Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1858 (Cy. 192)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed

14 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Gorffennaf

Yn dod i rym

8 Awst 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) ac Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(2).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Awst 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(4) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Mae rheoliad 32A (marc iechyd arbennig) wedi ei ddirymu.

(3Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth EU), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), rhodder—

ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig fel y’i diwygiwyd ddiwethaf mewn cysylltiad â’i erthyglau gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 216/2014(5).

(4Ym mharagraff 2(2) o Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr), yn lle “Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014”(6).

(5Mae Atodlen 6A (y marc iechyd arbennig) wedi ei dirymu.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeihasol, un o Weinidogion Cymru

14 Gorffennaf 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 216/2014 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2075/2005 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig. Maent hefyd yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 218/2014 sy’n diwygio Atodiadau i Reoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005, sy’n dileu’r gofyniad am farc iechyd arbennig a’r cyfyngiad i’r farchnad genedlaethol ar gyfer cig anifeiliaid sydd wedi eu lladd mewn argyfwng. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 sy’n caniatáu rhanddirymiad o ddarpariaethau penodol yn Atodiad II i Reoliadau (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cludo olewau a brasterau hylifol dros y môr.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 218/2014 drwy ddiwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 er mwyn dirymu rheoliad 32A (marc iechyd arbennig) ac Atodlen 6A (y marc iechyd arbennig) (rheoliad 2(2) a (5)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 216/2014 drwy ddiwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 fel bod y diffiniad o Reoliad 2075/2005 yn Atodlen 1 yn cynnwys y diwygiadau a wnaed i’w erthyglau gan Reoliad 216/2014 (rheoliad 2(3)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014 drwy ddiwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 fel bod y cyfeiriad at yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC (rhestr o gargoau blaenorol derbyniol) ym mharagraff 2(2) o Atodlen 3 yn cael ei amnewid gan yr Atodiad i Reoliad EU 579/2014 (rheoliad 2(4)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) (“Deddf 2006”) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) (“Deddf 2008”). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf 2006 ac mae wedi ei ddiwygio gan adran 3(3) o Ddeddf 2008 a’r Atodlen iddi a chan erthygl 3 o baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388).

(2)

O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy’r dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: Addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t.14).

(5)

Mae’r prif offeryn wedi ei gyhoeddi yn OJ L 338, 22.12.2005, t.60 a’r offeryn diwygio yn OJ L 69, 08.03.2014, t.85.

(6)

OJ L 160, 29.05.2014, t.14-20.