2016 Rhif 1082 (Cy. 258)
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2016
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2016, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 2 Rhagfyr 2016.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;
ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin3;
ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;
ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw’r ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
Asesu gallu cynhyrchiol tir2
1
Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno’n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
2
Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o’r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
a
yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a
b
y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2016, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
3
Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2015 (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1), yna—
a
yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a
b
y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2016, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw.
YR ATODLENUNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET
Colofn 1 Defnydd ffermio | Colofn 2 Uned gynhyrchu | Colofn 3 Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) | |
---|---|---|---|
1. Da byw | |||
Buchod godro | buwch | 420 | |
Buchod bridio cig eidion: | ar dir mewn ardal lai ffafriol | buwch | -157 |
ar dir arall | buwch | -127 | |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | y pen | -71 (1) | |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | y pen | 106(2) | |
Mamogiaid: | ar dir mewn ardal lai ffafriol | mamog | -26 |
ar dir arall | mamog | -6 | |
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) | y pen | 4.6 | |
Moch: | hychod a banwesod torrog | hwch neu fanwes | 270 |
moch porc | y pen | 12.5 | |
moch torri | y pen | 16.1 | |
moch bacwn | y pen | 19.3 | |
Dofednod: | ieir dodwy | aderyn | 4.6 |
brwyliaid | aderyn | 0.80 | |
cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.40 | |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 6 | |
2. Cnydau âr fferm | |||
Haidd | hectar | -124 | |
Ffa | hectar | -3 | |
Rêp had olew | hectar | 11 | |
Pys sych | hectar | -30 | |
Tatws: | cynnar cyntaf | hectar | 1,240 |
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) | hectar | 2,420 | |
Betys siwgr | hectar | 300 | |
Gwenith | hectar | 20 | |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau | |||
Ffrwythau’r berllan | hectar | 2,370 | |
Ffrwythau meddal | hectar | 7,480 | |
4. Hectarau cymwys | |||
Tir a oedd, yn 2015, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 | tir dan anfantais ddifrifol | hectar | 62.21 |
tir dan anfantais | hectar | 78.19 | |
pob tir arall | hectar | 2.69 | |
(1) Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis, rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn. | |||
(2) Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo’u hoed) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis, rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn. |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)