Offerynnau Statudol Cymru
2014 No. 1388 (Cy. 141)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Mehefin 2014
Yn dod i rym
27 Mehefin 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 99(1) a (2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(), ac ar ôl ymgynghori â chyrff cynrychioliadol yn unol ag adran 134(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 27 Mehefin 2014.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r rhannau o Gymru a ganlyn—
(a)y rhan honno o Draffordd yr M4 yng Nghymru sy’n cynnwys “the new toll plaza area” a “the new bridge”, fel y’u diffinnir yn adran 39(1) o Ddeddf Pontydd Hafren 1992(); neu
(b)y rhan honno o’r ffordd a adeiladwyd gan y Gweinidog Trafnidiaeth ar hyd y llinell a ddisgrifir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cefnffordd Man i’r Gogledd o Almondsbury-Man i’r De o Haysgate 1947() ac y cyfeirir ati yn y Gorchymyn hwnnw fel “the new road” sy’n gorwedd i’r dwyrain o’r pwynt mwyaf dwyreiniol cyn cyrraedd Afon Gwy lle gall traffig o Ddosbarth I a II (fel a bennir yn Atodlen 4 i Ddeddf Priffyrdd 1980()) sy’n teithio tua’r dwyrain adael y ffordd honno ar hyd ffordd arbennig arall.
Diwygio Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986
2.—(1) Mae Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986() wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 5C—
(a)ym mharagraff (1)(b) yn lle “Regulation 5 of the Civil Enforcement of Parking Contraventions (Penalty Charge Notices, Enforcement and Adjudication) (Wales) Regulations 2008” rhodder “regulation 9 of the Civil Enforcement of Road Traffic Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2013()”.
(b)ym mharagraff (4)—
(i)yn y diffiniad o “outstanding” yn lle “Civil Enforcement of Parking Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2008” rhodder “Civil Enforcement of Road Traffic Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2013”;
(ii)yn y diffiniad o “penalty charge”, yn lle “regulation 3 of the Civil Enforcement of Parking Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2008” rhodder “regulation 4 of the Civil Enforcement of Road Traffic Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2013”; ac
(iii)yn y diffiniad o “penalty charge notice”, yn lle “regulation 4 of the Civil Enforcement of Parking Contraventions (Penalty Charge Notices, Enforcement and Adjudication) (Wales) Regulations 2008” rhodder “regulation 8 of the Civil Enforcement of Road Traffic Contraventions (General Provisions) (Wales) Regulations 2013”.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
un o Weinidogion Cymru
30 Mai 2014
NODYN ESBONIADOL
Mae Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986 (“Rheoliadau 1986”) yn darparu ar gyfer symud ymaith a gwaredu cerbydau o dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978 (“Deddf 1978”) ac adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (“Deddf 1984”).
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 99 a 101 o Ddeddf 1984 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5C o Reoliadau 1986 o ran Cymru (ac eithrio’r rhannau hynny o Groesfannau’r Hafren sydd yng Nghymru) drwy ddisodli cyfeiriadau anarferedig at offerynnau statudol sydd wedi eu dirymu gan Reoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.