2015 Rhif 29 (Cy. 2) (C. 2)
Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 50(4) a (5) o Ddeddf Addysg (Cymru) 20141, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2015.
2
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 16 Ionawr 20152
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 ddod i rym yw 16 Ionawr 2015—
a
adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;
b
adran 5 (y pŵer i ychwanegu swyddogaethau);
c
adran 9(1) a (3) (cofrestr) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau neu orchmynion o dan Ddeddf 2014;
d
adran 10 (cymhwystra ar gyfer cofrestru);
e
adran 12 (ffioedd cofrestru);
f
adran 13 (cofrestru: darpariaeth bellach);
g
adran 14 (athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion) i’r graddau y mae’n gymwys i athrawon ysgol;
h
adran 15 (athrawon addysg bellach);
i
adran 17 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu);
j
adran 18 (safonau er mwyn asesu’r cyfnod sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan adran 17 o Ddeddf 2014;
k
adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
l
adran 21 (sefydlu: dehongli);
m
adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
n
adran 25 (cod ymddygiad ac ymarfer: darpariaeth bellach);
o
adran 26 (swyddogaethau disgyblu);
p
adran 27 (swyddogaethau disgyblu: dehongli);
q
adran 28 (swyddogaethau disgyblu: darpariaeth bellach);
r
adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
s
adran 30 (gorchmynion atal dros dro) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
t
adran 31 (gorchmynion gwahardd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
u
adran 33 (y Cyngor i gynnal cofnodion ynghylch personau penodol);
v
adran 35 (rhoi gwybodaeth: y Cyngor);
w
adran 36 (rhoi gwybodaeth: cyflogwyr);
x
adran 37 (rhoi gwybodaeth: asiantwyr a chontractwyr);
y
adran 41 (dehongli Rhan 2);
z
rhes gyntaf a thrydedd res llinell Tabl 1 ym mharagraff 1 a pharagraff 3 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru), ac
aa
Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 20153
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 ddod i rym yw 1 Ebrill 2015—
a
adran 2 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
b
adran 3 (nodau’r Cyngor);
c
adran 4 (swyddogaethau’r Cyngor);
d
adran 6 (cyfarwyddiadau);
e
adrannau 7 ac 8 (darparu cyngor gan y Cyngor a hybu gyrfaoedd);
f
adran 9 (cofrestr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
g
adran 11 (apelau yn erbyn gwrthod cais i gofrestru);
h
adran 18 (safonau ar gyfer asesu’r cyfnod sefydlu);
i
adran 19 (apelau yn erbyn penderfyniadau sefydlu) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
j
adran 20 (sefydlu: pwerau ymyrryd);
k
adran 22 (darpariaeth arbennig ar gyfer ysgolion a gynhelir sydd â chyllidebau dirprwyedig);
l
adran 24 (cod ymddygiad ac ymarfer);
m
adran 29 (gorchmynion cofrestru amodol);
n
adran 30 (gorchmynion atal dros dro);
o
adran 31 (gorchmynion gwahardd);
p
adran 32 (apelau yn erbyn gorchmynion disgyblu);
q
adran 34 (rhoi gwybodaeth: Gweinidogion);
r
adran 38 (cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaeth);
s
adrannau 39 a 40 (darpariaeth drosiannol a darfodol);
t
adran 48 (mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol);
u
Atodlen 1 (Cyngor y Gweithlu Addysg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
v
paragraff 2 o Atodlen 2 (categorïau cofrestru);
w
paragraffau 1(1), 1(2), (4), (5) a (6) a 2 o Ran 1 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall); ac
x
Rhan 2 o Atodlen 3 (newidiadau i ddeddfwriaeth arall) ac eithrio diddymu adran 131(7) o Ddeddf Addysg 20022.
Darpariaethau arbed a throsiannol4
1
Er gwaethaf cychwyn paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 3 i Ddeddf 2014—
a
mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 20003 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 33, 35, 36 a 37 o Ddeddf 2014;
b
mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 20004 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 10 a 13 o Ddeddf 2014;
c
mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 20015 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 26 ac 28 o Ddeddf 2014;
d
mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 20026 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adran 12 o Ddeddf 2014;
e
mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 20057 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 17 a 19 o Ddeddf 2014;
f
mae Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 20108 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 14 a 15 o Ddeddf 2014; ac
g
mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 20119 yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau drwy arfer eu pwerau o dan adran 23 o Ddeddf 2014.
2
Mae unrhyw gyfeiriad at Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn y gorchmynion a’r rheoliadau a nodir ym mharagraff (1) i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at Gyngor y Gweithlu Addysg.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2 i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1 | 18 Awst 2014 | |
Adran 42 | 14 Gorffennaf 2014 | |
Adran 43 | 1 Medi 2014 | |
Adran 44 | 14 Gorffennaf 2014 | |
Adran 48 (yn rhannol) | 14 Gorffennaf 2014 | |
Paragraffau 3(1), (2), (3), (4)(a) a (5), 4, 5, 6, 7, 9(1), (2) a (3), a 12 o Atodlen 1 | 18 Awst 2014 | |
Paragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 3 | 14 Gorffennaf 2014 |