xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
17 Mehefin 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Mehefin 2015
Yn dod i rym
19 Gorffennaf 2015
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas ag atal ac adfer difrod amgylcheddol ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno(3).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”)(4). Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2009 yn darparu bod cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. At ddibenion Rheoliadau 2009 fel y maent yn cael effaith fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2009 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).
Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.
O.S. 2009/995 (Cy. 81); O.S. 2011/556 a 971, 2012/630, 2013/775 (Cy. 90) yw’r offerynnau diwygio perthnasol.