2014 Rhif 1102 (Cy. 110)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 6(4), 16(1)(e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901.

Yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mai 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 20002

Yn rheoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 20002, ym mharagraff (3), is-baragraff (a), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

Diwygio Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 20073

Mae Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 20073 wedi eu diwygio fel a ganlyn:

a

yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff 1 cyn y diffiniad o “awdurdod bwyd” mewnosoder—

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

b

yn rheoliad 3 (cyfyngiad ar werthu), paragraff 2, is-baragraff (a), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

Diwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 20074

Yn rheoliad 3 (awdurdodau cymwys) o Reoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 20074, yn is-baragraff (a), yn lle “yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “yw Gweinidogion Cymru”.

Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 20075

Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 20075 wedi eu diwygio fel a ganlyn:

a

yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o “yr Asiantaeth”; a

b

yn rheoliad 13 (hysbysiad o fformiwla fabanod) yn lle “i’r Asiantaeth drwy anfon ati” rhodder “i Weinidogion Cymru drwy anfon atynt”.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125)), Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1040 (Cy.100)), Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2611 (Cy.222)), a Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 (Cy.316)), drwy drosglwyddo swyddogaethau maethiad o dan bob set o reoliadau o’r Asiantaeth Safonau Bwyd i Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.