Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 1155 (Cy. 277)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) 2016

Gwnaed

28 Tachwedd 2016

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1) wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2), adroddiad dyddiedig 22 Chwefror 2016 ar ei adolygiad o drefniadau cymunedol yn Ninas a Sir Caerdydd, a’i gynigion ar gyfer eu newid.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i roi effaith i gynigion y Comisiwn wedi eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru(3).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(4).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) 2016.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017(5).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(6);

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r naw map a farciwyd “Map Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau) 2016”, a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd yn “A” i “I” ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at fap sy’n dwyn y llythyren honno; a

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

Newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol

3.  Mae newidiadau wedi eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Dinas a Sir Caerdydd yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.

Cyncoed a Phentwyn - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

4.—(1Mae’r rhan o gymuned Cyncoed a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Pentwyn; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentwyn.

(2Mae’r rhan o gymuned Pentwyn a ddangosir â llinellau rhwyllog ar Fap A—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cyncoed; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cyncoed.

Llanisien a Chyncoed - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

5.  Mae’r rhan o gymuned Llanisien a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cyncoed; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cyncoed.

Llanisien - creu cymuned newydd y Ddraenen

6.  Mae cymuned newydd y Ddraenen wedi ei chreu ac—

(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanisien.

Llanrhymni a Thredelerch - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

7.  Mae’r rhan o gymuned Llanrhymni a ddangosir â chroeslinellau ar Fap D—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Tredelerch; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tredelerch.

Pentwyn a Chyncoed - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

8.  Mae’r rhan o gymuned Pentwyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap E—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cyncoed; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cyncoed.

Pentwyn a Chyncoed - creu cymuned newydd Llanedern

9.  Mae cymuned newydd Llanedern wedi ei chreu ac—

(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentwyn.

Glanyrafon - creu cymuned newydd Pontcanna

10.  Mae cymuned newydd Pontcanna wedi ei chreu ac—

(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Glanyrafon.

Y Sblot - creu cymuned newydd Tremorfa

11.  Mae cymuned newydd Tremorfa wedi ei chreu ac—

(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â chroeslinellau ar Fap H; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol y Sblot.

Trowbridge a Thredelerch - newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol

12.  Mae’r rhan o gymuned Trowbridge a ddangosir â chroeslinellau ar Fap I—

(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Tredelerch; a

(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tredelerch.

Carwyn Jones

Prif Weinidog Cymru

28 Tachwedd 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a hynny wedi eu haddasu. Ym mis Chwefror 2016, cyflwynodd y Comisiwn adroddiad ar ei adolygiad o drefniadau cymunedol ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd. Yn yr adroddiad, argymhellwyd newidiadau i nifer o ffiniau cymunedol presennol.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a rhai newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol. Mae newidiadau wedi eu gwneud i’r ffiniau rhwng cymunedau Cyncoed a Phentwyn, Llanisien a Chyncoed, Llanrhymni a Thredelerch, a Trowbridge a Thredelerch.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn creu’r cymunedau newydd a ganlyn: y Ddraenen o fewn cymuned bresennol Llanisien, Llanedern o fewn cymunedau presennol Pentwyn a Chyncoed, Pontcanna o fewn cymuned bresennol Glanyrafon, a Thremorfa o fewn cymuned bresennol y Sblot.

Mae newidiadau canlyniadol wedi eu gwneud i’r adrannau etholiadol o fewn cymunedau Cyncoed, Pentwyn, Llanisien, Llanrhymni, Tredelerch a Trowbridge.

Mae printiau o’r mapiau ffiniau A i I y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol).

(1)

Enw blaenorol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) oedd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. O dan Ddeddf 2013, parhaodd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru i fodoli ond fe’i hailenwyd yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2). Gweler troednodyn (2) isod ar gyfer darpariaethau arbed yn Neddf 2013 sy’n gymwys i Ran 4 o Ddeddf 1972.

(2)

1972 p. 70. Diddymwyd adrannau 53 i 61 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi ond, yn unol ag adran 74(1) a (2) o Ddeddf 2013, mae’n parhau mewn effaith at ddiben cwblhau adolygiadau a oedd yn cael eu cynnal pan ddaeth Rhan 3 o Ddeddf 2013 i rym ar 30 Medi 2013 ac at ddiben y cynigion a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru cyn yr adeg honno. Diwygiwyd adran 74(2) o Ddeddf 2013 gan adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (dccc 6) er mwyn caniatáu i adolygiadau a gwblhawyd cyn 30 Medi 2013 gael eu gweithredu o dan Ddeddf 1972.

(3)

Mae adran 58(2) o Ddeddf 1972 yn darparu na chaniateir gwneud gorchymyn sy’n rhoi effaith i unrhyw gynigion a wneir i Weinidogion Cymru gan y Comisiwn tan fod chwe wythnos wedi mynd heibio ers y diwrnod y cyflwynwyd y cynigion hynny i Weinidogion Cymru.

(4)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 iddi.

(5)

Diwygiwyd Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3033 (Cy. 302)) gan Ddeddf 1972 drwy symud y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr un flwyddyn yn ôl o 2016 i 2017.