Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 29 (Cy. 2) (C. 2)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015

Gwnaed

13 Ionawr 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 50(4) a (5) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 16 Ionawr 2015

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 ddod i rym yw 16 Ionawr 2015—

(a)adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;

(b)adran 5 (y pŵer i ychwanegu swyddogaethau);

(c)adran 9(1) a (3) (cofrestr) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;

(d)adran 10 (cymhwystra ar gyfer cofrestru);

(e)adran 12 (ffioedd cofrestru);

(f)adran 13 (cofrestru: darpariaeth bellach);

(g)adran 14 (athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion) i’r graddau y mae’n gymwys i athrawon ysgol;

(h)adran 15 (athrawon addysg bellach);

(i)adran 17 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu);

(j)adran 18 (safonau er mwyn asesu’r cyfnod sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 17 o Ddeddf 2014;

(k)adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(l)adran 21 (sefydlu: dehongli);

(m)adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(n)adran 25 (cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellach);

(o)adran 26 (swyddogaethau disgyblu);

(p)adran 27 (swyddogaethau disgyblu: dehongli);

(q)adran 28 (swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellach);

(r)adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(s)adran 30 (gorchmynion atal dros dro) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(t)adran 31 (gorchmynion gwahardd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(u)adran 33 (y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodol);

(v)adran 35 (rhoi gwybodaeth: y Cyngor);

(w)adran 36 (rhoi gwybodaeth: cyflogwyr);

(x)adran 37 (rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyr);

(y)adran 41 (dehongli Rhan 2);

(z)rhes gyntaf a thrydedd res llinell Tabl 1 ym mharagraff 1 a pharagraff 3 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru), ac

(aa)Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2015

3.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 ddod i rym yw 1 Ebrill 2015—

(a)adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)adran 3 (nodau’r Cyngor);

(c)adran 4 (swyddogaethau’r Cyngor);

(d)adran 6 (cyfarwyddiadau);

(e)adrannau 7 ac 8 (darparu cyngor gan y Cyngor a hybu gyrfaoedd);

(f)adran 9 (cofrestr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(g)adran 11 (apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestru);

(h)adran 18 (safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydlu);

(i)adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(j)adran 20 (sefydlu: pwerau ymyrryd);

(k)adran 22 (darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig);

(l)adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer);

(m)adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol);

(n)adran 30 (gorchmynion atal dros dro);

(o)adran 31 (gorchmynion gwahardd);

(p)adran 32 (apelau yn erbyn gorchmynion disgyblu);

(q)adran 34 (rhoi gwybodaeth: Gweinidogion);

(r)adran 38 (cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaeth);

(s)adrannau 39 a 40 (darpariaeth drosiannol a darfodol);

(t)adran 48 (mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol);

(u)Atodlen 1 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(v)paragraff 2 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru);

(w)paragraffau 1(1), 1(2), (4), (5) a (6) a 2 o Ran 1 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall); ac

(x)Rhan 2 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall) ac eithrio diddymu adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002(2).

Darpariaethau arbed a throsiannol

4.—(1Er gwaethaf cychwyn paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf 2014—

(a)mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000(3) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 33, 35, 36 a 37 o Ddeddf 2014;

(b)mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000(4) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 10 a 13 o Ddeddf 2014;

(c)mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(5) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 26 ac 28 o Ddeddf 2014;

(d)mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002(6) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adran 12 o Ddeddf 2014;

(e)mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005(7) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 17 a 19 o Ddeddf 2014;

(f)mae Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010(8) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 14 a 15 o Ddeddf 2014; ac

(g)mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011(9) yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adran 23 o Ddeddf 2014.

(2Mae unrhyw gyfeiriad at Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn y gorchmynion a’r rheoliadau a nodir ym mharagraff (1) i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at Gyngor y Gweithlu Addysg.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

13 Ionawr 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn i rym ar 16 Ionawr 2015—

(a)adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;

(b)adran 5 (y pŵer i ychwanegu swyddogaethau);

(c)adran 9(1) a (3) (cofrestr) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;

(d)adran 10 (cymhwystra ar gyfer cofrestru);

(e)adran 12 (ffioedd cofrestru);

(f)adran 13 (cofrestru: darpariaeth bellach);

(g)adran 14 (athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion) i’r graddau y mae’n gymwys i athrawon ysgol;

(h)adran 15 (athrawon addysg bellach);

(i)adran 17 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu);

(j)adran 18 (safonau er mwyn asesu’r cyfnod sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 17 o Ddeddf 2014;

(k)adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(l)adran 21 (sefydlu: dehongli);

(m)adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(n)adran 25 (cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellach);

(o)adran 26 (swyddogaethau disgyblu);

(p)adran 27 (swyddogaethau disgyblu: dehongli);

(q)adran 28 (swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellach);

(r)adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(s)adran 30 (gorchmynion atal dros dro) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(t)adran 31 (gorchmynion gwahardd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(u)adran 33 (y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodol);

(v)adran 35 (rhoi gwybodaeth: y Cyngor);

(w)adran 36 (rhoi gwybodaeth: cyflogwyr);

(x)adran 37 (rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyr);

(y)adran 41 (dehongli Rhan 2);

(z)rhes gyntaf a thrydedd res Tabl 1 ym mharagraff 1 a pharagraff 3 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru), ac

(aa)Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio).

Daw’r Gorchymyn hwn a’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Ebrill 2015—

(a)adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)adran 3 (nodau’r Cyngor);

(c)adran 4 (swyddogaethau’r Cyngor);

(d)adran 6 (cyfarwyddiadau);

(e)adrannau 7 ac 8 (darparu cyngor gan y Cyngor a hybu gyrfaoedd);

(f)adran 9 (cofrestr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(g)adran 11 (apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestru);

(h)adran 18 (safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydlu);

(i)adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(j)adran 20 (sefydlu: pwerau ymyrryd);

(k)adran 22 (darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig);

(l)adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer);

(m)adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol);

(n)adran 30 (gorchmynion atal dros dro);

(o)adran 31 (gorchmynion gwahardd);

(p)adran 32 (apelau yn erbyn gorchmynion disgyblu);

(q)adran 34 (rhoi gwybodaeth: Gweinidogion);

(r)adran 38 (cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaeth);

(s)adrannau 39 a 40 (darpariaeth drosiannol a darfodol);

(t)adran 48 (mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol);

(u)Atodlen 1 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(v)paragraff 2 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru);

(w)paragraffau 1(1), 1(2), (4), (5) a (6) a 2 o Ran 1 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall); ac

(x)Rhan 2 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall) ac eithrio diddymu adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002.

Mae erthygl 4 yn cynnwys darpariaethau arbed a throsiannol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynRhif O.S.
Adran 2 i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 118 Awst 2014O.S. 2014/2162 (Cy. 211) (C. 97)
Adran 4214 Gorffennaf 2014O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)
Adran 431 Medi 2014O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)
Adran 4414 Gorffennaf 2014O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)

Adran 48

(yn rhannol)

14 Gorffennaf 2014O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)
Paragraffau 3(1), (2), (3), (4)(a) a (5), 4, 5, 6, 7, 9(1), (2) a (3), a 12 o Atodlen 118 Awst 2014O.S. 2014/2162 (Cy. 211) (C. 97)
Paragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 314 Gorffennaf 2014O.S. 2014/1605 (Cy. 163) (C. 63)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: