2014 Rhif 440 (Cy. 49)
Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17, 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) (Diwygio) 2014.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Mawrth 2014, ac maent yn gymwys o ran Cymru.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 13 Rhagfyr 2014.
Diwygio Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 20052
1
Mae Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 20054 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
2
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 608/2004” (“Regulation 608/2004”) rhodder y diffiniad a ganlyn —
ystyr “Rheoliad 608/2004” (“Regulation 608/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol5 fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 718/2013 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 608/20046, ac fel y’i darllenir gyda’r Rheoliad hwnnw;
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)