2015 No. 848 (Cy. 63)
Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f), 2(1) a 3(1), (2), (3)(a) a (4) o Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 20131, a pharagraff 6(b) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 21 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny yr oedd yn ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y byddai’r Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.
Yn unol ag adran 24(1) a (3) o’r Ddeddf honno, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
RHAN 1Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a dod i ben1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015.
2
Ac eithrio rheoliad 10, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2015.
3
Daw rheoliad 10 i rym ar yr un diwrnod â pharagraff 38 o Atodlen 13 i Ddeddf Pensiynau 20142, ac ar y diwrnod hwnnw bydd rheoliad 9 yn peidio â chael effaith.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y cynllun newydd” (“the new scheme”) yw’r cynllun a sefydlwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 20153;
ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Cynlluniau Pensiwn 19934;
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 20135; ac
ystyr “hen gynllun” (“old scheme”) yw’r cynllun a gyfansoddwyd gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 19926 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru neu’r cynllun a gyfansoddwyd gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 20077.
RHAN 2Addasu darpariaethau contractio allan
Cymhwyso’r Rhan hon3
Mae’r Rhan hon yn gymwys—
a
pan wneir dewisiad o dan adran 11 (dewisiadau ynghylch cyflogaethau sydd wedi eu cynnwys o dan dystysgrifau contractio allan) o Ddeddf 19938 mewn perthynas â phersonau sy’n dod yn aelodau o’r cynllun newydd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 a chyn 6 Ebrill 2016 (pa un ai bod unrhyw un neu ragor o’r personau hynny yn aelodau o hen gynllun ai peidio); a
b
pan fo’r cynllun newydd yn bodloni gofynion adran 9 (gofynion o ran ardystio cynlluniau: cyffredinol) o Ddeddf 19939.
Contractio allan4
1
Mae Rhan 2 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 199610 (ardystio cyflogaethau) wedi ei haddasu fel a ganlyn o ran y modd y’i cymhwysir i’r cynllun newydd.
2
Nid yw’r gofynion yn rheoliad 2(1)(a) (gwneud dewisiadau ar gyfer dyroddi tystysgrifau contractio allan) a rheoliadau 3 (hysbysiadau gan gyflogwyr o fwriad i wneud dewisiad) i 5 (amser ar gyfer gwneud dewisiad) yn gymwys.
3
Yn rheoliad 6 (gwybodaeth sydd i’w chynnwys mewn dewisiad)—
a
mae paragraff (1) i’w ddarllen fel pe rhoddid y canlynol yn lle is-baragraffau (a) i (f)—
a
the name by which the new scheme is to be known;
b
the name by which the old schemes are known; and
c
any other information necessary to enable the Commissioners for Her Majesty’s Revenue and Customs to identify the old schemes.
b
nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys.
RHAN 3Addasu darpariaethau ymadawr cynnar a darpariaethau eraill
Cymhwyso’r Rhan hon5
Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo person (P)—
a
yn aelod o hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth tybiedig cynllun trosglwyddo o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);
b
yn aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd; ac
c
yn berson y mae paragraff 1 neu 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 yn gymwys iddo yn rhinwedd ei wasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd, ac y penderfynir ei gyflog terfynol at ddibenion yr hen gynllun drwy gyfeirio at y paragraff hwnnw.
Ardystio6
1
Mae adran 15A o Ddeddf 199311 (lleihau lleiafswm gwarantedig o ganlyniad i ddebyd pensiwn) wedi ei haddasu fel a ganlyn mewn perthynas â P.
2
Wrth gymhwyso’r adran honno i’r hen gynllun, mae cyfeiriad yn is-adran (2) o’r adran honno at wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy naill ai ar gyfer yr hen gynllun neu ar gyfer y cynllun newydd.
Cadw budd7
1
Mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar; cadw budd o dan gynlluniau galwedigaethol) wedi ei haddasu fel a ganlyn mewn perthynas â P.
2
Wrth gymhwyso’r Bennod honno i’r hen gynllun—
a
yn adran 7012 (dehongli), yn y diffiniadau o “relevant employment” a “long service benefit” mae cyfeiriad at y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad naill ai at yr hen gynllun neu’r cynllun newydd;
b
yn adran 71(1) (egwyddor sylfaenol ynglŷn â budd gwasanaeth byr)—
i
mae’r gofyniad bod cynllun yn gwneud darpariaeth i’w ystyried yn ofyniad bod rhaid i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd wneud y ddarpariaeth honno;
ii
mae cyfeiriad at daliad trosglwyddo i’r cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at daliad trosglwyddo i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd;
iii
mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd;
iv
mae cyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P naill ai o dan yr hen gynllun neu o dan y cynllun newydd,
ac mae cyfeiriadau dilynol yn y Bennod at “short service benefit” i’w dehongli yn unol â hynny;
c
yn adran 71(5), mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd;
d
yn adran 71(7)(a), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P naill ai ar gyfer yr hen gynllun neu ar gyfer yr hen gynllun a’r cynllun newydd ar y cyd; ac
e
yn adrannau 72(2) (dim gwahaniaethu rhwng buddiolwyr gwasanaeth byr a buddiolwyr gwasanaeth hir), 74(6) a (7) (cyfrifo budd gwasanaeth byr), 75(3) a (4) (credydau) a 76(1) a (3) (cynyddiadau pensiwn), mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd.
3
Wrth gymhwyso’r Bennod honno i’r cynllun newydd—
a
yn adran 70, yn y diffiniadau o “relevant employment” a “long service benefit”, mae cyfeiriad at y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd;
b
yn adran 71(1)—
i
mae gofyniad bod cynllun yn gwneud darpariaeth i’w ystyried yn ofyniad bod rhaid i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd wneud y ddarpariaeth honno;
ii
mae cyfeiriad at daliad trosglwyddo i’r cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at daliad trosglwyddo i naill ai’r hen gynllun neu’r cynllun newydd;
iii
mae cyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at fudd a fyddai wedi bod yn daladwy i P naill ai o dan yr hen gynllun neu o dan y cynllun newydd,
ac mae cyfeiriadau dilynol yn y Bennod at “short service benefit” i’w dehongli yn unol â hynny;
c
yn adran 71(7)(a), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P o dan y cynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P naill ai ar gyfer y cynllun newydd neu ar gyfer yr hen gynllun a’r cynllun newydd ar y cyd; a
d
yn adran 74(6), mewn perthynas â gwasanaeth pensiynadwy sydd wedi ei derfynu, mae cyfeiriad at ddechrau’r gwasanaeth hwnnw i’w ystyried yn gyfeiriad at ddechrau gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer yr hen gynllun.
Ailbrisio budd a gedwir8
1
Mae Pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar: ailbrisio buddion cronedig) wedi ei haddasu fel a ganlyn.
2
Wrth gymhwyso Pennod 2 at y diben o ailbrisio budd sydd yn daladwy i P, neu mewn perthynas â P, o dan yr hen gynllun—
a
yn adran 83(1)(a)(ii)13 (cwmpas Pennod 2), mae’r cyfeiriad at y dyddiad y daw gwasanaeth pensiynadwy P i ben i’w ystyried yn gyfeiriad at y dyddiad y daw gwasanaeth pensiynadwy P i ben mewn perthynas â’r cynllun newydd; a
b
mae cyfeiriadau dilynol yn y Bennod honno at “the termination date” a “pre-pension period” i’w dehongli yn unol â hynny.
Diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig9
1
Mae Pennod 3 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar: diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig (“gwrth-ffrancio”)) wedi ei haddasu fel a ganlyn.
2
Wrth gymhwyso’r Bennod honno i P fel aelod o’r hen gynllun—
a
yn adran 87(1)(a)(i)14 (egwyddor diogelwch cyffredinol), mae’r cyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn cyflogaeth sydd wedi ei chontractio allan drwy gyfeirio at gynllun i’w ystyried yn gyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn cyflogaeth sydd wedi ei chontractio allan drwy gyfeirio at y cynllun newydd; a
b
mae cyfeiriadau dilynol at “the cessation date” i’w dehongli yn unol â hynny.
Diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig ar ôl diddymu contractio allan10
1
Mae Pennod 3 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar: diogelu cynyddiadau mewn lleiafsymiau pensiwn gwarantedig (“gwrth-ffrancio”)) wedi ei haddasu fel a ganlyn.
2
Wrth gymhwyso’r Bennod honno i P fel aelod o’r hen gynllun—
a
yn adran 87(1)(a)(i) (egwyddor diogelu gyffredinol), mae’r cyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan gynllun a oedd, cyn yr ail ddyddiad diddymu, yn gynllun seiliedig ar gyflog a gontractiwyd allan, i’w ystyried yn gyfeiriad at y dyddiad pan fo P yn peidio â bod mewn gwasanaeth pensiynadwy mewn perthynas â’r cynllun newydd; a
b
mae cyfeiriadau dilynol at “the cessation date” i’w dehongli yn unol â hynny.
Gwerthoedd trosglwyddo11
1
Mae Pennod 4 o Ran 4 o Ddeddf 1993 (diogelwch ar gyfer ymadawyr cynnar; gwerthoedd trosglwyddo) wedi ei haddasu fel a ganlyn.
2
Wrth gymhwyso’r Bennod honno i P fel aelod o’r hen gynllun, yn—
a
adran 93(1)(a)15 (cwmpas Pennod 4),
b
adran 97(3)(a) (cyfrifo cyfwerthoedd ariannol), ac
c
adran 98(1A) a (3)16 (amrywio a cholli hawliau o dan adran 94),
mae cyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu gwasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd.
Rheoliadau gwerthoedd trosglwyddo12
1
Mae Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) 199617 wedi eu haddasu fel a ganlyn.
2
Wrth gymhwyso rheoliad 3 o’r Rheoliadau hynny (rheolau ar barhad cyflogaeth ar ôl terfynu gwasanaeth pensiynadwy) i P fel aelod o’r hen gynllun—
a
ym mharagraff (1), mae cyfeiriad at gyflogaeth y mae cynllun yn gymwys iddi i’w ystyried yn gyfeiriad at gyflogaeth y mae’r cynllun newydd yn gymwys iddi;
b
ym mharagraff (1)(a), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P yn terfynu ar gais P i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd yn terfynu felly; ac
c
ym mharagraff (1)(b)(i), mae cyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P yn parhau tan y dyddiad gwarant i’w ystyried yn gyfeiriad at wasanaeth pensiynadwy P mewn perthynas â’r cynllun newydd yn parhau felly.
Wrth gymhwyso rheoliad 4 o’r Rheoliadau hynny (hawl i gael cyfwerth ariannol ychwanegol pan derfynir cyflogaeth y mae’r cynllun yn gymwys iddi) i P fel aelod o’r hen gynllun, ym mharagraffau (1), (2), (3)(a) a (4), mae cyfeiriad at derfynu cyflogaeth P i’w ystyried yn gyfeiriad at derfynu cyflogaeth P y mae’r cynllun newydd yn gymwys iddi.
RHAN 4Addasu’r gyfundrefn drethu
Tâl lwfans oes13
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—
a
sy’n aelod o’r hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth cynllun trosglwyddo tybiedig o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);
b
sy’n aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd;
c
y telir iddo bensiwn afiechyd haen uchaf neu haen isaf o dan reoliad 74 (hawlogaeth i bensiwn afiechyd haen isaf a phensiwn afiechyd haen uchaf) o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015; a
d
sydd â phensiwn afiechyd a delir o’r cynllun newydd, sydd wedi ei leihau o ganlyniad i P gael yr hawl i daliad o bensiwn cynllun (o fewn ystyr paragraff 2 o Atodlen 28 i Ddeddf Cyllid 200418) o dan yr hen gynllun.
2
Mae adran 216 o Ddeddf Cyllid 200419 (digwyddiadau crisialu budd a symiau a grisielir) wedi ei haddasu o ran y modd y’i cymhwysir i P, fel y pennir ym mharagraff (3).
3
Mae taliad o unrhyw bensiwn cynllun i P o’r hen gynllun i’w drin fel pe na bai’n ddigwyddiad crisialu budd o fewn ystyr adran 216 o Ddeddf Cyllid 2004.
Tâl lwfans blynyddol14
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—
a
sy’n aelod o’r hen gynllun, pa un ai yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun hwnnw neu wasanaeth cynllun trosglwyddo tybiedig o dan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2013 (cyswllt cyflog terfynol);
b
sy’n aelod o’r cynllun newydd yn rhinwedd gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer y cynllun newydd; ac
c
sy’n cael yr hawl i daliad o bensiwn afiechyd haen isaf o dan reoliad 74 o Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.
2
Mae adran 234 o Ddeddf Cyllid 200420 (trefniadau buddion diffiniedig) wedi ei haddasu o ran y modd y’i cymhwysir i P fel a bennir ym mharagraff (3).
3
Wrth gyfrifo gwerth terfynol hawliau P o dan y cynllun newydd ar gyfer y cyfnod mewnbwn pensiwn pan gaiff P yr hawl i daliad o’r pensiwn afiechyd haen isaf, rhaid peidio â chyfrif fel rhan o’r gwerth terfynol yr elfen o’r pensiwn afiechyd haen isaf sy’n cynrychioli gwasanaeth pensiynadwy ar gyfer yr hen gynllun.
RHAN 5Addasu darpariaethau budd gwasanaeth byr
Budd gwasanaeth byr15
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (P)—
a
sy’n aelod gohiriedig o’r cynllun newydd;
b
sydd â hawl i gael buddion o dan y cynllun newydd; ac
c
y mae—
i
ei hawlogaeth i gael buddion o dan y cynllun newydd wedi ei phenderfynu gan, neu
ii
ei fuddion o dan y cynllun newydd yn cael eu cyfrifo drwy gyfeirio at,
oedran pensiwn gohiriedig P yn hytrach nag oedran pensiwn arferol P.
2
At ddibenion y gofynion yn adrannau 71, 72, 74 a 75 o Ddeddf 199321 ac mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Bennod 1 o Ran 4 o’r Ddeddf honno, fel y maent yn gymwys i P, anwybyddir unrhyw wahaniaeth—
a
rhwng hawlogaeth P i gael buddion o dan y cynllun newydd a hawlogaeth unrhyw aelod actif i gael buddion o dan y cynllun newydd, neu
b
rhwng y cyfrifiad o fuddion P o dan y cynllun newydd ac unrhyw gyfrifiad o fuddion aelod actif o dan y cynllun newydd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)