Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
19 Tachwedd 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Tachwedd 2014
Yn dod i rym
13 Rhagfyr 2014
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd(2) ac mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin(3), ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(4), 17(2)(5), 26(1)(a) a (3)(6) a 48(1)(7) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(8), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(9).
I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno(10).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at y Rheoliadau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—
(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin(11);
(b)Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin(12); ac
(c)Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu, sy’n diwygio Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1184/2006 ac (EC) Rhif 1224/2009 ac sy’n diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000(13).
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(14), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2014.
2.—(1) Mae Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013(15) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle rheoliad 2(1), rhodder—
“2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 1224/2009, Rheoliad 404/2011 a Rheoliad 1379/2013;
ystyr “Rheoliad 1224/2009” (“Regulation 1224/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;
ystyr “Rheoliad 404/2011” (“Regulation 404/2011”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 404/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin;
ystyr “Rheoliad 1379/2013” (“Regulation 1379/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu.”
(3) Yn rheoliad 4 (gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr a gallu i olrhain)—
(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “(4) i” rhodder “(6) a”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a)gofyniad a bennir yn Erthygl 35 o Reoliad 1379/2013 (darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 38 o’r Rheoliad hwnnw, a gofyniad fel a bennir yn Erthygl 39(3) neu (4) o Reoliad 1379/2013 fel y’i darllenir ar y cyd â pharagraff (1) o’r Erthygl honno;”;
(c)ym mharagraff (3), yn lle “ac Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011” rhodder “, Erthygl 67(1) i (3) a (5) i (13) o Reoliad 404/2011 ac Erthyglau 35(1)(c) a 38 o Reoliad 1379/2013”;
(d)hepgorer paragraffau (4) a (5);
(e)yn lle paragraff (6) rhodder—
“(6) Nid yw’r gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(a) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 35(4) o Reoliad 1379/2013, fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 58(8) o Reoliad 1224/2009.”
3. Mae’r cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 yn rheoliadau 5(3), 6(2) a 7(2) o’r Rheoliadau hynny, a pharagraffau 1 a 2(b) o’r Atodlen iddynt, i’w dehongli fel cyfeiriadau at Reoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Tachwedd 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) er mwyn gorfodi gofynion gwybodaeth i ddefnyddwyr Pennod IV o Reoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 1) fel y’i darllenir ar y cyd â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t 1).
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2013 i ddileu’r cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 a’r diffiniadau ohonynt. Mae Rheoliadau (EC) Rhif 104/2000 ac (EC) Rhif 2065/2001 wedi eu diddymu gan Reoliad (EU) Rhif 1379/2013 (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 1) a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1420/2013 (OJ Rhif L 353, 28.12.2013, t 48).
Mae rheoliad 2 hefyd yn darparu bod “gofyniad gwybodaeth i ddefnyddwyr” at ddiben Rhan 2 o Reoliadau 2013 yn ofyniad a bennir yn Erthygl 35 o Reoliad (EU) Rhif 1379/2013 (gwybodaeth fandadol i’w darparu i ddefnyddwyr) fel y’i darllenir ar y cyd ag Erthygl 38 (mynegiad o gylch y ddalfa neu’r ardal gynhyrchu) ac Erthygl 39 (darparu gwybodaeth wirfoddol) o’r Rheoliad hwnnw.
Mae’r wybodaeth sydd i’w darparu yn galluogi defnyddwyr i ddeall pa rywogaethau o bysgod y maent yn eu prynu, pa un a oedd y pysgod wedi eu dal neu eu ffermio, ac ymhle y cafodd y pysgod eu dal neu eu ffermio. Mae’r wybodaeth hefyd yn dangos os yw’r pysgod neu gynnyrch pysgod wedi eu dadmer a pharhauster lleiaf y cynnyrch. Yn ogystal, mae’n sicrhau bod unrhyw wybodaeth a ddarperir yn wirfoddol yn glir ac yn ddiamwys ac y gellir ei dilysu.
Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio’r diffiniad o “gofyniad gallu i olrhain” at ddiben Rhan 2 o Reoliadau 2013 i roi sylw i’r gofyniad yn Erthygl 58(5) o Reoliad (EC) Rhif 1224/2009, fel y’i diwygiwyd gan Erthygl 45(2) o Reoliad (EU) Rhif 1379/2013, i roi’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan Erthygl 35 o’r Rheoliad hwnnw.
Mae rheoliad 3 yn sicrhau bod y cyfeiriadau at Reoliadau 2013 yn yr addasiadau a wnaed gan y Rheoliadau hynny i ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (fel y maent yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hynny) yn gyfeiriadau at Reoliadau 2013 fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth yn http://www.food.gov.uk/wales/about-fsa-wales/cymru.
Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.
O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28), a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.
Diwygiwyd adran 17(2) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a pharagraffau 7, 8 a 12 o Atodlen 5 iddi, ac O.S. 2011/1043.
Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan adran 40(4) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 ac Atodlen 6 iddi.
Diwygiwyd adran 48(1) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.
1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir ar y cyd ag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac fe’u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a pharagraffau 7 ac 21 o Atodlen 5 iddi.
OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t 1 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 149, 20.05.2014, t 1.
OJ Rhif L 112, 30.4.2011, t 1.
OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 1, fel y’i diwygiwyd gan OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t 86.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 189, 27.06.2014, t 1.