Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Nodyn Esboniadol
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 (“Rheoliadau 1990”) a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”).
Mae’r diwygiadau yn gymwys o ran Cymru.
Mae Adran 15 o Ddeddf 1989 yn nodi’r rheolau cydbwysedd gwleidyddol sy’n gymwys i bwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdod lleol. Mae Rheoliad 16A o Reoliadau 1990 yn darparu ar gyfer eithriad i’r ddyletswydd o dan adran 15 i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol neilltuol ar bwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol awdurdod lleol a sefydlwyd yn unig i gyflawni swyddogaethau neu i gynghori mewn perthynas â rhan o ardal yr awdurdod (“pwyllgorau ardal”).
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan Atodlen 1 i Ddeddf 1989 ac maent yn mewnosod ar gyfer Cymru reoliad 16AA newydd i Reoliadau 1990 sy’n nodi’r amodau sydd i’w bodloni yng Nghymru er mwyn i’r eithriad ar gyfer pwyllgorau ardal fod yn gymwys. Mae’r eithriad bellach yn gymwys pan gaiff pwyllgor neu is-bwyllgor ei sefydlu yn unig i gyflawni swyddogaethau neu i gynghori mewn perthynas â rhan o ardal yr awdurdod a phan nad yw arwynebedd y rhan honno yn fwy na hanner cyfanswm arwynebedd yr awdurdod neu phan nad yw poblogaeth y rhan honno yn fwy na hanner cyfanswm poblogaeth yr ardal. Yn ogystal, rhaid i’r rhan honno gynnwys un neu ragor o adrannau etholiadol ac mae hawl gan holl aelodau’r awdurdod sy’n cael eu hethol ar gyfer yr adran etholiadol honno (neu’r adrannau etholiadol hynny) (a’r aelodau hynny yn unig) fod yn aelodau o’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor ardal.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Back to top