- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
24 Chwefror 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Chwefror 2014
Yn dod i rym
21 Mawrth 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17, 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Mawrth 2014, ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 13 Rhagfyr 2014.
2.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005(4) wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 608/2004” (“Regulation 608/2004”) rhodder y diffiniad a ganlyn —
“ystyr “Rheoliad 608/2004” (“Regulation 608/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol(5) fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 718/2013 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 608/2004(6), ac fel y’i darllenir gyda’r Rheoliad hwnnw;”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
1. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad i Reoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1224 (Cy.82)) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol (OJ Rhif L97, 1.4.2004, t.44) fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 718/2013, sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 608/2004 (OJ Rhif L201, 26.7.2013, t.49), ac fel y’i darllenir gyda’r Rheoliad hwnnw.
2. Mae Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 718/2013 yn diwygio mewn un ffordd yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei rhoi ar labeli bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol, ac mae’n darparu ar gyfer cyfnod trosiannol ar gyfer cydymffurfio â’r gofyniad hwn.
3. Mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 13 Rhagfyr 2014.
4. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Polisi Bwyd yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.
1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 ac 48 gan baragraffau 12 ac 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.
Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: Addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
OJ Rhif L97, 1.4.2004, t.44.
OJ Rhif L201, 26.7.2013, t.49.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: