Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
18 Tachwedd 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau yn adran 27(2) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013(1).
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2014.
2. Y diwrnod penodedig i adran 2(5)(b) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ddod i rym yw 28 Tachwedd 2014.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym yn llawn adran 2(5)(b) o’r Ddeddf ar 28 Tachwedd 2014 er mwyn estyn y diffiniad o “sefydliad busnes bwyd” i gynnwys sefydliad sy’n cyflenwi bwyd i fusnes arall.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 3(2), (3)(c) a (d) a (5); 5(4) a (10)(d); 6(2) a (3); 7(3) a (4); 12(2) a (9)(d); a 15(1) | 28 Hydref 2013 (at ddibenion gwneud rheoliadau) | 2013/2617 |
(Cy. 256) | ||
(C. 104) | ||
Adrannau 1; 2 (ac eithrio paragraff (b) o is-adran (5)); 3 (at y dibenion sy’n weddill); 4; 5, 6 a 7 (at y dibenion sy’n weddill); 8 i 11; 12 (at y dibenion sy’n weddill); 13 a 14; 15 (at y dibenion sy’n weddill); 16 i 26; 28; a’r Atodlen | 28 Tachwedd 2013 | 2013/2617 |
(Cy. 256) | ||
(C. 104) |