2016 Rhif 1155 (Cy. 277)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) 2016

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1 wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19722, adroddiad dyddiedig 22 Chwefror 2016 ar ei adolygiad o drefniadau cymunedol yn Ninas a Sir Caerdydd, a’i gynigion ar gyfer eu newid.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i roi effaith i gynigion y Comisiwn wedi eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru3.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru4.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) 2016.

2

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.

3

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20175.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19766;

    mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r naw map a farciwyd “Map Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) 2016”, a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd yn “A” i “I” ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at fap sy’n dwyn y llythyren honno; a

    pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

Newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol3

Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Dinas a Sir Caerdydd yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.

Cyncoed a Phentwyn - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol4

1

Mae’r rhan o gymuned Cyncoed a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Pentwyn; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentwyn.

2

Mae’r rhan o gymuned Pentwyn a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap A—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Cyncoed; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cyncoed.

Llanisien a Chyncoed - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol5

Mae’r rhan o gymuned Llanisien a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Cyncoed; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cyncoed.

Llanisien - creu cymuned newydd y Ddraenen6

Mae cymuned newydd y Ddraenen wedi ei chreu ac—

a

yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanisien.

Llanrhymni a Thredelerch - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol7

Mae’r rhan o gymuned Llanrhymni a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Tredelerch; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tredelerch.

Pentwyn a Chyncoed - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol8

Mae’r rhan o gymuned Pentwyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap E—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Cyncoed; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cyncoed.

Pentwyn a Chyncoed - creu cymuned newydd Llanedern9

Mae cymuned newydd Llanedern wedi ei chreu ac—

a

yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentwyn.

Glanyrafon - creu cymuned newydd Pontcanna10

Mae cymuned newydd Pontcanna wedi ei chreu ac—

a

yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Glanyrafon.

Y Sblot - creu cymuned newydd Tremorfa11

Mae cymuned newydd Tremorfa wedi ei chreu ac—

a

yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap H; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol y Sblot.

Trowbridge a Thredelerch - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol12

Mae’r rhan o gymuned Trowbridge a ddangosir â chroeslinellau ar Fap I—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Tredelerch; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tredelerch.

Carwyn JonesPrif Weinidog Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a hynny wedi eu haddasu. Ym mis Chwefror 2016, cyflwynodd y Comisiwn adroddiad ar ei adolygiad o drefniadau cymunedol ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd. Yn yr adroddiad, argymhellwyd newidiadau i nifer o ffiniau cymunedol presennol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a rhai newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol. Mae newidiadau wedi eu gwneud i’r ffiniau rhwng cymunedau Cyncoed a Phentwyn, Llanisien a Chyncoed, Llanrhymni a Thredelerch, a Trowbridge a Thredelerch.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn creu’r cymunedau newydd a ganlyn: y Ddraenen o fewn cymuned bresennol Llanisien, Llanedern o fewn cymunedau presennol Pentwyn a Chyncoed, Pontcanna o fewn cymuned bresennol Glanyrafon, a Thremorfa o fewn cymuned bresennol y Sblot.

Mae newidiadau canlyniadol wedi eu gwneud i’r adrannau etholiadol o fewn cymunedau Cyncoed, Pentwyn, Llanisien, Llanrhymni, Tredelerch a Trowbridge.

Mae printiau o’r mapiau ffiniau A i I y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol).