2015 Rhif 1394 (Cy. 138)
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas ag atal ac adfer difrod amgylcheddol ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno3.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”)4. Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2009 yn darparu bod cyfeiriadau at offerynnau’r UE yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. At ddibenion Rheoliadau 2009 fel y maent yn cael effaith fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2009 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2015.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Gorffennaf 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn, mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20065.
Diwygiadau i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 20092
1
Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
ystyr “dyfroedd morol” (“marine waters”) yw dyfroedd sy’n cael eu dosbarthu’n ddyfroedd morol yn unol â Chyfarwyddeb 2008/56/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu Cymunedol ym maes polisi amgylcheddol morol6;
ystyr “gwaelodlin” (“baseline”) yw’r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 19877;
3
Yn rheoliad 4 (ystyr “difrod amgylcheddol”)—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn is-baragraff (b) hepgorer yr ail “neu”;
ii
hepgorer is-baragraff (c) a mewnosoder—
c
dyfroedd morol, neu
d
tir,
b
hepgorer paragraff (5) a mewnosoder—
5
Ystyr difrod amgylcheddol i ddyfroedd morol yw difrod i ddyfroedd morol sy’n effeithio’n sylweddol andwyol ar eu statws amgylcheddol.
6
Ystyr difrod amgylcheddol i dir yw halogi’r tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy’n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.
4
Yn rheoliad 6 (yr ardaloedd lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys)—
a
ym mharagraff (1)—
i
ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr” creer rhes newydd ac yn y golofn gyntaf (Y math o ddifrod) mewnosoder “Difrod i ddyfroedd morol”; a
ii
yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Yr ardal lle mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys) mewnosoder—
Yr holl ddyfroedd morol o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau a ganlyn—
- a
dyfroedd morol hyd at un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru i’r graddau nad ydynt wedi cael sylw fel difrod i ddŵr eisoes;
- b
dyfroedd morol o un filltir fôr tua’r môr o’r gwaelodlin yng Nghymru, gan ymestyn i 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru
b
hepgorer paragraff (2).
5
Ar ôl rheoliad 8(1) (esemptiadau) mewnosoder—
1A
Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â’r difrod i ddyfroedd morol fel petai “19 Gorffennaf 2015” wedi ei roi yn lle “i’r rheoliadau hyn ddod i rym” yn is-baragraff (a).
6
Yn rheoliad 10 (yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010)8 hepgorer paragraff (3)(b)(iii) a mewnosoder—
iii
Gweinidogion Cymru, os yw’r difrod i ddyfroedd morol; a
iv
Corff Adnoddau Naturiol Cymru, os yw’r difrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
7
Yn rheoliad 11(1) (Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraill) ar ôl y cofnod yn y tabl “Difrod i ddŵr—” creer rhes newydd a mewnosoder—
a
yng ngholofn gyntaf y tabl (Y math o ddifrod amgylcheddol) “Difrod i ddyfroedd morol—”;
b
yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (Man y difrod) mewnosoder “Yr holl ddyfroedd morol hyd at 12 milltir fôr o’r gwaelodlin yng Nghymru”; ac
c
yn y cofnod cyfatebol yn y drydedd golofn (Yr awdurdod gorfodi) mewnosoder “Gweinidogion Cymru”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)