Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Diwygio’r Rheoliadau
2.—(1) Mae Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 27 (dehongli), yn y diffiniad o “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”), yn lle “Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012”() rhodder “Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013”().
(3) Yn rheoliad 29 (terfynau amser)—
(a)ym mharagraff (2) yn lle “Pan” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2A), pan”;
(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Pan fodlonir yr amod a grybwyllir yn adran 16(7)(c) a bod yr apêl gan y person a dramgwyddir yn ymwneud â phenderfyniad awdurdod bilio i ddyfarnu gostyngiad o dan ei gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, gwrthodir yr apêl oni bai bod yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 16(4)() wedi ei gyflwyno i’r awdurdod bilio yn unol â pharagraff 8(2) o Atodlen 12 i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 neu baragraff 8(2) o Atodlen 1 o’r cynllun a ragnodir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(), yn ôl y digwydd.”
Back to top