Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 523 (Cy. 64)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru

Pensiynau, Cymru

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014

Gwnaed

4 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Mawrth 2014

Yn dod i rym

1 Ebrill 2014

Yn unol ag adran 34(5) o’r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny a oedd yn briodol, yn eu barn hwy, cyn gwneud y Gorchymyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2014.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

2.  Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(2) (lle y mae Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) wedi ei nodi), wedi cael ei diwygio yn unol ag erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn.

3.  Yn lle’r Tabl ym mharagraff 5 o Atodiad A1 rhodder y Tabl canlynol—

Tâl pensiynadwyY gyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2014 ymlaen
Hyd at a chan gynnwys £15,0008.5% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £15,000 a hyd at a chan gynnwys £21,0009.4% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £21,000 a hyd at a chan gynnwys £30,00010.4% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £30,000 a hyd at a chan gynnwys £40,00010.9% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £40,000 a hyd at a chan gynnwys £50,00011.2% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £50,000 a hyd at a chan gynnwys £60,00011.3% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £60,000 a hyd at a chan gynnwys £100,00011.7% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £100,000 a hyd at a chan gynnwys £120,00012.1% o’r tâl pensiynadwy
Mwy na £120,00012.5% o’r tâl pensiynadwy.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

4 Mawrth 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“y Cynllun”) sydd wedi ei nodi yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072 (Cy.110)), i fod yn effeithiol o 1 Ebrill 2014.

Mae erthygl 3 yn diwygio’r Cynllun er mwyn darparu ar gyfer cyfradd wahanol o gyfraniadau pensiwn sy’n daladwy gan aelodau’r Cynllun sy’n cynyddu yn ôl swm y tâl pensiynadwy y mae’r aelod yn ei dderbyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a’r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8221.

(1)

2004 p.21. Diwygiwyd adran 34 gan adran 27 o Ddeddf Pensiwn y Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 (p.25), a pharagraff 27 o Atodlen 8 iddi, ond pan wnaed y Gorchymyn hwn nid oedd y diwygiad eto mewn grym. Diwygiwyd adrannau 60 a 62 gan adrannau 9 a 10 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20). Cafodd y pwerau o dan adrannau 34 a 60 eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn rhinwedd adran 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Trosglwyddwyd y pwerau i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).