Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 27 Mehefin 2014.
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r rhannau o Gymru a ganlyn—
y rhan honno o Draffordd yr M4 yng Nghymru sy’n cynnwys “the new toll plaza area” a “the new bridge”, fel y’u diffinnir yn adran 39(1) o Ddeddf Pontydd Hafren 1992
y rhan honno o’r ffordd a adeiladwyd gan y Gweinidog Trafnidiaeth ar hyd y llinell a ddisgrifir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cefnffordd Man i’r Gogledd o Almondsbury-Man i’r De o Haysgate 1947 Rh. a G. S. 1947/1562.