2014 Rhif 3089 (Cy. 310) (C. 132)

Bwyd, Cymru

Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2014

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau yn adran 27(2) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 20131.

Enwi1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2014.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 28 Tachwedd 20142

Y diwrnod penodedig i adran 2(5)(b) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ddod i rym yw 28 Tachwedd 2014.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym yn llawn adran 2(5)(b) o’r Ddeddf ar 28 Tachwedd 2014 er mwyn estyn y diffiniad o “sefydliad busnes bwyd” i gynnwys sefydliad sy’n cyflenwi bwyd i fusnes arall.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y ddarpariaeth

Y dyddiad cychwyn

Rhif O.S.

Adrannau 3(2), (3)(c) a (d) a (5); 5(4) a (10)(d); 6(2) a (3); 7(3) a (4); 12(2) a (9)(d); a 15(1)

28 Hydref 2013 (at ddibenion gwneud rheoliadau)

2013/2617

(Cy. 256)

(C. 104)

Adrannau 1; 2 (ac eithrio paragraff (b) o is-adran (5)); 3 (at y dibenion sy’n weddill); 4; 5, 6 a 7 (at y dibenion sy’n weddill); 8 i 11; 12 (at y dibenion sy’n weddill); 13 a 14; 15 (at y dibenion sy’n weddill); 16 i 26; 28; a’r Atodlen

28 Tachwedd 2013

2013/2617

(Cy. 256)

(C. 104)