Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Cymeradwyo cymwysterau ac ildio cymeradwyaeth
9.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â’r ffurfiau ar gymhwyster a restrir yn yr Atodlen.
(2) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r ffurfiau ar gymhwyster i gael eu trin fel pe baent wedi eu cymeradwyo o dan adran 19 o’r Ddeddf i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff dyfarnu a nodir yn enw’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw.
(3) Mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 22(3) o’r Ddeddf, ddyrannu’r rhif yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y ffurf ar gymhwyster yn y golofn “Rhif / Number”.
(4) Ac eithrio mewn perthynas â’r cymhwyster y cyfeirir ato ym mharagraff (5), mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 21 Medi 2015 hyd ddiwedd 31 Awst 2020 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.
(5) Mae’r gymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i’r cymhwyster y dyrennir y rhif 601/7663/5 iddo (TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Daearyddiaeth) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 1 Medi 2016 hyd ddiwedd 31 Awst 2021 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.
(6) Mae unrhyw hysbysiad o fewn paragraff (7) a roddir cyn 21 Medi 2015 i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â ffurf ar gymhwyster gan y corff dyfarnu o dan sylw ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl cyn y dyddiad hwnnw, i gael ei drin, o’r dyddiad hwnnw, fel hysbysiad ildio o dan adran 25 o’r Ddeddf.Mae’r hysbysiad yn hysbysiad ynghylch y disgwyliad y bydd y corff dyfarnu yn tynnu’r ffurf ar gymhwyster yn ôl o dan amod D7.3 o’r amodau cydnabod a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(3A) o Ddeddf 1997().
Back to top