Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 1151 (Cy. 276)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir y Fflint (Cymunedau) 2016

Gwnaed

25 Tachwedd 2016

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Cyflwynodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1) i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2), adroddiad dyddiedig 6 Hydref 2015 ar ei adolygiad o’r trefniadau cymunedol yn Sir y Fflint, a’i gynigion ar gyfer eu newid.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i roi effaith i gynigion y Comisiwn wedi eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru(3).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 266(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(4).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir y Fflint (Cymunedau) 2016.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017(5).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

ystyr “presennol” (“existing”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(6);

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 7 map a farciwyd “Map Gorchymyn Sir y Fflint (Cymunedau) 2016” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “A” i “G”, ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at fap sy’n dwyn y llythyren honno; a

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

Newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol

3.  Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Sir y Fflint yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.

Yr Wyddgrug a Helygain - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

4.—(1Mae’r rhan o gymuned Helygain a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned yr Wyddgrug;

(b)yn ffurfio rhan o ward Dwyrain yr Wyddgrug yng nghymuned yr Wyddgrug; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dwyrain yr Wyddgrug.

(2Yng nghymuned Helygain a ddangosir ar Fap B—

(a)mae wardiau cymunedol presennol Helygain, Rhes-y-cae a Rhosesmor wedi eu huno i ffurfio ward gymunedol newydd Mynydd Helygain a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap B;

(b)mae ward gymunedol newydd Mynydd Helygain o fewn adran etholiadol Helygain;

(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward newydd Mynydd Helygain yw 8; a

(d)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Pentre Helygain yw 5.

Brychdyn a Bretton a Phen-y-ffordd – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

5.—(1Mae’r rhan o gymuned Pen-y-ffordd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C wedi ei throsglwyddo i gymuned Brychdyn a Bretton.

(2Yn y rhan o gymuned Brychdyn a Bretton a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—

(a)mae wardiau cymunedol presennol Dwyrain Brychdyn a Bretton a Gogledd Brychdyn a Bretton wedi eu huno i ffurfio ward gymunedol newydd Gogledd-ddwyrain Brychdyn a Bretton;

(b)mae ward gymunedol newydd Gogledd-ddwyrain Brychdyn a Bretton o fewn adran etholiadol Gogledd-ddwyrain Brychdyn; ac

(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward newydd Gogledd-ddwyrain Brychdyn yw 5.

(3Yn y rhan o gymuned Brychdyn a Bretton a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap D—

(a)mae hyn yn cynnwys ward De Brychdyn a Bretton;

(b)mae’n ffurfio rhan o adran etholiadol De Brychdyn; ac

(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward De Brychdyn a Bretton yw 9.

Pen-y-ffordd a Kinnerton Uchaf – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

6.  Mae’r rhan o gymuned Kinnerton Uchaf a ddangosir â chroeslinellau ar Fap E—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-ffordd; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-y-ffordd.

Pen-y-ffordd a’r Hob – newid i ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol

7.  Mae’r rhan o gymuned yr Hob a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-ffordd; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-y-ffordd.

Pen-y-ffordd a Choed-llai – newid i ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol

8.—(1Mae’r rhan o gymuned Coed-llai a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Pen-y-ffordd; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pen-y-ffordd.

(2Yng nghymuned Pen-y-ffordd nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol yw 13.

Diwygiadau Canlyniadol

9.—(1Mae Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 1998(7) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yng ngholofn (2) o’r Tabl yn yr Atodlen, yn lle’r eitem yn y golofn gyferbyn ag Enw Adran Etholiadol Newydd Helygain rhodder—

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

25 Tachwedd 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a hynny wedi eu haddasu. Ym mis Hydref 2015, cyflwynodd y Comisiwn adroddiad ar adolygiad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir y Fflint o’r ffiniau cymunedol ar gyfer Sir y Fflint. Yn yr adroddiad, argymhellwyd newidiadau i nifer o ffiniau presennol.

Effaith y Gorchymyn hwn yw bod newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a rhai newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol cymunedol. Mae newidiadau wedi eu gwneud i ffiniau Brychdyn a Bretton, Helygain, Kinnerton Uchaf, yr Hob, Coed-llai, yr Wyddgrug a Phen-y-ffordd. Mae newidiadau etholiadol canlyniadol wedi eu gwneud i’r adrannau etholiadol o fewn cymunedau Brychdyn a Bretton a Helygain.

Mae printiau o’r mapiau ffiniau A i G y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint, ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol).

(1)

Enw blaenorol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) oedd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. O dan Ddeddf 2013, parhaodd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru mewn bodolaeth ond fe’i hailenwyd yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2). Gweler troednodyn (2) isod am ddarpariaethau arbed a wnaed yn Neddf 2013 sy’n gymwys i Ran 4 o Ddeddf 1972.

(2)

1972 p. 70. Diddymwyd adrannau 53 i 61 o Ddeddf 1972 gan adran 73 o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi ond yn unol ag adran 74(1) a (2) o Ddeddf 2013 maent yn parhau mewn effaith at ddiben cwblhau adolygiadau a oedd yn cael eu cynnal pan ddaeth Rhan 3 o Ddeddf 2013 i rym ar 30 Medi 2013 ac at ddiben y cynigion a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru cyn yr adeg honno. Diwygiwyd adran 74(2) o Ddeddf 2013 gan adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (dccc 6) er mwyn caniatáu i adolygiadau a gwblhawyd cyn 30 Medi 2013 gael eu gweithredu o dan Ddeddf 1972.

(3)

Mae adran 58(2) o Ddeddf 1972 yn darparu na chaniateir gwneud gorchymyn sy’n rhoi effaith i unrhyw gynigion a wneir i Weinidogion Cymru gan y Comisiwn tan fod chwe wythnos wedi mynd heibio ers y diwrnod y cyflwynwyd y cynigion hynny i Weinidogion Cymru.

(4)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 iddi.

(5)

Diwygiwyd Deddf 1972 gan Orchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3033 (Cy. 302)) drwy symud y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn ôl un flwyddyn o 2016 i 2017.