2014 Rhif 3079 (Cy. 304)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd2 ac mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin3, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)4, 17(2)5, 26(1)(a) a (3)6 a 48(1)7 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19908, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19729.

I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno10.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at y Rheoliadau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—

a

Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin11;

b

Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin12; ac

c

Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu, sy’n diwygio Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1184/2006 ac (EC) Rhif 1224/2009 ac sy’n diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/200013.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd14, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2014.

Diwygio Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 20132

1

Mae Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 201315 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

2

Yn lle rheoliad 2(1), rhodder—

2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 1224/2009, Rheoliad 404/2011 a Rheoliad 1379/2013;

  • ystyr “Rheoliad 1224/2009” (“Regulation 1224/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;

  • ystyr “Rheoliad 404/2011” (“Regulation 404/2011”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;

  • ystyr “Rheoliad 1379/2013” (“Regulation 1379/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu.

3

Yn rheoliad 4 (gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a gallu i olrhain)—

a

ym mharagraff (1)(a), yn lle “(4) i” rhodder “(6) a”;

b

ym mharagraff (2), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

a

gofyniad a bennir yn Erthygl 35 o Reoliad 1379/2013 (darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 38 o’r Rheoliad hwnnw, a gofyniad fel a bennir yn Erthygl 39(3) neu (4) o Reoliad 1379/2013 fel y’i darllenir ar y cyd â pharagraff (1) o’r Erthygl honno;

c

ym mharagraff (3), yn lle “ac Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011” rhodder “, Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011 ac Erthyglau 35(1)(c) a 38 o Reoliad 1379/2013”;

d

hepgorer paragraffau (4) a (5);

e

yn lle paragraff (6) rhodder—

6

Nid yw’r gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 35(4) o Reoliad 1379/2013, fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 58(8) o Reoliad 1224/2009.

Cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 20133

Mae’r cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 yn rheoliadau 5(3), 6(2) a 7(2) o’r Rheoliadau hynny, a pharagraffau 1 a 2(b) o’r Atodlen iddynt, i’w dehongli fel cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) er mwyn gorfodi gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr Pennod IV o Reoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 1) fel y’i darllenir ar y cyd â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t 1).

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2013 i ddileu’r cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 a’r diffiniadau ohonynt. Mae Rheoliadau (EC) Rhif 104/2000 ac (EC) Rhif 2065/2001 wedi eu diddymu gan Reoliad (EU) Rhif 1379/2013 (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 1) a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1420/2013 (OJ Rhif L 353, 28.12.2013, t 48).

Mae rheoliad 2 hefyd yn darparu bod “gofyniad gwybodaeth i ddefnyddwyr” at ddiben Rhan 2 o Reoliadau 2013 yn ofyniad a bennir yn Erthygl 35 o Reoliad (EU) Rhif 1379/2013 (gwybodaeth fandadol i’w darparu i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 38 (mynegiad o gylch y ddalfa neu’r ardal gynhyrchu) ac Erthygl 39 (darparu gwybodaeth wirfoddol) o’r Rheoliad hwnnw.

Mae’r wybodaeth sydd i’w darparu yn galluogi defnyddwyr i ddeall pa rywogaethau o bysgod y maent yn eu prynu, pa un a oedd y pysgod wedi eu dal neu eu ffermio, ac ymhle y cafodd y pysgod eu dal neu eu ffermio. Mae’r wybodaeth hefyd yn dangos os yw’r pysgod neu gynnyrch pysgod wedi eu dadmer a pharhauster lleiaf y cynnyrch. Yn ogystal, mae’n sicrhau bod unrhyw wybodaeth a ddarperir yn wirfoddol yn glir ac yn ddiamwys ac y gellir ei dilysu.

Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio’r diffiniad o “gofyniad gallu i olrhain” at ddiben Rhan 2 o Reoliadau 2013 i roi sylw i’r gofyniad yn Erthygl 58(5) o Reoliad (EC) Rhif 1224/2009, fel y’i diwygiwyd gan Erthygl 45(2) o Reoliad (EU) Rhif 1379/2013, i roi’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan Erthygl 35 o’r Rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 3 yn sicrhau bod y cyfeiriadau at Reoliadau 2013 yn yr addasiadau a wnaed gan y Rheoliadau hynny i ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (fel y maent yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hynny) yn gyfeiriadau at Reoliadau 2013 fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth yn http://www.food.gov.uk/wales/about-fsa-wales/cymru.