2016 Rhif 1151 (Cy. 276)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir y Fflint (Cymunedau) 2016

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Cyflwynodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1 i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19722, adroddiad dyddiedig 6 Hydref 2015 ar ei adolygiad o’r trefniadau cymunedol yn Sir y Fflint, a’i gynigion ar gyfer eu newid.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i roi effaith i gynigion y Comisiwn wedi eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru3.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 266(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru4.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir y Fflint (Cymunedau) 2016.

2

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.

3

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20175.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “presennol” (“existing”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19766;

    mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 7 map a farciwyd “Map Gorchymyn Sir y Fflint (Cymunedau) 2016” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “A” i “G”, ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at fap sy’n dwyn y llythyren honno; a

    pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

Newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol3

Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Sir y Fflint yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.

Yr Wyddgrug a Helygain - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol4

1

Mae’r rhan o gymuned Helygain a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned yr Wyddgrug;

b

yn ffurfio rhan o ward Dwyrain yr Wyddgrug yng nghymuned yr Wyddgrug; ac

c

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dwyrain yr Wyddgrug.

2

Yng nghymuned Helygain a ddangosir ar Fap B—

a

mae wardiau cymunedol presennol Helygain, Rhes-y-cae a Rhosesmor wedi eu huno i ffurfio ward gymunedol newydd Mynydd Helygain a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap B;

b

mae ward gymunedol newydd Mynydd Helygain o fewn adran etholiadol Helygain;

c

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward newydd Mynydd Helygain yw 8; a

d

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Pentre Helygain yw 5.

Brychdyn a Bretton a Phen-y-ffordd – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol5

1

Mae’r rhan o gymuned Pen-y-ffordd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C wedi ei throsglwyddo i gymuned Brychdyn a Bretton.

2

Yn y rhan o gymuned Brychdyn a Bretton a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—

a

mae wardiau cymunedol presennol Dwyrain Brychdyn a Bretton a Gogledd Brychdyn a Bretton wedi eu huno i ffurfio ward gymunedol newydd Gogledd-ddwyrain Brychdyn a Bretton;

b

mae ward gymunedol newydd Gogledd-ddwyrain Brychdyn a Bretton o fewn adran etholiadol Gogledd-ddwyrain Brychdyn; ac

c

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward newydd Gogledd-ddwyrain Brychdyn yw 5.

3

Yn y rhan o gymuned Brychdyn a Bretton a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap D—

a

mae hyn yn cynnwys ward De Brychdyn a Bretton;

b

mae’n ffurfio rhan o adran etholiadol De Brychdyn; ac

c

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward De Brychdyn a Bretton yw 9.

Pen-y-ffordd a Kinnerton Uchaf – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol6

Mae’r rhan o gymuned Kinnerton Uchaf a ddangosir â chroeslinellau ar Fap E—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-ffordd; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-y-ffordd.

Pen-y-ffordd a’r Hob – newid i ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol7

Mae’r rhan o gymuned yr Hob a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-ffordd; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-y-ffordd.

Pen-y-ffordd a Choed-llai – newid i ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol8

1

Mae’r rhan o gymuned Coed-llai a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-ffordd; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-y-ffordd.

2

Yng nghymuned Pen-y-ffordd nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol yw 13.

Diwygiadau Canlyniadol9

1

Mae Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 19987 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yng ngholofn (2) o’r Tabl yn yr Atodlen, yn lle’r eitem yn y golofn gyferbyn ag Enw Adran Etholiadol Newydd Helygain rhodder—

  • The Halkyn Mountain ward of the Community of Halkyn

Mark DrakefordYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a hynny wedi eu haddasu. Ym mis Hydref 2015, cyflwynodd y Comisiwn adroddiad ar adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir y Fflint o’r ffiniau cymunedol ar gyfer Sir y Fflint. Yn yr adroddiad, argymhellwyd newidiadau i nifer o ffiniau presennol.

Effaith y Gorchymyn hwn yw bod newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a rhai newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol cymunedol. Mae newidiadau wedi eu gwneud i ffiniau Brychdyn a Bretton, Helygain, Kinnerton Uchaf, yr Hob, Coed-llai, yr Wyddgrug a Phen-y-ffordd. Mae newidiadau etholiadol canlyniadol wedi eu gwneud i’r adrannau etholiadol o fewn cymunedau Brychdyn a Bretton a Helygain.

Mae printiau o’r mapiau ffiniau A i G y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint, ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol).