- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
8 Hydref 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Hydref 2014
Yn dod i rym
6 Tachwedd 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt(2), polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(3) a mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd(4).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014, deuant i rym ar 6 Tachwedd 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(6) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a)yn lle’r diffiniad sy’n dechrau gyda’r geiriau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”)” rhodder y diffiniad a ganlyn—
“mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”), “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) a “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”) yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;”; a
(b)yn lle’r diffiniad o “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”)(7) rhodder—
“ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, Erthygl 14 o Reoliad 882/2004 i’r graddau y mae’n gymwys i reolaethau swyddogol i wirio cydymffurfedd ag agweddau ar gyfraith bwyd anifeiliaid neu gyfraith bwyd nad ydynt wedi eu cwmpasu gan Gyfarwyddeb 97/78/EC(8), Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004, Rheoliad 669/2009, Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013(9) a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 704/2014 sy’n diwygio Rheoliad 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforio egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin(10).”
(3) Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) ar ôl y paragraff olaf, mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin.”
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 704/2014 sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforio egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin.
Mae rheoliad 2 yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 704/2014 yn gyfan drwy ddiwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376 (Cy. 298)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) (“Deddf 2006”) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) (“Deddf 2008”). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf 2006 ac mae wedi ei ddiwygio gan adran 3(3) o Ddeddf 2008 a’r Atodlen iddi a chan erthygl 3 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddo.
O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2005/2766. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: Addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t. 14).
O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/626 (Cy. 90), O.S. 2013/479 (Cy. 55) ac O.S. 2013/3007 (Cy. 298).
Mewnosodwyd y diffiniad o “y Darpariaethau Mewnforio” gan O.S. 2013/3007 (Cy. 298).
Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy’n gosod yr egwyddorion sy’n llywodraethu trefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy’n dod i’r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ L 24, 30.1.1998, t .9).
OJ Rhif L 68, 12.3.2013, t. 26, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 704/2014.
OJ Rhif L 186, 26.6.2014, t. 49.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: