Argraffwyd yr Offeryn Statudol Cymreig hwn yn lle’r OSC sy’n dwyn yr un rhif ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol Cymreig hwnnw.
2016 Rhif 1220 (Cy. 291)
Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(3)(a) a 175 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 20111, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2016.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ionawr 2017.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011; ac
ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 20122.
Diwygiadau i Reoliadau 2012
3
Yn lle rheoliad 3 (cwestiynau a ffurflen yr arolwg) o Reoliadau 2012, rhodder—
Cwestiynau a ffurf yr arolwg3
At ddibenion adran 1(3)(a) o’r Mesur, mae’r cwestiynau a’r ffurf y maent i gael eu gofyn ynddynt wedi eu dangos yn—
a
Rhannau 1, 2 a 4 o’r Atodlen os cynhelir yr arolwg yn unol ag adran 1(3A)(b) o’r Mesur; a
b
Rhannau 1, 3 a 4 o’r Atodlen os cynhelir yr arolwg yn unol ag adran 1(3A)(a) o’r Mesur.
4
Yn lle’r Atodlen i Reoliadau 2012 (Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol yng Nghymru), rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
YR ATODLEN 1Arolwg o Ymgeiswyr Llywodraeth Leol yng Nghymru
RHAN 1
RHAN 2
RHAN 3
RHAN 4
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)