Offerynnau Statudol Cymru
2015 Rhif 1394 (Cy. 138)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Mehefin 2015
Yn dod i rym
19 Gorffennaf 2015
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi() at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972() mewn perthynas ag atal ac adfer difrod amgylcheddol ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno().
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”)(). Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2009 yn darparu bod cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. At ddibenion Rheoliadau 2009 fel y maent yn cael effaith fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2009 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Gorffennaf 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006().
Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
2.—(1) Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “dyfroedd morol” (“marine waters”) yw dyfroedd sy’n cael eu dosbarthu’n ddyfroedd morol yn unol â Chyfarwyddeb 2008/56/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi amgylcheddol morol();”;
“ystyr “gwaelodlin” (“baseline”) yw’r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 1987();”.
(3) Yn rheoliad 4 (ystyr “difrod amgylcheddol”)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (b) hepgorer yr ail “neu”;
(ii)hepgorer is-baragraff (c) a mewnosoder—
“(c)dyfroedd morol, neu
(d)tir,”; a
(b)hepgorer paragraff (5) a mewnosoder—
“(5) Ystyr difrod amgylcheddol i ddyfroedd morol yw difrod i ddyfroedd morol sy’n effeithio’n sylweddol andwyol ar eu statws amgylcheddol.
(6) Ystyr difrod amgylcheddol i dir yw halogi’r tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy’n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.”.
(4) Yn rheoliad 6 (yr ardaloedd lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr” creer rhes newydd ac yn y golofn gyntaf (Y math o ddifrod) mewnosoder “Difrod i ddyfroedd morol”; a
(ii)yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Yr ardal lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys) mewnosoder—
“Yr holl ddyfroedd morol o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau a ganlyn—
(a)
dyfroedd morol hyd at un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru i’r graddau nad ydynt wedi cael sylw fel difrod i ddŵr eisoes;
(b)
dyfroedd morol o un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru, gan ymestyn i 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru”; a
(b)hepgorer paragraff (2).
(5) Ar ôl rheoliad 8(1) (esemptiadau) mewnosoder—
“(1A) Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â’r difrod i ddyfroedd morol fel petai “19 Gorffennaf 2015” wedi ei roi yn lle “i’r rheoliadau hyn ddod i rym” yn is-baragraff (a).”
(6) Yn rheoliad 10 (yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010)() hepgorer paragraff (3)(b)(iii) a mewnosoder—
“(iii)Gweinidogion Cymru, os yw’r difrod i ddyfroedd morol; a
(iv)Corff Adnoddau Naturiol Cymru, os yw’r difrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.”
(7) Yn rheoliad 11(1) (Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraill) ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr—” creer rhes newydd a mewnosoder—
(a)yng ngholofn gyntaf y tabl (Y math o ddifrod amgylcheddol) “Difrod i ddyfroedd morol—”;
(b)yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Man y difrod) mewnosoder “Yr holl ddyfroedd morol hyd at 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru”; ac
(c)yn y cofnod cyfatebol yn y drydedd golofn (Yr awdurdod gorfodi) mewnosoder “Gweinidogion Cymru”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2015
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 () (“Rheoliadau 2009”) sy’n gweithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol() (“y Gyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau 2009 i weithredu’r newidiadau i’r Gyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol a gyflwynwyd gan Erthygl 38 o Gyfarwyddeb 2013/30/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddiogelwch gweithrediadau olew a nwy alltraeth ac yn diwygio Cyfarwyddeb 2004/35/EC(). Mae erthygl 38 o Gyfarwyddeb 2013/30/EU yn ymestyn y diffiniad o ‘difrod amgylcheddol’ a geir yn y Gyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol i gynnwys difrod sy’n effeithio’n sylweddol andwyol ar statws amgylcheddol dyfroedd morol fel y’u diffinnir yng Nghyfarwyddeb 2008/56/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu cymunedol ym maes polisi amgylcheddol morol(). Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2009 yn cael ei ddiwygio i ddarparu cyfyngiadau amser mewn perthynas â difrod i ddyfroedd morol. Mae rheoliadau 10 ac 11 yn cael eu diwygio er mwyn pennu’r awdurdodau gorfodi ar gyfer difrod i ddyfroedd morol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.