ar gael, i'r cyhoedd yn ddi-dâl.

(3) Wrth ddatblygu, mabwysiadu neu adolygu cynllun cyhoeddi, rhaid i'r Corff—

(a)ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n ystyried eu bod yn briodol;

(b)rhoi sylw i'r buddiant cyhoeddus yn y canlynol—

(i)caniatáu i'r cyhoedd fynediad at wybodaeth sydd gan y Corff; a

(ii)cyhoeddi gwybodaeth am geisiadau am hawlenni a wnaed i'r Corff a phenderfyniadau ynghylch hawlenni a wnaed gan y Corff.

(4) Rhaid i gynllun cyhoeddi gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(5) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod cymeradwyo cynllun cyhoeddi arfaethedig rhaid iddynt roi datganiad o'u rhesymau dros wrthod gwneud hynny i'r Corff.

(6) Rhaid i'r Corff gyhoeddi ei gynllun cyhoeddi ar ei wefan a threfnu bod copïau o'r cynllun ar gael os gwneir cais amdanynt.

(7) Mae'r erthygl hon heb ragfarn i unrhyw bŵer neu ddyletswydd arall sydd gan y Corff i gyhoeddi gwybodaeth neu i'w datgelu.

Hysbysiadau i Weinidogion Cymru ynghylch hunan-ganiatáu hawlenni

18.(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw gais am hawlen y mae'r cyfan o'r amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef—

(a)y Corff yw'r ymgeisydd;

(b)y Corff sy'n gyfrifol am benderfynu ar y cais;

(c)y caniateir i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd i'r cais gael ei gyfeirio atynt hwy i gael ei benderfynu.

(2) Rhaid i'r Corff hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais ar yr adeg pan fydd yn gwneud y cais.

19.—(1Mae'r Atodlen wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Cyn paragraff 1 mewnosoder—

Dehongli

A1.  Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at gyflogeion i'r Corff yn cynnwys personau a secondiwyd i'r Corff.

(3Ym mharagraff 1(2), yn lle “Nid” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff 1A, nid”.

(4Ar ôl paragraff 1 mewnosoder—

Statws o ran gwarchodfeydd natur

1A.(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i dir y mae gan y Corff fuddiant ynddo ac sy'n cael ei reoli fel gwarchodfa natur.

(2) At ddibenion cymhwyso unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol at y tir, mae'r Corff i'w drin fel adran o'r llywodraeth.

(3) Mae buddiant mewn tir yn cynnwys unrhyw ystâd mewn tir ac unrhyw hawl dros dir, p'un a yw'r hawl yn arferadwy yn rhinwedd y berchnogaeth ar fuddiant yn y tir ynteu yn rhinwedd trwydded neu gytundeb.

(5Ym mharagraff 2(1)(d), hepgorer “llai na 2 na dim”.

(6Hepgorer paragraffau 3 a 4.

(7Ym mharagraff 5, yn lle “baragraff 4(3) (pan fo'n gymwys) a pharagraffau” rhodder “baragraffau”.

(1)

2006 p. 32. Mewnosodwyd y diffiniad o'r “Welsh zone” gan adran 43(2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p. 23). Gweler hefyd Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760).

(2)

1995 p. 25. Diwygiwyd y diffiniad o “pollution control functions” yn adran 5(5) gan Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p. 24), Atodlen 2, paragraffau 14 a 15; a chan Reoliadau Hawlenni Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/675), Atodlen 26, paragraff 13(1) a (2). Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau pellach i adran 5.

(3)

1967 p. 10. Mewnosodwyd adran 1(3A) gan adran 4 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Diwygio) 1985 (p. 31).

(4)

1968 p. 41. Cafwyd nifer o ddiwygiadau i adran 2, gan gynnwys y rhai a wnaed gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16), Atodlen 11, paragraff 43. Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau pellach i adran 2.

(5)

1991 p. 56. Cafwyd diwygiadau i adran 2, gan gynnwys yn benodol y rhai a wnaed gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37), adran 39.

(6)

1995 p. 25. Mae diwygiadau i adran 6 sy'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn wedi eu gwneud gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37), adran 72; Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dŵr (Cymru a Lloegr) 2009 (O.S. 2009/463), Atodlen 2, paragraff 9(b); Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p. 23), adran 230; a Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29), Atodlen 2, paragraffau 51 a 52. Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau pellach i adran 6.

(7)

1967 p. 10. Gwnaed diwygiadau i adran 39 sy'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn gan Orchymyn Deddf yr Alban (Awdurdodau Cyhoeddus Trawsffiniol) (Addasu Swyddogaethau etc.) 1999 (O.S. 1999/1747), Atodlen 12, paragraff 4(1) a (28) i (31).

(8)

1968 p. 41. Cafwyd diwygiadau i ddarpariaethau eraill yn adran 41.

(9)

1970 p. 39. Cafwyd diwygiadau i'r Ddeddf nad ydynt yn berthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn.

(12)

1991 p. 57. Diwygiwyd adran 118 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), Atodlen 22, paragraffau 128 a 150; a Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29), Atodlen 2, paragraffau 40 a 43. Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau pellach i adran 118.

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?