Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r OS sy'n dwyn yr un rhif ac fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn feryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
Priffyrdd, Cymru
Gwnaed
24 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer yn adran 14(1) o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
2. Mae adrannau 3 i 11 o’r Ddeddf i ddod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
24 Medi 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym holl ddarpariaethau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ac eithrio’r rheini a gychwynnwyd pan gafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.