xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Dŵr, Cymru
Gwnaed
11 Rhagfyr 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Rhagfyr 2015
Yn dod i rym
8 Ionawr 2016
Mae Gweinidogion Cymru wedi’u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol a chadwraeth cynefinoedd gwyllt a fflora a ffawna ac maent yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2015, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 8 Ionawr 2016.
2. Diwygir Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013(3) yn unol â rheoliadau 3 i 7.
3.—(1) Yn rheoliad 6 (dehongli), yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder——
““ystyr “daliad a randdirymwyd” (“derogated holding”) yw daliad y mae gan randdirymiad effaith drosto”;
“ystyr “rhanddirymiad” (“derogation”) yw rhanddirymiad a roddir o dan Ran 3A o derfyn y cyfanswm o nitrogen mewn tail da byw y gellir ei ddodi ar dir bob blwyddyn yn unol â pharagraff 2(b) o Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU(4)”
“ystyr “cais i randdirymu” (“derogation application”) yw cais am randdirymiad”;
(2) yn y diffiniad “cynllun gwrteithio” ar ôl y geiriau “reoliad 14(1)(c)” mewnosoder—
““neu gynlluniau eraill cyffelyb sy’n ofynnol o dan Atodlen 5.”.
4. Ar ddechrau paragraff (1) o reoliad 12 (dodi tail da byw – y terfyn mewn perthynas â chyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad) mewnosoder “Ac eithrio pan fo’r meddiannydd wedi cael rhanddirymiad,”.
5. Ar ôl Rhan 3 (Cyfyngu ar ddodi tail organig), mewnosoder—
13A.—(1) (1)Caiff meddiannydd unrhyw ddaliad neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd (“y ceisydd”) wneud cais i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru am randdirymiad pan cafodd 80% neu fwy o’r ardal amaethyddol ei hau â phorfa.
(2) Mae’n rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gynnwys gydag ef ddatganiad ysgrifenedig yn datgan y bydd y meddiannydd yn bodloni’r amodau a nodir yn Atodiad 5.
(3) Rhaid i gais i randdirymu gael ei gyflwyno erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr o flaen honno y gwneir y cais ar ei chyfer.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r dull a’r ffurf y mae’n rhaid i’r cais gael ei wneud ynddynt.
(5) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ganiatáu neu wrthod cais i randdirymu cyn gynted ag y bo’n ymarferol a hysbysu’r ceisydd o’r penderfyniad yn ysgrifenedig ac, os bydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn gwrthod cais i randdirymu, rhaid iddo ar yr un pryd roi rhesymau dros wrthod.
(6) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru wrthod cais i randdirymu pan fo o’r farn y byddai caniatáu rhanddirymiad yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd—
(a)safle Ewropeaidd; neu
(b)safle morol alltraeth Ewropeaidd,
pan fo’r safleoedd hynny wedi bod yn ddarostyngedig i asesiad priodol o dan reoliad 61 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(5).
(7) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi gwrthod caniatáu’r cais i randdirymu, caiff y ceisydd apelio yn unol â’r weithdrefn a nodir yn rheoliad 13B.
(8) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (yn ddarostyngedig i baragraff (8)) wrthod y cais os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad yn ystod y flwyddyn galendr o flaen honno y mae’r cais yn berthnasol iddi.
(9) Os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad ar ôl dyddiad y cais ond cyn i benderfyniad gael ei wneud (a chyn y flwyddyn galendr y mae’r cais yn berthnasol iddi), caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru, gan ystyried difrifoldeb y drosedd, ddewis caniatáu neu wrthod y cais.
(10) Os canfu bod y meddiannydd wedi torri amodau’r rhanddirymiad ar ôl i’r cais gael ei ganiatáu (ond cyn y flwyddyn galendr y mae’r cais yn berthnasol iddi), caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru, gan ystyried difrifoldeb y drosedd, ddirymu’r rhanddirymiad drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd cyn y flwyddyn galendr y caniatawyd y cais ar ei chyfer.
(11) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn caniatáu cais mewn achos yn unol â pharagraff (8) neu’n penderfynu peidio â dirymu rhanddirymiad mewn achos yn unol â pharagraff (9), rhaid iddo wrthod y cais nesaf a wneir o dan reoliad 13A gan neu ar ran y meddiannydd.
(12) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyrir bod person wedi torri amodau’r rhanddirymiad os—
(a)yw’r person wedi ei gollfarnu o drosedd o dan reoliad 49 sy’n deillio o dorri’r amodau hynny ac naill ai na chaiff apêl pellach ei gwneud yn erbyn y gollfarn, neu lle gwnaed apêl, aeth y penderfyniad yn erbyn y person;
(b)yw’r person wedi derbyn rhybudd syml am drosedd o’r fath.
(13) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi caniatáu’r cais i randdirymu, rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddynodi’r daliad y mae’r rhanddirymiad yn gymwys ar ei gyfer yn ddaliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.
(14) Rhaid i’r meddiannydd gadw cofnod o’r cais i randdirymu a’r penderfyniad.
(15) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “safle morol alltraeth Ewropeaidd” yw safle morol alltraeth Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 15 (ystyr safle morol alltraeth Ewropeaidd) o Reoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 2007(6); a
(b)ystyr “safle Ewropeaidd” yw safle Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.
13B.—(1) Pan fo Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi gwrthod cais i randdirymu, caiff y ceisydd drwy hysbysiad apelio yn erbyn y penderfyniad i banel annibynnol a benodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei chyflwyno o fewn 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau drannoeth dyddiad y gwrthod.
(3) Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei gwneud yn y dull a’r ffurf a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i’r panel a gaiff ei benodi o dan y rheoliad hwn gynnwys odrif o bersonau (a rhaid iddo gynnwys o leiaf dri pherson).
(5) Mae penderfyniad gan y panel i’w wneud drwy fwyafrif syml.
(6) Rhaid i’r panel seilio ei benderfyniad ar—
(a)dogfennau a gyflwynwyd iddo gan yr apelydd;
(b)dogfennau a gyflwynwyd iddo gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru; ac
(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol gan yr apelydd neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru y mae’n ei hystyried sy’n angenrheidiol.
(7) At ddibenion paragraff (6)(c), caiff y panel—
(a)gofyn i’r apelydd neu i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddarparu’r wybodaeth ychwanegol; neu
(b)mewn amgylchiadau eithriadol, gynnal gwrandawiad llafar lle caiff yr apelydd a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru ymddangos.
(8) Os bydd y panel yn caniatáu apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru ddynodi’r daliad dan sylw fel daliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.
(9) Ar ôl penderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r panel—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu Corff Adnoddau Naturiol Cymru, yr apelydd a Gweinidogion Cymru o’i benderfyniad yn ysgrifenedig; a
(b)pan fo’n gwrthod yr apêl, rhoi’r rhesymau dros wrthod.
(10) (Rhaid i bob parti mewn apêl o dan y rheoliad hwn ysgwyddo ei gostau ei hun.
13C. Mae Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â daliadau a randdirymwyd.”.
6. Ar ôl Atodlen 4 (Y cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), mewnosoder gynnwys yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
7.—(1) Yn rheoliad 101(1)(b) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(7) yn lle “2008” rhodder “2013”.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
11 Rhagfyr 2015
Rheoliad 6
Rheoliad 13C
1. Mae’r gofynion ychwanegol a ganlyn yn gymwys i ddaliadau a randdirymwyd.
2. Yn yr Atodlen hon ystyr “y meddiannydd” yw “meddiannydd daliad a randdirymwyd”
3. Rhaid i feddiannydd daliad a randdirymwyd sicrhau yn unrhyw flwyddyn galendr y rhoddwyd rhanddirymiad ynglŷn â hi bod—
lle—
A yw ardal y daliad a randdirymwyd (hectarau), fel y mae ar 1 Ionawr ar gyfer y flwyddyn galendr honno;
Ngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw sy’n pori, p’un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu;
Nngl yw cyfanswm y nitrogen (cilogramau) mewn tail da byw gan dda byw nad ydynt yn pori, p’un a ddodir ef yn uniongyrchol gan anifail neu wrth ei daenu.
4.—(1) Yn ychwanegol at lunio cynlluniau ynghylch taenu nitrogen o dan reoliad 14 (cynllunio’r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu) rhaid i’r meddiannydd—
(a)asesu faint o ffosfforws yn y pridd sy’n debygol o fod ar gael i’w amsugno gan y cnwd yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad ffosfforws yn y pridd”);
(b)cyfrifo’r maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o’r cyflenwad ffosfforws yn y pridd; ac
(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.
(2) Rhaid i’r meddiannydd wneud hyn —
(a)yn achos unrhyw gnwd ac eithrio glaswelltir parhaol, cyn taenu unrhyw wrtaith ffosffad am y tro cyntaf at ddibenion gwrteithio cnwd a blannwyd neu y bwriedir ei blannu; a
(b)yn achos glaswelltir parhaol, bob blwyddyn gan ddechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith ffosffad.
5.—(1) Rhaid i’r cynllun gwrteithio ar gyfer y daliad a randdirymwyd—
(a)cynnwys bras-gynllun sy’n dynodi lleoliad y caeau mae’r cynllun yn berthnasol iddynt; a
(b)datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun natur y gwrtaith i’w ddefnyddio.
(2) Rhaid i’r cynllun gwrteithio gofnodi—
(a)y cyflenwad ffosfforws yn y pridd a’r dull a ddefnyddir i gadarnhau’r ffigur hwn;
(b)y maint gorau posibl o wrtaith ffosffad y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth faint o ffosfforws sydd ar gael o’r cyflenwad ffosfforws yn y pridd;
(c)faint o nitrogen sy’n debygol o fod ar gael i’w amsugno gan y cnwd o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’w amsugno gan y cnwd yn y tymor tyfu yn ystod y flwyddyn galendr y taenir ef ynddi;
(d)faint o ffosffad sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y flwyddyn galendr;
(e)faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o nitrogen y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y flwyddyn galendr honno); ac
(f)faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddibenion gwrteithio’r cnwd yn ystod y flwyddyn galendr honno).
6.—(1) Bob pedair blynedd o leiaf rhaid i’r meddiannydd ymgymryd â samplu a dadansoddi pridd ar gyfer cyflenwad o ffosfforws o bob pum hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd.
(2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau blaenorol samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cyflawnwyd y samplu a’r dadansoddi hwnnw o fewn pedair blynedd cyn y rhanddirymiad.
(3) Pan na chyflawnwyd samplu a dadansoddi pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd sydd o dan yr un drefn gnydio a math o bridd o fewn pedair blynedd i’r rhanddirymiad gael ei ganiatáu, rhaid cyflawni’r samplu a dadansoddi hwnnw fel a ganlyn—
(a)75% o’r ardal amaethyddol heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl caniatáu’r rhanddirymiad; a
(b)100% o’r ardal amaethyddol heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y rhoddir y caniatâd nesaf am y rhanddirymiad i’r meddiannydd.
7.—(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 15 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu tail organig, gofnodi—
(a)cyfanswm cynnwys ffosffad y tail organig; a
(b)faint o ffosffad sy’n debygol o gael ei gyflenwi o’r tail organig y bwriedir ei daenu at ddibenion gwrteithio’r cnwd yn y tymor tyfu y taenir ef ynddo.
(2) Yn ychwanegol at ofynion is-baragraff (1) rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, gofnodi—
(a)faint sydd ei angen (hynny yw, y maint gorau posibl o ffosffad y mae ei angen ar y cnwd gan ddidynnu faint o ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir); a
(b)y dyddiad a drefnwyd ar gyfer taenu (mis).
8.—(1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 19 (mapiau risg), rhaid i fap risg—
(a)dangos pob cae wedi’i farcio â rhif cyfeirnod neu rif sy’n galluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd yn y cynlluniau gwrteithio;
(b)cyfateb i ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd; ac
(c)cael ei gwblhau erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
(2) Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn mis i’r newid.
9. Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol yn cael ei hau â phorfa yn ystod y flwyddyn y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
10. Ni chaiff neb—
(a)aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr;
(b)aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol; ac
(c)aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr lle y cafodd tail da byw ei daenu ar y borfa honno rhwng 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol a 15 Ionawr.
11. Pan fo porfa ar y daliad a randdirymwyd yn cael ei haredig, rhaid bod y tir—
(a)wedi’i hau gan gnwd sydd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa; neu
(b)wedi’i hau gan borfa o fewn chwe wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
12. Rhaid i gylchdro cnydau ar y daliad a randdirymwyd beidio â chynnwys codlysiau neu blanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% o feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi’i hau oddi tanynt.
13.—(1) Rhaid i feddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol a’r ardal o borfa yn y daliad a randdirymwyd erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
(2) Os bydd maint y daliad a randdirymwyd neu ardal o borfa oddi mewn iddo yn newid rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn mis sy’n dechrau drannoeth y newid.
14. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 37 (cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio) rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod sy’n disgrifio’r systemau siediau da byw a storio tail ynghyd â faint o le storio tail sydd ar gael ar y daliad erbyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
15.—(1) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi nifer y da byw a ddisgwylir a’r categori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) i’w cadw ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
(2) Yn dilyn y gofynion ynghylch cofnodi yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad mewn tail y disgwylir i’r da byw eu cynhyrchu ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1.
(3) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth yn y flwyddyn galendr dan sylw.
16.—(1) Rhaid i’r meddiannydd—
(a)gwneud cofnod o’r math o dail da byw a faint ohono y bwriedir dod ag ef i’r daliad a’i anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi; a
(b)asesu a chofnodi faint o nitrogen sydd yn y tail da byw a gofnodwyd o dan is-baragraff (1)(a) yn unol â rheoliad 39(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.
(2) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.
17. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 42 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd) rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith ffosffad, o fewn wythnos o hau cnwd gofnodi—
(a)y cnwd a heuwyd; a
(b)y dyddiad hau.
18. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 43 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen) rhaid i feddiannydd gofnodi—
(a)o fewn wythnos o daenu tail organig—
(i)cyfanswm y cynnwys ffosfforws; a
(ii)faint o ffosffad a gyflenwyd i’w amsugno gan y cnwd; a
(b)o fewn wythnos o daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
(i)y dyddiad taenu; a
(ii)faint o ffosffad a daenwyd.
19. Yn ychwanegol at ofynion rheoliad 44 (cofnodion dilynol) rhaid i feddiannydd gofnodi o fewn wythnos o aredig y daliad a randdirymwyd, ddyddiad yr aredig hwnnw.
20.—(1) Rhaid i feddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y flwyddyn galendr i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru erbyn 30 Ebrill y flwyddyn ganlynol.
(2) Rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru gyhoeddi’r dull a’r ffurf y mae’n rhaid i gyfrif gwrteithio gael ei wneud ynddynt.
(3) (Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—
(a)cyfanswm ardal amaethyddol y daliad a randdirymwyd;
(b)yr ardal o’r daliad a randdirymwyd a orchuddiwyd gan—
(i)gwenith gaeaf;
(ii)gwenith gwanwyn;
(iii)haidd gaeaf;
(iv)haidd gwanwyn;
(v)rêp had olew gaeaf;
(vi)betys siwgr;
(vii)tatws;
(viii)indrawn porthi;
(ix)porfa; a
(x)cnydau eraill;
(c)nifer a chategori’r anifeiliaid a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(d)faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad a randdirymwyd yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
(e)faint o dail da byw, ei nodweddion a pha fath a ddygwyd i’r daliad a randdirymwyd neu ei anfon oddi yno yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi;
(f)faint o nitrogen a ffosffad oedd yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e) a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 14(2);
(g)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad a randdirymwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi; a
(h)pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad a randdirymwyd a’i anfon oddi yno rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn galendr y mae’r rhanddirymiad yn berthnasol iddi.”
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2506 (Cy. 245)) (“y Rheoliadau Nitradau”) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (O.S. 2010/490) (“y Rheoliadau Cynefinoedd”).
Maent yn rhoi ar waith yng Nghymru Benderfyniad y Comisiwn 2013/781/EC (OJ Rhif L 346, 20.12.13, t65) sy’n caniatáu rhanddirymiad yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd gan nitradau sy’n dod o ffynonellau amaethyddol (OJ Rhif L 375, 31.12.91, t1, a ddiwygiwyd gan OJ Rhif L 284, 31.10.03, t1, OJ Rhif L 311, 21.11.08, t1).
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 6 (Dehongli) y Rheoliadau Nitradau. Mae rheoliad 5 yn mewnosod Rhan 3A newydd yn y Rheoliadau Nitradau sy’n cyflwyno gweithdrefn y mae’n rhaid i gais am randdirymiad gael ei wneud drwyddi ac mae’n sefydlu gweithdrefn apelio yn erbyn gwrthod cais am randdirymiad.
Mae rheoliad 6 yn mewnosod Atodlen 5 newydd yn y Rheoliadau Nitradau sy’n nodi gofynion ychwanegol y mae meddiannydd daliad a randdirymwyd i’w bodloni.
Mae rheoliad 7 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i’r Rheoliadau Cynefinoedd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Rhoddodd O.S. 2001/2555 ac O.S. 2002/248 bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 28(1) o Atodlen 11 iddi, mae’r dynodiad hwnnw bellach wedi breinio yng Ngweinidogion Cymru.
OJ Rhif L 346, 20.12.2013, t 65.
O.S. 2010/490. Cafodd diwygiadau perthnasol eu gwneud gan O.S. 2012/1927.