2014 Rhif 3156 (Cy. 318)

Y Diwydiant Dŵr, Cymru A Lloegr

Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchenogion) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 144C(4) ac 8(b) ac adran 213(2)(f) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 19911 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchenogion) 2014.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan ymgymerwr y mae ei ardal yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2015.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y diwrnod cychwyn” (“the commencement day”) yw’r dyddiad y mae’r ddyletswydd yn gymwys o ganlyniad i erthygl 2 o Orchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 9) 20142;

  • ystyr “y ddyletswydd” (“the duty”) yw’r ddyletswydd a osodir yn rhinwedd adran 144C(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu am feddianwyr nad ydynt yn berchenogion3

1

Mae’r wybodaeth sydd i gael ei rhoi gan y perchennog i’r ymgymerwr am y meddianwyr fel a ganlyn—

a

eu henwau llawn;

b

eu dyddiadau geni (pan fo’r wybodaeth honno wedi ei darparu i’r perchennog);

c

y dyddiad neu’r dyddiadau y dechreuodd y meddianwyr feddiannu’r fangre (os yw’r dyddiad hwnnw ar ôl y dyddiad cychwyn).

2

Nid yw’r wybodaeth sydd i’w rhoi o dan baragraff (1) yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy’n meddiannu’r fangre.

3

At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed.

Hysbysu’r meddiannydd nad yw’n berchennog4

Cyn i berchennog ddarparu gwybodaeth i ymgymerwr, rhaid iddo hysbysu’r meddiannydd y bydd yr wybodaeth honno yn cael ei darparu.

Amseru5

1

Mae perchennog yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd os nad yw’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) yn cael ei rhoi o fewn 21 o ddiwrnodau i—

a

y diwrnod cychwyn;

b

y dyddiad y mae meddiannydd yn dechrau meddiannu’r fangre.

2

Mae methiant perchennog yn dod i ben pan fydd yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) yn cael ei rhoi i’r ymgymerwr (ni waeth a roddir yr wybodaeth gan y perchennog neu gan rywun arall).

Gweithdrefn6

Rhaid i’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) gael ei darparu i ymgymerwr drwy’r post, dros y ffôn, dros e-bost neu drwy’r Porthol Cyfeiriadau Landlordiaid a Thenantiaid yn www.landlordtap.com.

Carl SargeantY Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan ymgymerwr y mae ei ardal yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf.

O dan adran 144C(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (p. 56), mae dyletswydd ar berchennog mangre breswyl nad yw’n byw yn y fangre honno i drefnu i’r ymgymerwr gael gwybodaeth am feddianwyr y fangre. Mae adran 144C(3) o’r Ddeddf honno yn darparu y bydd methiant gan y perchennog i ddarparu’r wybodaeth yn golygu y bydd y perchennog yn atebol gyda’r meddianwyr, ar y cyd ac yn unigol, am ffioedd dŵr a charthffosiaeth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sydd i gael ei rhoi am y meddianwyr ac am yr amseru a’r weithdrefn sy’n gysylltiedig â darparu’r wybodaeth honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.