2015 Rhif 1227 (Cy. 81)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Yn unol ag adran 4(2) o Ddeddf Addysg 20021 (“y Ddeddf”), mae corff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain (“y corff llywodraethu”) wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol a’r personau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, gan gynnwys rhieni disgyblion sydd wedi eu cofrestru yn yr ysgol a’r staff sy’n gweithio yn yr ysgol;

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i’r materion a nodir yn adran 1(2) o’r Ddeddf, y gall gweithredu gan y corff llywodraethu ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn gyfrannu at godi’r safonau addysgol a gyrhaeddir gan blant yng Nghymru;

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 2(1) o’r Ddeddf2, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, ar gais y corff llywodraethu, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ysgol Uwchradd y Dwyrain (Newid Amserau Sesiynau Ysgolion) 2015 a daw i rym ar 1 Mehefin 2015.

Esemptiad o’r Rheoliadau Sesiynau Ysgolion2

Nid yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 20093 yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain4 ar Heol Casnewydd, Caerdydd CF3 3XG.

Y cyfnod amser3

Bydd y Gorchymyn hwn yn cael effaith tan 31 Awst 2015.

Huw LewisY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 2 o Ddeddf Addysg 2002. Mae erthygl 2 yn darparu nad yw rheoliad 4(2), (3) a (4) o Reoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009 yn gymwys i gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Bydd hyn yn caniatáu i’r corff llywodraethu wneud newidiadau i ba bryd y mae sesiynau’r ysgol yn dechrau ac yn dod i ben, gan gynnwys pa bryd y mae’r diwrnod ysgol yn dechrau ac yn dod i ben o 1 Mehefin 2015 ymlaen, yn hytrach nag ar ddechrau tymor ysgol neu flwyddyn ysgol. Mae erthygl 3 yn pennu bod y Gorchymyn yn cael effaith tan 31 Awst 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.