2014 Rhif 123 (Cy. 13)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 ac adrannau 16(1)(e), 17(1) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 199023.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd4.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd5.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd6, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 20072

1

Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 20077 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” rhodder y diffiniad a ganlyn—

  • ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC8 fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2013/46/EU;

3

Yn rheoliad 8(2) (meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla fabanod), ar ôl y geiriau “proteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu’r proteinau llaeth geifr”.

4

Yn lle rheoliad 9 (meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla ddilynol) rhodder y rheoliad a ganlyn—

Meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla ddilynol9

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i fformiwla ddilynol gydymffurfio â’r meini prawf cyfansoddiadol a osodir yn Atodiad II gan gymryd ystyriaeth o’r manylebau yn Atodiad V.

2

Yn achos fformiwla ddilynol sydd wedi’i gweithgynhyrchu o’r hydrolysatau protein hynny a bennir ym mhwynt 2.2 o Atodiad II â’u cynnwys protein rhwng y lleiafswm a 0.56g/100kJ (2.25g/100kcal)—

a

rhaid i addasrwydd y fformiwla ddilynol i fodloni gofynion maethol babanod normal iach ar y cyd â bwydo ategol gael ei ddangos drwy astudiaethau priodol a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol sy’n dderbyniol yn gyffredinol ar lunio a chynnal astudiaethau o’r fath; a

b

rhaid i’r fformiwla ddilynol fod yn unol â’r manylebau priodol a osodir yn Atodiad VI.

5

Yn rheoliad 15 (enwi fformiwla fabanod) yn y ddau baragraff, ar ôl “broteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu broteinau llaeth geifr”.

6

Yn rheoliad 16 (enwi fformiwla ddilynol) yn y ddau baragraff, ar ôl “broteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu broteinau llaeth geifr”.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 (Cy.316)) er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2013/46/EU yng Nghymru.

Mae rheoliad 2(3), (5) a (6) yn ei gwneud yn bosibl defnyddio proteinau llaeth geifr wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol.

Mae rheoliad 2(4) yn gostwng lleiafswm y lefelau protein a ganiateir mewn fformiwla ddilynol sydd wedi ei gweithgynhyrchu o hydrolysatau protein i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â fformiwla fabanod.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.