2014 Rhif 523 (Cy. 64)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 20041.

Yn unol ag adran 34(5) o’r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny a oedd yn briodol, yn eu barn hwy, cyn gwneud y Gorchymyn.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2014.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

2

Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 20072 (lle y mae Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) wedi ei nodi), wedi cael ei diwygio yn unol ag erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn.

3

Yn lle’r Tabl ym mharagraff 5 o Atodiad A1 rhodder y Tabl canlynol—

Tâl pensiynadwy

Y gyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2014 ymlaen

Hyd at a chan gynnwys £15,000

8.5% o’r tâl pensiynadwy

Mwy na £15,000 a hyd at a chan gynnwys £21,000

9.4% o’r tâl pensiynadwy

Mwy na £21,000 a hyd at a chan gynnwys £30,000

10.4% o’r tâl pensiynadwy

Mwy na £30,000 a hyd at a chan gynnwys £40,000

10.9% o’r tâl pensiynadwy

Mwy na £40,000 a hyd at a chan gynnwys £50,000

11.2% o’r tâl pensiynadwy

Mwy na £50,000 a hyd at a chan gynnwys £60,000

11.3% o’r tâl pensiynadwy

Mwy na £60,000 a hyd at a chan gynnwys £100,000

11.7% o’r tâl pensiynadwy

Mwy na £100,000 a hyd at a chan gynnwys £120,000

12.1% o’r tâl pensiynadwy

Mwy na £120,000

12.5% o’r tâl pensiynadwy.

Lesley GriffithsY Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“y Cynllun”) sydd wedi ei nodi yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072 (Cy.110)), i fod yn effeithiol o 1 Ebrill 2014.

Mae erthygl 3 yn diwygio’r Cynllun er mwyn darparu ar gyfer cyfradd wahanol o gyfraniadau pensiwn sy’n daladwy gan aelodau’r Cynllun sy’n cynyddu yn ôl swm y tâl pensiynadwy y mae’r aelod yn ei dderbyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a’r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8221.